Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd T Ll Hughes ddiddordeb personol mewn perthynas ag Eitem 3, ond yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol roedd modd iddo gymryd rhan yn y drafodaeth ac i bleidleisio wedi hynny.

 

2.

Cau allan y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 25 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol :-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A)(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem a ganlyn oherwydd gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 12, Rhan 1 o Atodlen 12A i’r Ddeddf honno a’r Prawf Budd y Cyhoedd sydd ynghlwm.”

3.

Galw i Fewn Penderfyniad a wnaed gan yr Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo - Argymhelliad i werthu hen Ysgol Llaingoch yn derbyn y cynnig uchaf

Penderfyniad a wnaed gan yr Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaeth Priffrydd, Gwastraff ac Eiddo ar 30 Awst, 2018 ac a gyhoeddwyd wedyn ar 6 Medi, 2018 mewn perthynas ag argymhelliad i werthu hen Ysgol Llaingoch, a derbyn y cynnig uchaf wedi cael ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter S Rogers, Eric Wyn Jones, Bryan Owen and Aled Morris Jones.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn :-

 

·      Y Penderfyniad a gyhoeddwyd ar 6 Medi, 2018

 

·      Y Cais Galw i Fewn

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo ar 30 Awst, 2018 ac a gyhoeddwyd ar 6 Medi, 2018 mewn perthynas ag argymhelliad i werthu hen Ysgol Llaingoch a derbyn y cynnig uchaf ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Shaun Redmond, Peter S Rogers, Eric Wyn Jones, Bryan Owen ac Aled Morris Jones.

 

Esboniodd y Cynghorydd Shaun Redmond, fel Aelod Arweiniol y Cais Galw i Mewn, y rhesymau dros alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Deilydd Portffolio ar gyfer y Gwasanaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a gyhoeddwyd ar 6 Medi, 2018. Roedd y Cynghorydd Redmond o’r farn nad oedd y penderfyniad i werthu hen safle Ysgol Llaingoch am y cynnig uchaf wedi cael ei ystyried yn llawn ac nad oedd y penderfyniad yn cynnig y gwerth gorau gan y dylid fod wedi marchnata’r safle gyda chaniatâd cynllunio. Ymhellach, amlinellodd y ffigyrau ar gyfer safleoedd tebyg a’r posibiliadau ar gyfer hen safle Ysgol Llaingoch.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Eric Wyn Jones, Peter Rogers a Bryan Owen fel rhai a oedd wedi llofnodi’r cais galw i mewn gan ddweud na wireddwyd gwerth y safle o ganlyniad i dderbyn y bid ar gyfer safle Ysgol Llaingoch. Dywedodd y Cynghorydd Rogers nad yw’r potensial ar gyfer y safle wedi cael ei ystyried ac y dylid ei ail-farchnata. Yn ychwanegol, dywedodd yr Aelodau fod y cae chwarae wedi cael ei golli hefyd, a oedd yn ased i blant ardal Llaingoch.

 

Nododd Arweinydd y Cyngor ei bod yn cynrychioli’r Deilydd Portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo a oedd yn methu bod yn bresennol oherwydd trefniadau blaenorol. Cyflwynodd ymateb manwl i’r cwestiynau a gyflwynwyd gan yr Aelodau a oedd wedi arwyddo’r cais Galw i Mewn a dywedodd fod safle Ysgol Llaingoch wedi cael ei farchnata yn y lle cyntaf ym mis Awst 2017, ar wefan y farchnad eiddo, yn unol â Chynllun Rheoli Asedau’r Cyngor. Cyflwynodd fanylion am y cynigion a dderbyniwyd ar gyfer y safle a’r broses ar gyfer prisio’r safle drwy’r Prisiwr Ardal a Phrif Swyddog Prisio’r Cyngor. Ychwanegodd yr Arweinydd nad yw’r tir ar y safle yn gyfystyr â chae chwarae mewn perthynas â’r safle hwn.

 

Yn dilyn hynny, rhoddwyd cyfle i’r Aelodau a oedd wedi llofnodi’r Cais Galw i Mewn, Arweinydd y Cyngor a Swyddogion grynhoi.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod gan y Pwyllgor dri opsiwn wrth ddod i benderfyniad ynglŷn â’r cais galw i mewn, fel a ganlyn:-

 

           Gwrthod y cais galw i mewn.

           Gwrthod penderfyniad y Deilydd Portffolio a chyfeirio’r mater i’r Pwyllgor Gwaith gydag argymhelliad fod y penderfyniad yn cael ei ailystyried a/neu ei ddiwygio.

           Gwrthod penderfyniad y Deilydd Portffolio a chyfeirio’r mater, gydag argymhelliad, i’r Cyngor Llawn.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Lewis Davies fod y cais galw i mewn yn cael ei wrthod, ac eiliwyd y cynnig  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.