Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 94 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·         8 Hydref, 2018 (arbennig)

·         24 Hydref, 2018

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol eu cyflwyno ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir:- 

 

·      8 Hydref, 2018 (cyfarfod arbennig);

·      24 Hydref, 2018 (yn amodol ar gynnwys y ffaith bod y Cynghorydd John Griffith yn bresennol yn y cyfarfod).

 

 

3.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 819 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’r Pwyllgor adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, yn cynnwys Blaenraglen Waith bresennol y Pwyllgor ar gyfer 2017/18 i 2019/20. 

 

PENDERFYNWYD derbyn y Blaenraglen Waith. 

 

GWEITHRED: Dim 

 

4.

Cynllun Ymgynghori ar Gyllideb 2019/20 pdf eicon PDF 809 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid yn cynnwys cynllun arfaethedig ar gyfer cynnal y broses ymgynghori cyhoeddus ar Gyllideb 2019/20 yn ystod y cyfnod rhwng 12 Tachwedd a 31 Rhagfyr, 2018 at sylw’r Pwyllgor.

 

Adroddodd Deilydd Portffolio Busnes y Cyngor fod y cam mewnol cychwynnol o’r broses o ymgynghori ar y Gyllideb h.y. gydag Aelodau Etholedig a Swyddogion y Cyngor, wedi’i gwblhau. Yn ogystal, trafodwyd y cynllun gyda’r Bwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori yn ddiweddar a roddodd arweiniad bod angen gwell presenoldeb a thrafodaethau gyda phobl ifanc fel rhan o’r cynllun ymgynghori eleni. Mae’r ail gam er mwyn sicrhau cymaint o

fewnbwn ac ymateb gan gynifer o drigolion Ynys Môn a phosibl. 

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr Ymgynghoriad ar y Cynigion Ariannol / Cynllun Cyfathrebu a gwnaed y pwyntiau canlynol:-

 

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran y broses mewn perthynas ag ymgysylltu a derbyn sylwadau gan bobl ifanc mewn perthynas â’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb. Eglurodd Arweinydd y Cyngor beth oedd y broses ymgynghori ar y gyllideb y llynedd a nododd ei bod wedi mynychu Ysgolion Uwchradd yr Ynys. Dywedodd hefyd y byddai’r un peth yn digwydd eleni ynghyd â sesiwn ‘Hawl i Holi’ a fyddai’n cael ei threfnu gyda chynrychiolwyr ‘Llais Ni’ a disgyblion o bob oed i gymryd rhan yn y broses ymgynghori ariannol. Dywedodd hefyd yr ymgysylltwyd â chynrychiolwyr o’r Urdd, Ffermwyr Ifanc Ynys Môn a phobl ifanc digartref fel y gellir trefnu sesiwn iddynt gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynigion Ariannol y Cyngor;   

·      Cyfeiriwyd at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a chodwyd cwestiynau a yw’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn cael ei ymgynghori ag ef o ran y broses ymgynghori a’r effaith bosibl y bydd y cynigion am arbedion yn eu cael ar randdeiliaid y Cyngor. Dywedodd Arweinydd y Cyngor y bydd partneriaid y Cyngor yn cael eu gwahodd, fel y llynedd, i drafod y cynigion ariannol hyn. 

 

PENDERFYNWYD cytuno i’r Cynllun Ymgynghori ar y Gyllideb ar gyfer 2019/20 ac i argymell i’r Pwyllgor Gwaith y dylid ei fabwysiadu. 

 

(Ymataliodd y Cynghorwyr Aled M Jones a Bryan Owen eu pleidlais).

 

GWEITHRED:  Fel y nodwyd uchod.

 

5.

Gwahardd y Wasg a'r Cyhoedd pdf eicon PDF 168 KB

Ystyried mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100(A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, gwahardd y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol oherwydd y tebygrwydd y gall olygu datgelu gwybodaeth  eithriedig fel y’i diffinnir yn Atodlen 12A o’r Ddeddf honno ac yn y Prawf Budd y Cyhoedd sydd wedi’i atodi.”

Cofnodion:

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r canlynol:-

 

“O dan Adran 100 (A) (4) Deddf Llywodraeth Leol 1972, cau allan y wasg a'r cyhoedd o'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol ar y sail y gallai olygu datgelu gwybodaeth eithriedig fel y'i diffinnir yn Atodlen 12A y Ddeddf a’r Prawf Budd y Cyhoedd fel y cyflwynwyd nhw.”

 

6.

Gosod Cyllideb 2019/20 - Cynigion Cychwynnol

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 yn amlinellu’r cyd-destun ar gyfer y broses o osod cyllideb 2019/20. Mae’r adroddiad a oedd wedi’i gynnwys yn Atodiad 1 yn nodi’r cynigion cychwynnol ar gyfer cyllideb 2019/20. Mae’r papur yn darparu datganiad sefyllfa ar y materion canlynol:-

 

·      Cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith  ar y gyllideb

·      Setliad Cychwynnol Llywodraeth Leol (Llywodraeth Cymru)

·      Y Dreth Gyngor

·      Arian wrth gefn a balansau cyffredinol

·      Cynigion am arbedion

·      Pwysau ar y gyllideb

·      Risgiau

·      Effaith ar y Cynllun Ariannol Tymor Canol

 

Adroddodd y Deilydd Portffolio Cyllid y bydd gosod cyllideb ar gyfer 2019/20 yn heriol o ganlyniad i’r setliad dros dro ar y gyllideb sydd wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar 9 Hydref 2018, yn cynnwys toriad o 1% yn y gyllideb. Nododd bod y Cyngor, cyn adnabod unrhyw arbedion a chynyddu’r Dreth Gyngor neu bremiwm y Dreth Gyngor, yn wynebu bwlch ariannol o £7.156 miliwn ar gyfer blwyddyn ariannol 2019/20. Mae’r gwasanaethau o fewn y Cyngor wedi adnabod arbedion o £3.7 miliwn ac mae Aelodau Etholedig wedi eu hysbysu am fanylion yr arbedion hynny yn ystod Sesiynau Briffio ac mae’r manylion wedi eu cynnwys yn Atodiad 4 yr adroddiad hwn i’r Pwyllgor. Cyfeiriodd ymhellach at falansau arian wrth gefn y Cyngor a oedd yn £6.9 miliwn ar 31 Mawrth 2018, sef ychydig uwchben yr isafswm angenrheidiol fel yr aseswyd gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) /Swyddog Adran 151. Fodd bynnag, mae’r rhagamcaniad ar gyfer cyllideb 2018/19 yn darogan gorwariant o £2 filiwn a bydd yn rhaid i hyn gael ei ariannu o’r arian wrth gefn cyffredinol a fydd yn golygu y bydd lefel yr arian wrth gefn cyffredinol yn is nag isafswm y balans sy’n cael ei argymell. Fodd bynnag, yn dilyn y cyhoeddiad ynghylch cyllideb y DU ar 29 Hydref, 2018, dywedodd y disgwylir y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn cyllid ychwanegol (fel rhan o’r fformiwla Barnett i Gymru), ac mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai Llywodraeth Leol sydd ar ‘flaen y ciw’ i dderbyn unrhyw gyllid ychwanegol sydd ar gael. Dywedodd y Deilydd Portffolio hefyd fod Llywodraeth Cymru yn ystyried yn ogystal sut i ariannu’r costau’r Pensiwn newydd i Athrawon gan y bydd yn fwrn ariannol ar awdurdodau lleol. Roedd yn dymuno nodi diwygiad i’r adroddiad sef y byddai’r cynnig ar gyfer y gwasanaeth casglu clytiau yn cael ei ymgynghori arno yn ystod y broses o ymgynghori ar Gyllideb 2019/20.      

 

Adroddodd y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 fod y Cynllun Ariannol Tymor Canol yn nodi nifer o ragdybiaethau ac mae’r rhain wedi eu cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo’r gyllideb ddigyfnewid ar gyfer 2019/20. Cyfeiriodd at y Gyllideb Ddigyfnewid o ran y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor ar hyn o bryd ac sy’n amlygu’r gofynion ar gyfer cyllid ychwanegol i wasanaethau sydd o dan bwysau ariannol h.y. Gwasanaethau Plant. Dywedodd fod y ‘Newidiadau Ymrwymedig’ o fewn y gyllideb yn newidiadau sy’n cael eu hystyried wrth lunio’r gyllideb ddigyfnewid a’u bod yn adlewyrchu cynnydd/gostyngiad mewn costau sydd y tu hwnt i  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.