Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1 - Swyddfeydd y Cyngor

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Protocol Siarad Cyhoeddus - Pwyllgorau Sgriwtini pdf eicon PDF 822 KB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro.

Cofnodion:

Cafodd adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro a oedd yn cynnwys y Protocol Siarad Cyhoeddus mewn Pwyllgorau Sgriwtini ei gyflwyno i'r Pwyllgor ei ystyried a chynnig sylwadau cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith ac wedyn i'r Cyngor Llawn i benderfynu a fyddai’n cael ei fabwysiadu ai peidio.

 

Cyflwynodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol y Protocol i'r Pwyllgor gan ddweud ei fod wedi'i gynllunio i gynorthwyo Cadeiryddion Sgriwtini yn eu gwaith heb effeithio ar eu hawdurdod na'u pwerau ac i ddarparu proses glir a hygyrch i'r cyhoedd allu lleisio eu barn i'r pwyllgorau sgriwtini.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethu Corfforaethol) fod datblygiadau deddfwriaethol diweddar wedi pwysleisio gofyniad cyfreithiol i wrando ar lais y cyhoedd a bod cynnwys y cyhoedd yn hanfodol wrth i Gynghorau wneud penderfyniadau. O dan y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd, 2019 y rhagwelir y bydd yn derbyn Cydsyniad Brenhinol yn ystod Haf 2020, mae dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol. Mae rhesymau ymarferol hefyd dros gyflwyno'r Protocol o ran sicrhau cysondeb a thryloywder i'r cyhoedd, i'r Aelodau ac i Swyddogion. Mae'r ddeddfwriaeth yn canolbwyntio ar alluogi pobl leol i leisio'u barn ynglŷn â materion sy'n effeithio arnynt, neu a allai effeithio arnynt. Er ei bod yn bosibl siarad yn gyhoeddus mewn pwyllgorau craffu ar hyn o bryd, gan nad oes canllaw gweithdrefnol wedi'i gyhoeddi, efallai nad yw'r cyhoedd yn ymwybodol eu bod yn gallu gwneud hynny. Mae'r Protocol yn rhoi cyfle i roi canllawiau clir, teg a ffurfiol ar waith i roi gwybod i'r cyhoedd ac Aelodau'r Pwyllgor am y trefniadau ac i sicrhau bod y disgwyliadau ynghylch y broses siarad cyhoeddus yn cael eu rheoli. Yn amodol ar gymeradwyaeth, bydd y Protocol terfynol yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor yn ogystal ag ar safleoedd cyfryngau cymdeithasol fel y gall y pwyllgorau Sgriwtini gyrraedd y cyhoedd, gan gynnwys cynulleidfaoedd nad yw o bosibl wedi’u cyrraedd o'r blaen.

 

O ran manylion y Protocol, cyfeiriodd y Swyddog at y prif ddarpariaethau fel a ganlyn–

 

           Bydd y Swyddogion yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol o dan y Protocol mewn ymgynghoriad â'r Cadeirydd Sgriwtini perthnasol;

           Gall aelodau'r cyhoedd wneud cais i siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Sgriwtini os ydynt wedi cyflwyno cais ysgrifenedig i'r Swyddog Sgriwtini o leiaf 3 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y Pwyllgor. Rhaid gwneud y cais ysgrifenedig gan ddefnyddio'r ffurflen berthnasol o wefan y Cyngor a dylid annog y cyhoedd i’w hanfon ar-lein.

           Dylai unrhyw geisiadau/dogfennau ysgrifenedig hefyd fod ar gael 3 diwrnod gwaith cyn cyfarfod y pwyllgor ar yr un pryd ag y cofrestrir y cais i siarad. Mae hyn yn sicrhau cydbwysedd teg rhwng caniatáu digon o amser i'r unigolyn gofrestru cais i siarad a pharatoi'r wybodaeth berthnasol, a sicrhau bod gan Swyddogion ddigon o amser i wneud y trefniadau gweinyddol angenrheidiol gan gynnwys gwirio addasrwydd unrhyw ddeunydd a gyflwynir. Mae hefyd yn rhoi amser i Aelodau'r Pwyllgor baratoi ar gyfer y wybodaeth a gyflwynir.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Monitro Perfformiad : Cerdyn Sgorio Corfforaethol Ch3 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) A Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cynnwys y trydydd Cerdyn Sgorio am y flwyddyn ariannol 2019/20 sy’n darlunio sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 3  i’r Pwyllgor ei ystyried a chraffu arno.

 

Adroddodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Busnes Corfforaethol ei bod yn braf gallu adrodd bod 86% o ddangosyddion perfformiad ar ddiwedd Chwarter 3 yn parhau i berfformio'n uwch na'r targed neu o fewn goddefiant o 5% o'u targedau a bod y Cyngor yn parhau i wella wrth ddarparu ei wasanaethau.

 

Cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen, Cynllunio Busnes a Pherfformiad fod Cerdyn Sgorio Chwarter 3 yn adlewyrchu un o berfformiadau gorau'r Cyngor ers cyflwyno adroddiad monitro'r cerdyn sgorio yn 2013. Mae DPA monitro perfformiad ar gyfer 2019/20 yn cyd-fynd â thri amcan strategol y Cyngor; ar ddiwedd Chwarter 3 mae'r perfformiad a fesurwyd felly wedi bod fel a ganlyn –

 

           O dan Amcan 1 (Sicrhau y gall pobl Ynys Môn ffynnu a gwireddu eu potensial tymor hir) mae 9 o'r 13 DPA yn Wyrdd.

           O dan Amcan 2 (Cefnogi oedolion a theuluoedd bregus i'w cadw'n ddiogel, yn iach ac mor annibynnol â phosib) mae 12 o'r 17 DPA yn Wyrdd.

           O dan Amcan 3 (Gweithio mewn partneriaeth â'n cymunedau i sicrhau eu bod yn gallu ymdopi'n effeithiol gyda newid a datblygiadau tra’n amddiffyn ein hamgylchedd naturiol) Mae 4 o'r 6 DPA yn Wyrdd a 2 yn Felyn.

 

Wrth drafod yr adroddiad, gofynnodd y Pwyllgor i’r swyddogion ddadansoddi ac esbonio ymhellach yr agweddau canlynol ar berfformiad nad oeddent yn cyrraedd y targed. Dywedwyd wrth y Pwyllgor –

 

           O ran Dangosydd (04b)   Cyfanswm canran y cwynion yr ymatebwyd yn ysgrifenedig iddynt o fewn 15 diwrnod (Gwasanaethau Cymdeithasol)  a oedd yn GOCH gyda pherfformiad o 59% yn erbyn targed o 80%, fod y Gwasanaeth yn gweithio gyda'r Swyddog Cwynion i wella perfformiad a gyda rheolwyr tîm i sicrhau ymateb amserol i gwynion. Fodd bynnag, nid yw'r ffigur yn adlewyrchu'r ffaith bod y Gwasanaeth yn gofyn am gytundeb yr achwynydd i fynd y tu hwnt i'r amserlen mewn achosion lle mae'r gŵyn yn gymhleth, a’i fod yn diweddaru’r achwynydd am y sefyllfa. Er bod y Gwasanaeth yn ymateb yn brydlon wrth dderbyn cwyn a hefyd wrth drafod y gŵyn gyda'r achwynydd, dim ond o ran darparu ymateb ysgrifenedig y mae'r Gwasanaeth yn tanberfformio.

           O ran Dangosydd 19 - Cyfradd y bobl sy’n cael eu cadw yn yr ysbyty tra’n aros am ofal cymdeithasol am bob 1000 o'r boblogaeth 75+ oed a oedd yn GOCH ar y cerdyn sgorio gyda pherfformiad o 6 yn erbyn targed o 3,  yn gyffredinol mae'r contractau gofal cartref newydd ar sail ardal yn helpu i ryddhau pobl yn gyflym pan fydd ganddynt becynnau wedi'u sefydlu. Fodd bynnag, oherwydd y pwysau o sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth ail-alluogi i bawb sy'n newydd i wasanaethau, mae sicrhau capasiti digonol yn her. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, mae'r Gwasanaeth yn ceisio sicrhau bod y rhai  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Monitro Cynnydd: Cynllun Datblygu'r Gwasanaethau Cymdeithasol pdf eicon PDF 765 KB

Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn amlinellu'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Cynllun Datblygu Gwasanaethau Cymdeithasol i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dywedodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol fod y diweddariad yn darparu gwybodaeth am y gwaith/gweithgareddau sy'n cael neu wedi'u cyflawni mewn ymateb i Adolygiad Perfformiad Awdurdod Lleol AGC (Llythyr Adolygu dyddiedig Hydref 2019) a'i ymweliad monitro â Gwasanaethau Plant (cafwyd yr adborth ar Hydref 2019), ac fel rhan o waith parhaus y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae'r Gwasanaeth yn ymwybodol o'r hyn sydd angen ei wneud i wynebu heriau gwelliant parhaus ac mae'n parhau i ymrwymo i'r dasg.

 

Nododd y Pwyllgor y wybodaeth a gyflwynwyd a gofynnodd am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn rheoli'r risg a berir gan alw cynyddol yn enwedig mewn perthynas â chyllidebau Gwasanaethau Oedolion lle rhagwelir y bydd gorwariant sylweddol erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y gorwariant rhagamcanol yn deillio'n rhannol o faterion yn y gorffennol. Mae'r gyllideb arfaethedig ar gyfer 2020/21 yn ceisio unioni’r meysydd hynny lle bu gorwariant yn y gorffennol. Mae'r Gwasanaeth yn parhau i graffu ar wariant o fewn Gwasanaethau Oedolion ac mae wedi rhoi cynllun ar waith i fonitro gwariant yn y maes hwn a bydd yn adrodd yn ôl i’r Pwyllgor Sgriwtini. Mae rheoli gwariant mewn gwasanaeth sy'n seiliedig ar alw yn her ac mae Gwasanaethau Oedolion wedi bod dan bwysau yn ddiweddar yn sgil atgyfeiriadau cost uchel y mae rhai ohonynt wedi'u trosglwyddo o Wasanaethau Plant, rhai ohonynt o ganlyniad i unigolion yn symud i mewn i'r ardal. Mae poblogaeth sy'n heneiddio hefyd yn ffactor sy'n cyfrannu at y pwysau ar Wasanaethau Oedolion. Ychwanegodd y Swyddog fod y pwysau yma wedi bod yn waeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a'u bod wedi arwain at orwariant yn y gwasanaeth ar gyfer pob un o'r blynyddoedd hynny; cyn hynny, roedd Gwasanaethau Oedolion yn perfformio yn ôl y gyllideb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn am werth y cyfleuster gofal ychwanegol yn Hafan Cefni o ran lleihau'r pwysau ar Wasanaethau  Oedolion, cadarnhaodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fod y cyfleuster, wrth gynnig cyfle i bobl hŷn fyw'n annibynnol ac fel dewis amgen i ofal preswyl, yn profi'n werthfawr. Mae'r cyfleuster bellach yn llawn, a phe ba angen darparu ar gyfer holl drigolion Hafan Cefni mewn ffyrdd eraill, yna byddai'r pwysau ar Wasanaethau Oedolion wedi bod yn llawer mwy.

 

Penderfynwyd

 

           Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â graddau’r cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol, a'i fod

           Yn argymell i'r Pwyllgor Gwaith bod cynnydd a graddau’r gwelliannau o fewn Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.

 

  NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL

5.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 969 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini, a oedd yn cynnwys Blaen Raglen Waith y Pwyllgor hyd at ddiwedd mis Ebrill, 2020 i'w ystyried.

 

Dywedodd y Rheolwr Sgriwtini, gan nad oedd unrhyw fater wedi'i amserlennu i'w drafod yn ystod mis Ebrill y Pwyllgor, 2020 fod angen penderfynu a ddylid parhau â'r cyfarfod ai peidio. Cytunodd y Pwyllgor, gan nad oedd eitemau ar gyfer y cyfarfod ym mis Ebrill, y dylid gohirio'r cyfarfod.

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno i fersiwn gyfredol y Blaen Raglen Waith ar gyfer 2019/20 yn amodol ar ganslo cyfarfod mis Ebrill, 2020 y Pwyllgor.

           Nodi'r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu'r Blaen Raglen Waith.