Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 252518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, y Cynghorydd Aled Morris Jones nad oedd yn bresennol oherwydd profedigaeth deuluol, bu i’r Is-gadeirydd, y Cynghorydd Dylan Rees, gadeirio’r cyfarfod. Cafodd y Cynghorydd John Griffith ei ethol yn Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

 

Wrth groesawu pawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod, fe wnaeth y Cadeirydd estyn croeso penodol i Mr Dyfed Wyn Jones, sy’n gynrychiolydd Rhiant Lywodraethwr ar gyfer y sector ysgolion cynradd, i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol. 

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

 

2.

Galw Penderfyniad i Mewn: Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 pdf eicon PDF 171 KB

Penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019 mewn perthynas ag Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 sydd wedi’i alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Shaun Redmond, R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes a Bryan Owen.

 

Mae’r ddogfennaeth ynghlwm fel a ganlyn –

 

·        Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 2 Mai, 2019

 

·        Y cais galw i mewn

 

·        Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 fel y’u cyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 29 Ebrill, 2019, i gymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2017/18, ei alw i mewn gan y Cynghorwyr Peter Rogers, Kenneth Hughes, Robert Llewelyn Jones, Bryan Owen a Shaun Redmond. Cyflwynwyd penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, y cais i alw’r penderfyniad i mewn ac adroddiad y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill, 2019 a oedd yn cynnwys yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn ar gyfer 2017/18. 

 

Eglurodd y Cynghorydd Peter Rogers, fel y Blaen Aelod Galw-i-Mewn, y rhesymau dros alw’r penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar 29 Ebrill 2019 i mewn, fel y nodwyd yn y ffurflen berthnasol –

 

           Y ffordd bron yn wamal y bu i’r Pwyllgor Gwaith basio’r adroddiad hwn

           Roedd yr adroddiad a roddwyd i’r Pwyllgor Gwaith yn rhoi sylw i ddyledion drwg a cholledion ariannol yn y cyfrifon oherwydd costau atgyweirio sy’n parhau

           Ni roddwyd unrhyw dystiolaeth mewn gwirionedd o gefnogi addysg bellach ar gyfer pobl ifanc yn ystod eu blynyddoedd terfynol neu ar ôl gadael ysgol, er mwyn cefnogi eu hanghenion hyfforddiant. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Peter Rogers ei fod yn bryderus am y ffordd bron yn frysiog yr oedd y Pwyllgor Gwaith wedi cymeradwyo Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn 2017/18 yn ei gyfarfod a gynhaliwyd ar 29 Ebrill, 2019, gydag ychydig iawn o gwestiynau yn cael eu gofyn am yr hyn yr oedd y ffigyrau yn eu dangos am berfformiad yr Ymddiriedolaeth ac a oedd yn bodloni ei nodau ac amcanion o gynorthwyo disgyblion y presennol a’r gorffennol i allu cwblhau eu haddysg a/neu addysg bellach a hyfforddiant. Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers at hanes Ymddiriedolaeth Addysg Bellach Ynys Môn a’i egwyddorion sylfaenol a dywedodd ei fod yn bryderus fod y cyfrifon yn dangos na wneir y gorau o’r incwm o’r tir a’r mân-ddaliadau sy’n ffurfio rhan o stad David Hughes gan i’r Ymddiriedolaeth wneud colled ariannol yn 2017/18 o ganlyniad i gostau atgyweirio. Gyda rheolaeth fwy manwl gellid cynhyrchu mwy o refeniw o’r tir a'r eiddo i’w ddefnyddio at ddibenion addysgol sef y rheswm dros ffurfio’r Ymddiriedolaeth. Tynnodd y Cynghorydd Rogers sylw at y ffaith fod Adroddiad Blynyddol 2014/15 yn nodi bod grantiau o Gronfa’r Ymddiriedolaeth wedi stopio nifer o flynyddoedd ynghynt a holodd a yw’r ffurflenni grant yn cael eu cylchredeg fel y dylent ym mis Ebrill bob blwyddyn. Tra bod y Pwyllgor gwaith, fel rhan o’i benderfyniad ar y mater, yn cynnal adolygiad o’r Ymddiriedolaeth, y diweddaraf mewn nifer o newidiadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd yn ei farn ef, ac wedi gofyn am adroddiad cynnydd o fewn 6 mis, gellid defnyddio’r amser hwnnw yn gwahodd ceisiadau am gyllid, dosbarthu’r arian ac yn helpu’r bobl ifanc yn y ffordd yr oedd yr Ymddiriedolaeth wedi bwriadu.       

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Rogers hefyd at lywodraethiant yr Ymddiriedolaeth fel sydd wedi’i grynhoi yn yr Adroddiad Blynyddol yn nodi mai Cyngor Sir  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.