Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol ac estynnodd groeso arbennig i Sioned Rowe fel y Swyddog Sgriwtini newydd ac i'r Cynghorydd Peter Rogers a oedd yn dychwelyd i fusnes y Cyngor yn dilyn cyfnod o adferiad ar ôl cael llawdriniaeth ar ei ben-glin.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrnyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 312 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforoaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 21 Tachwedd, 2019 a chawsant eu cadarnhau fel cofnod cywir.

3.

Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Refeniw pdf eicon PDF 1022 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn amlinellu'r cyd-destun i’r broses ar gyfer gosod cyllideb 2020/21. ‘Roedd Atodiad 1 yn cynnwys adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ynghylch y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a'r ffactorau sy'n cael effaith arni.

 

Eglurodd y Cadeirydd fod y broses o osod cyllideb ar gyfer 2020/21 wedi ei gohirio oherwydd yr Etholiad Cyffredinol ym mis Rhagfyr, 2019 ac o ganlyniad, y cyhoeddiad hwyrach nag arfer am y setliad dros dro i lywodraeth leol.

 

Crynhowyd y sefyllfa gan yr Aelod Portffolio Cyllid trwy ddweud bod y sefyllfa gyllidebol ar gyfer 2020/21 yn well na'r disgwyl oherwydd y setliad dros dro uwch a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr 2019, a bod hynny i'w groesawu, ond er gwaethaf y setliad uwch, mae'r amgylchiadau ariannol yn gyffredinol yn parhau i fod yn heriol . Mae cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi gostwng ar ôl cael eu defnyddio i gwrdd â phwysau costau mewn meysydd lle mae’r galw’n parhau i gynyddu, gan gynnwys Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac Addysg, sy’n awgrymu y gallai bod angen adolygu a / neu ailalinio cyllidebau sylfaenol y gwasanaethau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagdybio cynnydd o 7.1% yn lefelau’r Dreth Gyngor, ac er bod y setliad yn well, nid yw ond cymaint â’r cymorth ariannol a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru yn ôl yn 2012/13 mewn termau real. Dywedodd yr Aelod Portffolio ei fod felly’n cynghori cymryd agwedd ddarbodus o ran gwneud argymhellion mewn perthynas â Chyllideb Refeniw 2020/21.

 

Aeth y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 â’r Pwyllgor trwy bob un o'r adrannau yn yr adroddiad yn Atodiad 1 ar y gyllideb refeniw arfaethedig ar gyfer 2020 / 21. Amlygwyd ac ymhelaethwyd ar y prif bwyntiau canlynol –

 

           Y prif ragdybiaethau yn y Cynllun Ariannol Tymor Canol a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith ym mis Medi, 2019. Mae'r rhain wedi'u cymryd i ystyriaeth wrth gyfrifo'r gyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21.

           Cyfrifo cyllideb ddisymud ar gyfer 2020/21 fel man cychwyn ar gyfer y broses gosod cyllideb. Mae'r gyllideb ddisymud yn gyllideb sy'n darparu adnoddau i ddarparu   gwasanaethau ar lefelau 2019/20 ond sydd wedi'i diweddaru i adlewyrchu unrhyw newidiadau y gwyddys amdanynt sydd y tu hwnt i reolaeth y gwasanaethau (newidiadau yr ymrwymwyd iddynt) ac i adlewyrchu'r costau yn 2020/21.

           Y newidiadau yr ymrwymwyd iddynt a'u heffaith o ran addasiadau a wnaed i'r gyllideb fel y nodir ym mharagraffau 3.1 i 3.10 o'r adroddiad.

           Newidiadau a wnaed i gyllidebau wrth gefn (a adeiladwyd i mewn i’r gyllideb i gwrdd â chostau tymor penodol, risgiau posib neu ddigwyddiadau annisgwyl) fel y dangosir yn Nhabl 1 Atodiad 1. Mae'r sefyllfa ariannol well yn 2020/21 yn caniatáu i'r Cyngor ostwng y Gronfa Wrth Gefn ar gyfer Cyflogau a Graddio gan na ddisgwylir y bydd yn rhaid gwneud gostyngiadau sylweddol i niferoedd staff yn 2020/21.

           Costau staffio a'u heffeithiau ar y gyllideb. Mae ansicrwydd ynghylch y dyfarniad cyflog o fis  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Cychwynnol ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf pdf eicon PDF 1019 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn ymgorffori adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21.

 

Wrth dynnu sylw at y prif bwyntiau ac ymhelaethu arnynt fe wnaeth y Cyfarwyddwr  Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 

 

           Gyfeirio at y sgôp cyfyngedig i ystyried amrywiol opsiynau ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf o’i gymharu â'r Gyllideb Refeniw.

           Amlinellu egwyddorion y Strategaeth Gyfalaf a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Gwaith  ym mis Chwefror, 2019 ac y mae'r Gyllideb Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 yn seiliedig arni (paragraff 2.2 yr adroddiad).

           Egluro o ran ariannu'r rhaglen gyfalaf (Tabl 1 yr adroddiad) fod y ffigyrau ar gyfer y setliad drafft i Lywodraeth Leol yn cynnwys y Grant Cyfalaf Cyffredinol a'r Benthyca â Chymorth; er bod grantiau cyfalaf at ddibenion penodol wedi cynyddu, mae lefel y cyllid o dan y ddau bennawd hyn wedi aros yn weddol gyson dros nifer o flynyddoedd sy’n cyfyngu’r opsiynau sydd ar gael i'r Cyngor wario’r cyfalaf.

           Cadarnhau dyrannu £500k o'r Gronfa Gyfalaf (gan adael balans a ragwelir o £640k) i dalu am unrhyw waith cyfalaf brys a allai godi yn ystod y flwyddyn a / neu i ddarparu cyllid cyfatebol pe bai'r angen yn codi.

           Rhoi manylion am yr asedau cyfredol y bydd angen eu hamnewid / adnewyddu yn unol â’r dull a amlinellir yn y strategaeth gyfalaf, a'r symiau a neilltuwyd iddynt yn unol ag adran 4.2 a Thabl 3 yr adroddiad, gan ychwanegu y bydd y Cyngor yn ei chael hi'n anodd cyflawni hyd yn oed y gwaith mwyaf sylfaenol i gynnal ei asedau cyfredol oni bai bod y Grant Cyfalaf yn cynyddu yn y dyfodol.

           Crynhoi'r bidiau unwaith ac am byth eraill am gyllid ychwanegol a gymeradwywyd gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth i'w cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2020/21 ar ôl iddynt gael eu hasesu gan y Tîm Cyllid trwy ddefnyddio mecanwaith sgorio'r Strategaeth Gyfalaf (Tabl 4 yr adroddiadargymhellir dyrannu cyfanswm o £2.174m)

           Cyfeirio at nifer o brosiectau eraill a nodwyd gan y broses gynnig nad oes angen cyllid arnynt yn 2020/21 ond y gall bod angen eu hariannu yn 2021/22 neu y tu hwnt fel y nodir yn adran 5.4 o'r adroddiad.

           Egluro’r sefyllfa o ran rhaglen gyfalaf Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain a rhaglen gyfalaf y Cyfrif Refeniw Tai.

 

Adroddodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid, o gyfarfod y Panel ar 9 Ionawr, 2020 lle rhoddwyd sylw manwl i gynigion cychwynnol cyllideb 2020/21. Roedd y Panel wedi argymell y dylid cefnogi'r cynigion canlynol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21 -

 

           Adnewyddu / Amnewid asedau £5.158m

           Prosiectau cyfalaf unwaith ac am byth newydd £1.924m

           Cronfa Gwella Cyfleusterau Hamdden £0.250m

           Ysgolion yr 21ain Ganrif £9.039m

           Cyfrif Refeniw Tai £17.138m

 

Cyfanswm Gwariant Newydd  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Panel Sgriwtini Cyllid - Adroddiad Cynnydd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad cynnydd ar waith y Panel Sgriwtini Cyllid dros y 12 mis diwethaf hyd at fis Rhagfyr, 2019.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid yr adroddiad diweddaru i'r Pwyllgor.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad, penderfynodd y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol nodi'r canlynol

 

           Y cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Sgriwtini Cyllid, o ran cyflawni ei raglen waith a mesur effaith a gwerth ychwanegol.

           Mae'n ymddangos bod prosesau sy'n ymwneud â monitro’r gyllideb ar gyfer 2019/20 yn addas i’r diben.

           Y rhaglen datblygu sgriwtini ariannol parhaus ar gyfer aelodau'r Panel sy'n cael ei darparu gan CIPFA Cymru.

           Bod y Panel wedi tynnu sylw'r Pwyllgor at ei bryder parhaus ynghylch pwysau ar gyllidebau gwasanaethau a arweinir gan y galw (gwasanaethau cymdeithasol ac addysg) a'i fod yn parhau i fonitro'r sefyllfa'n agos a bod ganddo drefniadau ar waith i sicrhau deialog reolaidd gyda Chyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth i esbonio'r sefyllfa ariannol yn y ddau wasanaeth ac effaith mesurau lliniaru sydd ar waith i reoli gorwariant. Mae'r Pwyllgor yn nodi ymhellach y bydd y Panel yn parhau i adrodd yn ôl ar ei ganfyddiadau wrth i'r sefyllfa esblygu.

           Trefniadau i adrodd i'r Pwyllgor hwn a'r Pwyllgor Gwaith bob tri mis ar y cynnydd a wnaed gan y Panel o ran gweithredu’r flaenraglen waith, gan gyflwyno trefniadau i adrodd yn amlach os oes risg benodol i fynd i'r afael â hi.

 

 

6.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 968 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaenraglen waith y Pwyllgor i’w hystyried. 

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno fersiwn gyfredol y flaenraglen waith ar gyfer 2019/20 a

           Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma gyda gweithredu’r flaenraglen waith.