Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Yn absenoldeb y Cadeirydd, cadeiriwyd y cyfarfod gan y Cynghorydd Dylan Rees, sef Is-Gadeirydd y Pwyllgor. Etholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones i wasanaethu fel Is-Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 265 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol -

 

·                13 Ionawr, 2020

·                14 Ionawr, 2020 (arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 13 Ionawr, 2020 a’r cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 14 Ionawr, 2020 a chadarnhawyd eu bod yn gywir .

3.

Proses Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Refeniw pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini ar gyd-destun y broses gosod cyllideb. ‘Roedd  Atodiad 1 yr adroddiad yn cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a’r Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Refeniw 2020/21 a gyflwynwyd i'r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar 13 Ionawr, 2020. Ynghlwm yn Atodiad 2 roedd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a'r Gwasanaeth Trawsnewid yn crynhoi'r prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb refeniw drafft.

 

Rhoddodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor mewn perthynas â sefyllfa'r gyllideb yn dilyn cyhoeddi setliad cyllid terfynol Llywodraeth Cymru ar 25 Chwefror, 2020 fel a ganlyn–

 

           Y setliad terfynol gan Lywodraeth Cymru

 

      Bod cyllideb ddigyfnewid gychwynnol o £142.147m wedi'i chymeradwyo gan y Pwyllgor Gwaith ar 13 Ionawr, 2020. Ers cwblhau'r cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb, gwnaed gwaith pellach i adolygu a diwygio'r gyllideb ddigyfnewid a gwnaed rhai mân addasiadau ychwanegol a oedd yn dod i gyfanswm o £28k, gan olygu bod angen £142.175m ar gyfer y gyllideb ddigyfnewid.

      Bod rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn ogystal â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru, er yn aflwyddiannus, yn gofyn am bennu llawr ar gyfer y setliad fel na fyddai unrhyw gyngor yn derbyn llai na chynnydd cyllidol o 4% - tra bod y cynnydd i Ynys Môn yn 3.8% byddai cynnydd o 4% wedi golygu £200k ychwanegol i'r Awdurdod.

      Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei setliad terfynol ar gyfer Cynghorau Cymru ar 25 Chwefror. Nid oedd y ffigyrau a gyhoeddwyd wedi newid ers y setliad dros dro gan olygu y bydd Ynys Môn yn derbyn £101.005m fel Cyllid Allanol Cyfun ar gyfer 2020/21. Ar ôl cymryd ffigwr terfynol y setliad i ystyriaeth byddai’r gofyniad cyllideb diwygiedig o £142.175m yn golygu bod angen £41.172m o gyllid o’r Dreth Gyngor, gan arwain at gynnydd o 4.58% ar y lleiaf yn lefel y Dreth Gyngor.

      Bod y gyllideb arfaethedig yn ymgorffori nifer o ragdybiaethau o ran lefelau incwm a gwariant tebygol yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae yna nifer o risgiau cynhenid yn y gyllideb arfaethedig. Mae dwy o'r prif risgiau yn ymwneud â’r galw am wasanaethau a’r dyfarniad cyflog i staff. Bu cynnydd yn y galw am wasanaethau dros y blynyddoedd diwethaf yn enwedig yn y Gwasanaethau Oedolion, Gwasanaethau Plant a gwasanaethau addysg arbenigol ac mae’r cynnydd hwn  wedi rhoi straen ariannol ar yr Awdurdod gan arwain at orwariannau sylweddol mewn cyllidebau. O ran tâl staff, cytunwyd ar ddyfarniad cyflog yr athrawon hyd at fis Medi, 2020 ac mae’r swm sydd raid wrtho wedi’i gynnwys yn y cynigion cyllidebol. Nid yw'r dyfarniad cyflog ar gyfer y cyfnod Medi, 2020 ymlaen wedi ei gytuno ac er y gwnaed darpariaeth am gynnydd o 2% , efallai na fydd hynny’n  ddigonol. Ni chytunwyd ar y dyfarniad tâl i staff nad ydynt yn staff dysgu ac sy'n weithredol o 1 Ebrill, 2020. Mae'r Cyflogwyr wedi cynnig cynnydd o 2% ond mae'r Undebau yn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Proses Gosod Cyllideb 2020/21 - Cynigion Terfynol Drafft ar gyfer y Gyllideb Gyfalaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini a oedd yn cynnwys adroddiad y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151 ar y cynigion cychwynnol ar gyfer Cyllideb Gyfalaf 2020/21 fel y'u cyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor ar 13 Ionawr, 2020. Ynghlwm yn Atodiad 2 roedd adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a'r Gwasanaeth Trawsnewid yn crynhoi'r prif negeseuon o'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion cychwynnol ar gyfer y gyllideb gyfalaf drafft.

 

Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) / Swyddog Adran 151, ar wahân i ddiweddaru'r ffigyrau ar gyfer llithriad o 2019/20, nad oedd sefyllfa'r Gyllideb Gyfalaf wedi newid ers iddo adrodd yn ystod y cyfnod drafftio cychwynnol. Cyfyngedig fu’r ymateb o'r ymgynghoriad cyhoeddus i'r Rhaglen Gyfalaf ddrafft gyda 53% o'r ymatebwyr yn cytuno â'r cynigion a 47% yn eu herbyn.

 

Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r diweddariad a ddarparwyd yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor ailgadarnhau i'r Pwyllgor Gwaith ei fod yn argymell y Rhaglen Gyfalaf ddrafft ar gyfer 2020/21 wedi'i ddiweddaru i adlewyrchu llithriad.

5.

Eitem Er Gwybodaeth - Adroddiad Blynyddol y Gwasanaeth Llyfrgelloedd 2018/19 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth y Pwyllgor, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ar asesiad (MALD) Llywodraeth Cymru o Adroddiad Blynyddol Gwasanaethau Llyfrgell 2018/19 a’r materion sy’n codi.

Nododd y Pwyllgor y canlynol -

 

           Bod yr Asesiad yn dangos bod y gwasanaeth yn perfformio'n dda gan ei fod yn cwrdd ag 11 hawl graidd yn llawn ac 1 yn rhannol. O'r 10 dangosydd ansawdd, llwyddodd Ynys Môn i gwrdd â 7 yn llawn, 1 yn rhannol ond methodd â chyflawni 2 - gostyngiad bach ar y flwyddyn adrodd flaenorol. Fodd bynnag, newid yn y broses adrodd / asesu gan MALD yn hytrach na gostyngiad yn y gwasanaeth sydd wedi arwain at y newid hwn.

           Bod perfformiad yn cael ei gynnal yn gyffredinol yn y chweched fframwaith gyda gwelliannau mewn rhai meysydd a gostyngiadau mewn meysydd eraill. Mae ffocws cryf yn cael ei gynnal ar wasanaethau plant ynghyd â chefnogaeth i'r Gymraeg ac mae tystiolaeth o ethos o weithio mewn partneriaeth ddefnyddiol gyda gwasanaethau eraill yng Ngogledd Cymru a darparwyr lleol.

           Bod y gwasanaeth yn parhau i berfformio'n dda mewn meysydd eraill y mae’r  hawliau yn berthnasol iddynt, yn enwedig o ystyried cyfyngiadau o ran adnoddau a chapasiti staff.

 

Nododd y Pwyllgor asesiad Llywodraeth Cymru (MALD) o Adroddiad Blynyddol Llyfrgelloedd Gwasanaethau Llyfrgell 2018/19 a'r materion sy'n codi.