Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i’r cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol, gan gynnwys rhieni a chynrychiolwyr Ysgol Gymuned Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Datganodd y Cynghorydd Dylan Rees ddiddordeb personol ond heb fod yn un rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen, gan ei fod yn Is-gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Gymuned Bodffordd a chadarnhaodd, yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, y byddai’n siarad yn ei rôl fel Aelod Lleol.

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol ond heb fod yn un rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen, gan ei bod yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig a chadarnhaodd, yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, y byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac yn pleidleisio.

 

Datganodd y Cynghorydd Richard Griffiths ddiddordeb personol ond heb fod yn un rhagfarnus mewn perthynas ag eitem 3 ar y rhaglen oherwydd bod ei ddarpar ferch yng nghyfraith yn athrawes yn Ysgol Y Graig a chadarnhaodd, yn dilyn derbyn cyngor cyfreithiol, y byddai’n cymryd rhan yn y drafodaeth ac yn pleidleisio.

2.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir - Ardal Llangefni : Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas ag Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc ynghylch y rhaglen moderneiddio ysgolion mewn perthynas ag ardal Llangefni. Roedd yr adroddiad yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor ar y cynnig i adleoli ac ehangu Ysgol Corn Hir ar safle newydd i gymryd disgyblion Ysgol Bodffordd, cau Ysgol Bodffordd ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir, er mwyn i’r Pwyllgor Gwaith eu hystyried cyn penderfynu pa un ai i dderbyn y cynnig ai peidio ac awdurdodi’r ymgynghoriad statudol angenrheidiol yn ei gylch.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at gais y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2019 i Swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardal Llangefni ac i ddod ag adroddiad priodol yn ôl i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r adroddiad uchod yn ymateb i’r cais hwnnw ac os yw’r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ymgynghori ar y cynnig yn yr adroddiad, ar ôl ystyried barn Sgriwtini, bydd proses ymgynghori statudol yn dilyn pan roddir cyfle i’r holl randdeiliaid ymateb i’r cynnig a chyflwyno sylwadau arno. Yna, byddai’r ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid symud ymlaen â’r cynnig ai peidio a chyhoeddi hysbysiadau statudol.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y Pwyllgor drwy’r papur cynnig ac amlinellodd y gyrwyr allweddol ar gyfer newid a nodir yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion y Cyngor, sy’n cael eu crynhoi yn adran 3 y papur cynnig. Wrth gymhwyso’r gyrwyr allweddol hyn i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni, deuir i’r casgliad y byddai’n rhaid i unrhyw broses foderneiddio ysgolion roi sylw i set o feini prawf sy’n cynnwys safonau addysg; arweinyddiaeth a rheolaeth; adeilad ysgol; lleoedd ysgol digonol; darpariaeth addysg Gymraeg a defnydd cymunedol (adran 4). Rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn / opsiwn amgen rhesymol ar gyfer ardal Llangefni sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn – ac fe’u nodir yn adran 5 y papur cynnig. Daeth dadansoddiad manwl o bob un o’r opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes yr un datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O ganlyniad, ac oherwydd eu hagosrwydd, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiad posib ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir a dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn (rhoddir sylw manwl i hyn dan eitem 3) a fyddai’n bodloni’r gyrwyr, ac yn rhoi ystyriaeth hefyd i’r heriau sy’n wynebu’r ysgolion hynny.

 

Rhoddodd y Swyddog grynodeb o’r broses ers mis Mehefin 2019, a oedd yn cynnwys ystyried opsiynau amgen ar gyfer ardal Llangefni gyfan. Oherwydd i’r broses hon ddod i’r casgliad nad oes datrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan, yn dilyn hynny canolbwyntiwyd ar nodi datrysiadau yn seiliedig ar ddalgylchoedd Ysgol Bodffordd/Ysgol Corn Hir ac Ysgol Y Graig/Ysgol Talwrn, gan roi ystyriaeth i’r prif yrwyr a’r heriau y mae’r ysgolion hynny’n eu hwynebu. Ystyriaeth allweddol oedd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Rhaglen Moderneiddio Ysgolion y Cyngor Sir - Ardal Llangefni : Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Dysgu, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas ag Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd, i’r Pwyllgor ei ystyried, adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen foderneiddio ysgolion yn ardal Llangefni. Roedd yr adroddiad yn gofyn am farn y Pwyllgor ynghylch y cynnig i gynyddu capasiti Ysgol Y Graig i gymryd disgyblion Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu dalgylchoedd Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig, er mwyn i’r Pwyllgor Gwaith roi ystyriaeth iddynt cyn penderfynu pa un ai i dderbyn y cynnig ai peidio ac awdurdodi’r ymgynghoriad cyhoeddus statudol angenrheidiol ynghylch hynny.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Portffolio Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant ac Ieuenctid at gais y Pwyllgor Gwaith ym mis Mai 2019 i Swyddogion edrych o’r newydd ar y materion amrywiol mewn perthynas â moderneiddio ysgolion a’r gofynion dan y Côd Trefniadaeth Ysgolion 2018 yn ardal Llangefni, ac i gyflwyno adroddiad priodol i’r Pwyllgor Gwaith maes o law. Mae’r adroddiad uchod yn ymateb i’r cais hwnnw ac os yw’r Pwyllgor Gwaith yn penderfynu ymgynghori ar y cynnig yn yr adroddiad, ar ôl ystyried barn Sgriwtini, bydd proses ymgynghori statudol yn dilyn pan roddir cyfle i’r holl randdeiliaid ymateb i’r cynnig a chyflwyno sylwadau arno. Yna, byddai’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod y broses honno yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid symud ymlaen â’r cynnig ai peidio a chyhoeddi hysbysiadau statudol.

 

Arweiniodd y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc y Pwyllgor drwy’r papur cynnig a dywedodd bod y gyrwyr allweddol ar gyfer newid a nodir yn Strategaeth Foderneiddio Ysgolion y Cyngor yn cael eu crynhoi yn adran 3 y papur cynnig. Fel y nodwyd dan eitem 2, wrth gymhwyso’r gyrwyr allweddol hyn i’r ddarpariaeth addysg yn ardal Llangefni yn ehangach deuir i’r casgliad y byddai’n rhaid i unrhyw gamau i foderneiddio ysgolion roi sylw i set o feini prawf sy’n cynnwys safonau addysg; arweinyddiaeth a rheolaeth, adeilad ysgol; lleoedd ysgol digonol; darpariaeth cyfrwng Cymraeg a defnydd cymunedol (adran 4). Rhoddwyd ystyriaeth i un ar ddeg opsiwn amgen / opsiwn ar gyfer ardal Llangefni, sydd yn cynnwys Ysgol Gyfun Llangefni, Ysgol Bodffordd, Ysgol Corn Hir, Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn, fel y nodir yn adran 5 y papur cynnig. Daeth dadansoddiad manwl o bob un o’r opsiynau amgen rhesymol i’r casgliad nad oes unrhyw ddatrysiad hyfyw ar gyfer ardal Llangefni gyfan. O’r herwydd, ac oherwydd eu hagosrwydd, canolbwyntiwyd ar ganfod datrysiadau posib ar wahân ar gyfer dalgylchoedd Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir (sy’n cael sylw dan eitem 2) a dalgylchoedd Ysgol Y Graig ac Ysgol Talwrn a fyddai’n bodloni’r gyrwyr allweddol, a chan roi ystyriaeth hefyd i’r heriau sy’n wynebu’r ysgolion hynny.

 

Cyfeiriodd y Swyddog yn benodol at y prif heriau y mae Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig yn eu hwynebu (adran 6) ac at yr opsiynau amgen rhesymol a gafodd eu hystyried a’u harchwilio mewn perthynas â’r ddwy ysgol (adrannau 7 ac 8 o’r papur cynnig, yn y drefn honno). Cafodd deg opsiwn amgen rhesymol, gan gynnwys y cynnig ar gyfer Ysgol Talwrn a naw opsiwn amgen rhesymol, gan gynnwys y cynnig,  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.