Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 14 Hydref, 2020 (Galw i mewn) · 20 Hydref, 2020
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cyflwynwyd, a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 14 Hydref 2020 (Galw i Mewn) a 20 Hydref 2020. |
|
Dogfen Gyflawni Blynyddol (Cynllun Gwella) 2020/21 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.
Penderfyniad: Ar ôl ystyried y Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer cyfnod o ddeunaw mis o fis Hydref 2020 i fis Mawrth 2022 a’r wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd gan Swyddogion ac Aelodau Portffolio yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor argymell Dogfen Gyflawni Flynyddol 2020-2022 i’r Pwyllgor Gwaith.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL |
|
Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 2 2020/21 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid
Penderfyniad: Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r diweddariadau a ddarparwyd gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, a nodi’r meysydd y mae’r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli er mwyn sicrhau gwelliannau i’r dyfodol ac i argymell y mesurau lliniaru fel y’u nodir i’r Pwyllgor Gwaith.
NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU YCHWANEGOL |
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid Derbyn diweddariad ar lafar. Penderfyniad: Penderfynwyd nodi’r diweddariad a roddwyd ac i ddiolch i Gadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid am y wybodaeth. |
|
Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.
Penderfyniad: Penderfynwyd –
• Cytuno ar fersiwn gyfredol y blaen raglen waith ar gyfer 2020/21. • Nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r blaen raglen waith. |