Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrnhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Gan gyfeirio at eitem 4 ar y rhaglen, dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts ei bod wedi gwasanaethu fel cyfarwyddwr ar Bartneriaeth Llangefni, y fenter gymdeithasol a fu'n gyfrifol am reoli a rhedeg cwrs Golff Llangefni am gyfnod. Eglurodd fod y Bartneriaeth wedi bod yn ymwneud â'r cwrs golff cyn iddi fod yn gyfarwyddwr. |
|
Adroddiad Cynnydd Gwelliannau Gwasanaethau Cymdeithasol Cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol Dros Dro. Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cadarnhau bod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn fodlon â chyflymder y cynnydd a'r gwelliannau a wnaed hyd yma yn y Gwasanaethau Cymdeithasol a, · Argymell i'r Pwyllgor Gwaith fod cynnydd a chyflymder y gwelliannau yn y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ddigonol.
|
|
Monitro Perfformiad: Sgorfwrdd Corfforaethol Chwarter 3 2020/21 Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid. Penderfyniad: Ar ôl ystyried yr adroddiad a'r diweddariadau a ddarparwyd gan Swyddogion yn y cyfarfod, penderfynodd y Pwyllgor dderbyn yr adroddiad, nodi'r meysydd y mae'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn eu rheoli i sicrhau gwelliannau i'r dyfodol ac argymell y mesurau lliniaru fel yr amlinellwyd i'r Pwyllgor Gwaith. GWEITHRED YCHWANEGOL A GYNIGIWYD: Y Gwasanaeth Tai i ddarparu data ar reoli digartrefedd i gyfarfod nesaf y Pwyllgor |
|
Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd Dros Dro. Penderfyniad: Penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid gohirio gwerthu tir cwrs Golff Llangefni fel y gellir ystyried opsiynau ar gyfer cynnwys y cyfan o'r tir, neu ran ohono, o fewn y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd pan adolygir y Cynllun, ac yn y cyfamser fod yr eiddo Ffridd yn cael ei farchnata i'w werthu ar y farchnad agored ac ailfuddsoddi’r arian a geir o'i werthu yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur. |
|
Blaen Rhaglen Waith Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Penderfyniad: Penderfynwyd –
· Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaenraglen waith ar gyfer 2020/21. · Nodi'r cynnydd hyd yma wrth weithredu'r flaenraglen waith. |