Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb a oedd yn bresennol i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol ac estynnodd groeso arbennig i Mr Dafydd Jones, Cadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Corn Hir ac i Mr Gareth Parry, aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Bodffordd yr oedd y ddau ohonynt yn bresennol i wneud sylwadau mewn perthynas â'r busnes o dan eitem 2 ar y rhaglen. Cyflwynodd yr Aelodau a'r Swyddogion eu hunain ac esboniodd y Cadeirydd y broses a fyddai'n cael ei dilyn wrth ddelio ag eitem 2 ar y rhaglen.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed datganiad o ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu gan y Cynghorydd Dylan Rees mewn perthynas ag eitem 2 ar y rhaglen fel Is-Gadeirydd corff llywodraethu Ysgol Bodffordd.

2.

Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc mewn perthynas â’r rhaglen moderneiddio ysgolion ar gyfer ardal Llangefni i’w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad yn nodi'r ymatebion i'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ym mis Chwefror / mis Mawrth 2020 ar Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd ac yn gofyn am farn y Pwyllgor ar yr argymhelliad mai'r ffordd fwyaf priodol ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad statudol yw'r dewis arall rhesymol sef adeiladu ysgol newydd ar gyfer Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae.

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Portffolio dros Addysg, Llyfrgelloedd, Diwylliant a Phobl Ifanc a gwnaeth sylwadau cyffredinol am y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion sydd, yn yr achos hwn, yn cynnwys pwyso a mesur dyfodol Ysgol Corn Hir ac Ysgol Bodffordd a'r effaith ar yr holl randdeiliaid o ganlyniad, ac yn arbennig ar blant y ddwy ysgol y dylai eu buddiannau a’u llesiant fod y brif ystyriaeth yn y mater hwn. Gall moderneiddio ysgolion fod yn fater dadleuol ac mae ymhlith agweddau mwyaf heriol ar waith y Cyngor a dywedodd ei fod yn deall ac yn sylweddoli pryderon rhieni ac eraill mewn perthynas â'r mater hwn yn llawn. Mae'r rhaglen moderneiddio ysgolion yn gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol ysgolion dros yr 50 mlynedd nesaf ar adeg pan maent dan bwysau oherwydd toriadau cyllidebol, costau cynnal a chadw beichus, cwrdd â gofynion y Cwricwlwm Newydd yn ogystal ag effaith Covid erbyn hyn. Mae dyletswydd ar y Cyngor i ystyried sut y gellir gwneud y system ysgolion yn fwy effeithiol yn yr ystyr o greu'r amodau lle gall athrawon a disgyblion ffynnu a hefyd sut y gellir ei gwneud yn fwy effeithlon o ran gwneud y defnydd gorau o adnoddau a sicrhau bod pob ysgol yn derbyn ei chyfran deg o'r gyllideb. Mae cyswllt rhwng y  Strategaeth Moderneiddio Ysgolion, a ddiweddarwyd ym mis Hydref 2018, â phrif strategaethau a blaenoriaethau'r Cyngor fel y nodir yn adran 2 yr adroddiad rhagarweiniol ac mae'r cynnig hwn yn rhychwantu Band A a Band B yn amserlen y Strategaeth.

 

Rhwng 6 Chwefror a 20 Mawrth, 2020 cynhaliwyd ymgynghoriad statudol ar ddyfodol y ddwy ysgol dan sylw. Awdurdodwyd swyddogion i gynnal yr ymgynghoriad ar ôl i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a'r Pwyllgor Gwaith ystyried y papur cynnig ym mis Ionawr, 2020. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar y diwrnod ysgol olaf cyn y cyfnod clo cyntaf o ganlyniad i'r pandemig byd-eang a drawsnewidiodd y ddarpariaeth addysg am gyfnod. Dywedodd yr Aelod Poertffolio y dylid nodi bod y Cyngor wedi derbyn llythyr gan Gangen Trefniadaeth Ysgolion a Derbyniadau Llywodraeth Cymru yn cadarnhau bod Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn rhoi estyniad i'r Cyngor tan fis Mawrth, 2021 i gyhoeddi unrhyw gynnig. Mae'r Cyngor wedi gweithredu yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion 2018 trwy gydol cyfnod y pandemig.

 

Roedd y gyrwyr allweddol ar gyfer newid sydd wedi’u cynnwys yn Strategaeth Moderneiddio Ysgolion 2018 yn cynnwys gwella safonau addysgol; gwella arweinyddiaeth a rheolaeth; sicrhau bod adeiladau ysgol yn addas at i’r pwrpas; lleihau nifer  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.