Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Penderfyniad: Bu’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol ond nid un oedd yn rhagfarnu yn eitem 2 ar yr agenda yn ei gapasiti fel Is-gadeirydd Corff Llywodraethu Ysgol Bodffordd. |
|
Moderneiddio Ysgolion - Ardal Llangefni: Ysgol Bodffordd ac Ysgol Corn Hir Cyflwyno adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc. Penderfyniad: Yn dilyn ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd, PENDERFYNODD y Pwyllgor yn unfrydol i argymell i’r Pwyllgor Gwaith mai’r ffordd fwyaf priodol ymlaen yn dilyn yr ymgynghoriad statudol yw’r dewis amgen rhesymol arall sef adeiladu ysgol newydd i Ysgol Corn Hir a gadael Ysgol Bodffordd fel y mae hi. |