Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol
Cyswllt: Ann Holmes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. |
|
Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol –
· 17 Tachwedd, 2020 · 10 Rhagfyr, 2020 (arbennig) · 17 Rhagfyr, 2020 (arbennig) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cadarnhawyd cofnodion blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel cofnod cywir –
17 Tachwedd, 2020 10 Rhagfyr, 2020 (arbennig) 17 Rhagfyr, 2020 (arbennig) |
|
Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Refeniw) Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau) a Swyddog Adran 151. Penderfyniad: Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod ac yn dilyn ystyried y negeseuon gan y cyhoedd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell i’r Pwyllgor Gwaith gynnydd o 3.75% yn y Dreth Gyngor ar gyfer 2021/22 er mwyn gallu creu cyllideb gytbwys. |
|
Gosod Cyllideb 2021/2022 (Cyllideb Gyfalaf) Cyflwyno adroddiad ar y cyd gan y Rheolwr Sgriwtini a’r Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151. Penderfyniad: Yn dilyn ystyried y wybodaeth a gyflwynwyd yn ysgrifenedig ac ar lafar yn y cyfarfod ac yn dilyn ystyried y negeseuon gan y cyhoedd yn yr ymgynghoriad cyhoeddus ac adborth gan y Panel Sgriwtini Cyllid, penderfynwyd argymell y Gyllideb Gyfalaf ar gyfer 2021/22 i’r Pwyllgor Gwaith fel y’i cyflwynwyd. |
|
Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid Cadeirydd y Panel i adrodd ar lafar. Penderfyniad: Cafodd yr adborth a adroddwyd o dan eitemau 3 a 4 uchod ei nodi. |
|
Blaen Raglen Waith Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini. Penderfyniad: Penderfynwyd –
• Cytuno i’r fersiwn gyfredol o’r flaen raglen waith yn amodol ar amserlennu’r ddwy eitem ddilynol yn ymwneud ag ymateb y Cyngor i Covid-19 i gyfarfod mis Ebrill o’r Pwyllgor. • nodi’r cynnydd a wnaed hyd yma o ran gweithredu’r flaen raglen waith.
GWEITHRED: Rheolwr Sgriwtini i ddiweddaru’r Flaen Raglen Waith yn unol â’r hyn a nodwyd. |