Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Cyfarfod Rhithiol wedi'i Ffrydio'n Fyw (Ar hyn o bryd nid oes modd i'r cyhoedd fynychu'r cyfarfod), Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Llun, 7fed Mehefin, 2021 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni fu i unrhyw un ddatgan diddordeb.

 

2.

Cofnodion y Cyfarfodydd Blaenorol pdf eicon PDF 313 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol 

 

·         26 Mawrth, 2021 (galw i mewn)

·         23 Ebrill, 2021

·         18 Mai, 2021 (ethol Cadeirydd/Is-Gadeirydd)

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 26 Mawrth, 2021 (galw i mewn), 23 Ebrill, 2021 a 14 Mai, 2021 (ethol Cadeirydd ac Is-gadeirydd) a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi gofynnodd y Cadeirydd am ddiweddariad ynglŷn â chreu’r Llawlyfr Cydnerthedd Cymunedol y cytunwyd arno yng nghyfarfod mis Ebrill y Pwyllgor fel adnodd defnyddiol i ddwyn ynghyd y gwersi a ddysgwyd a’r arferion da wrth ymateb i bandemig Covid 19 o safbwynt cymunedol.

 

Cadarnhaodd y Prif Weithredwr, er bod gwaith yn y cefndir i greu’r llawlyfr hwn wedi dechrau, nad oedd yn gallu rhoi amserlen ar gyfer ei gwblhau. Bydd y llawlyfr yn cael ei gynhyrchu cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl ac ar sail yr amser fydd ar gael oherwydd y pandemig.

3.

Monitro Perfformiad: Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 4 2020/21 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Trawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth y Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid a oedd yn cynnwys adroddiad terfynol y cerdyn sgorio ar gyfer 2020/21 i'r Pwyllgor ei ystyried. Mae'r cerdyn sgorio yn dangos sefyllfa'r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol fel yr amlinellwyd ac y cytunwyd arno yn gynharach yn y flwyddyn.

 

Cyflwynodd y Cynghorydd Dafydd Rhys Thomas, Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol yr adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod Cerdyn Sgorio Chwarter 4 yn dod ag un o'r cyfnodau anoddaf ym mywyd y Cyngor hwn i ben. Yn ystod Chwarter 4, parhaodd Cymru i fod mewn cyfyngiadau symud cenedlaethol a gwelodd yr Ynys ei nifer uchaf o achosion cadarnhaol o Covid 19 yn ogystal ag ymlediad ar Ynys Cybi. O ganlyniad i ymateb ac ymyrraeth amlasiantaethol, llwyddwyd i reoli’r sefyllfa'n gyflym, gan osgoi unrhyw ledaeniad cymunedol pellach i rannau eraill o Ynys Môn. Yn y cyd-destun hwn y paratowyd adroddiad Chwarter 4 ac mae'n adnodd allweddol i fonitro llwyddiant busnes arferol y Cyngor.

 

Gan gyfeirio at feysydd perfformiad penodol, cadarnhaodd yr Aelod Portffolio Busnes Corfforaethol fod pandemig y Coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar y ffordd arferol y caiff gwasanaethau eu darparu gan y Cyngor ac felly nid yw'r perfformiad ariannol yn adlewyrchu'r hyn a fyddai'n digwydd mewn blwyddyn arferol. Mae'r tanwariant o £4.197m i'w groesawu ac mae'n cryfhau sefyllfa ariannol y Cyngor ond gallai'r sefyllfa newid yn enwedig gan fod disgwyl i'r galw am wasanaethau gynyddu yn dilyn y pandemig. Yn y meysydd hynny lle mae perfformiad wedi dirywio neu’n is na’r targed, mae Covid19 wedi bod yn ffactor sydd wedi cyfrannu’n sylweddol fel y dangosir yn yr adroddiad. I'r gwrthwyneb, mae'r pandemig a'r gorchymyn i bawb weithio gartref wedi arwain at welliant amlwg yn lefel absenoldeb staff gyda 6.68 diwrnod yn cael eu colli i absenoldeb fesul CALl yn ystod y flwyddyn yn erbyn targed o 9.75 diwrnod a gollwyd fesul CALl. Mae llai o gyswllt ag eraill wedi arwain at lefel salwch tymor byr o ddim ond 1.94 diwrnod yn cael eu colli oherwydd absenoldeb fesul CALl drwy gydol y flwyddyn. Mae'r defnydd o dechnoleg wedi bod yn allweddol er bod nifer y taliadau ar-lein ar gyfer y gwasanaeth biniau gwyrdd yn siomedig. Daeth llinellau ffôn y Cyngor o dan bwysau arbennig am gyfnod bryd hynny ac mae gwersi wedi'u dysgu o'r profiad gyda'r bwriad o wella'r broses y flwyddyn nesaf. Er iddi fod yn flwyddyn anodd mae perfformiad ar y cyfan wedi bod yn dda a diolch i holl staff y Cyngor sydd wedi sicrhau parhad busnes wrth addasu i wahanol ffyrdd o weithio, ac mewn llawer o achosion, ymgymryd â rolau nad oeddent yn bodoli cyn y pandemig.

 

Roedd Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn cytuno, er ei bod wedi bod yn flwyddyn heriol iawn, fod staff wedi ymateb yn dda i'r amgylchiadau newydd ond bod Covid-19 yn parhau i fod yn her wrth symud ymlaen.

 

Yn y drafodaeth a ddilynodd, codwyd y pwyntiau canlynol –

 

           Yr amserlen ar gyfer ailagor Cyswllt Môn, rhan y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Cynnydd y Panel Sgriwtini Cyllid

Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid i roi adroddiad llafar.

Cofnodion:

Darparodd y Cynghorydd Dafydd Roberts, Cadeirydd y Panel Sgriwtini Cyllid adroddiad llafar ar y materion a drafodwyd yng nghyfarfod y Panel Sgriwtini Cyllid ar 3 Mehefin 2021 fel a ganlyn –

 

           Diweddariad Cyllideb Refeniw Chwarter 4 2020/21

 

Nododd y Panel, ar ôl derbyn cyflwyniad llafar gan y Cyfarwyddwr Adnoddau (Swyddogaeth)/ Swyddog Adran 151, fod tanwariant o £4m ar ddiwedd y flwyddyn a rhoddodd y rhesymau amdano, oedd yn cynnwys llai o alw am rai gwasanaethau yn ystod y cyfyngiadau symud a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer costau uwch a cholli incwm oherwydd y pandemig. Nodwyd sefyllfa ariannol yr ysgolion a balansau uwch yn ogystal â'r tanwariant ar gostau addysg ganolog oherwydd bod ysgolion wedi gorfod cau am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Clywodd y Panel fod 3 ysgol bellach mewn diffyg o'i gymharu ag 11 y llynedd.

 

Nododd y Panel hefyd fod gwasanaethau wedi tanwario o £3m; amlinellwyd y gwasanaethau hynny ac esboniwyd pam eu bod wedi tanwario. Cydnabuwyd yr angen i adolygu cyllideb gwasanaethau plant y tu allan i'r sir oherwydd yr arian ychwanegol a ddarparwyd yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf a bod llai o alw am leoliadau y tu allan i'r sir wrth i ddarpariaeth gwasanaeth maeth yr Awdurdod ei hun gynyddu. Trafodwyd ochr ariannu busnes y Cyngor gan gynnwys y Dreth Gyngor, y Premiwm Treth Gyngor, ardrethi annomestig a'r Grant Cynnal Refeniw lle'r oedd yr incwm £133k yn is na'r gyllideb. Priodolwyd hyn yn bennaf i’r ffaith bod 200 o ail gartrefi wedi newid o Dreth y Cyngor i ardrethi busnes a bod y Cyngor wedi gorfod ad-dalu'r gwahaniaeth.  Er gwaethaf hyn, mae nifer yr ail gartrefi sy'n talu'r premiwm wedi aros yn gyson sy'n dangos bod nifer yr eiddo yn y categori cartrefi gwag ac ail gartrefi yn cyfateb i'r rhai sy'n newid. Wrth gytuno y byddai'r Panel yn craffu ar yr ymateb i'r ymgynghoriad ar gynyddu premiwm Treth y Cyngor, nodwyd ei bod yn dod yn fwyfwy heriol i bobl ifanc brynu eiddo a bod angen rhyw fath o gynllun i'w helpu. Nododd y Panel hefyd yr ychydig feysydd o orwariant o fewn y Cyngor.

 

Wrth ystyried rhagolygon ariannol yn y dyfodol, nododd y Panel yr ansicrwydd ynghylch setliadau ariannol yn y dyfodol a lefel y galw am rai o wasanaethau'r Cyngor wrth iddo ddod allan o'r pandemig yr oedd yn ei gydnabod fel risgiau. Nodwyd pwysigrwydd cynnal lefel iach o falansau felly i fodloni pwysau posibl ar y galw yn y dyfodol a/neu lai o arian. Wrth orffen craffu ar refeniw yn Chwarter 4 y gyllideb, argymhellodd y Panel y canlynol er sylw'r Pwyllgor –

 

           Nodi perfformiad ariannol yr Awdurdod ar ddiwedd Chwarter 4 2020/21

           Cydnabod yr ansicrwydd mewn perthynas â setliad ariannol 2022/23 a'r posibilrwydd o fwy o alw ar wasanaethau gan gydnabod pwysigrwydd cynnal lefel ddarbodus o gronfeydd wrth gefn.

           Craffu ar yr ymateb i'r ymgynghoriad ar gynyddu premiwm Treth y Cyngor maes o law.

 

           Diweddariad Cyllideb Cyfalaf Chwarter 4 2020/21

 

Nododd y Panel, ar  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Effaith Covid ar Wasanaethau Digartrefedd pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Gwasanaeth (Tai) oedd yn amlinellu sut yr ymatebodd y Gwasanaeth i ddigartrefedd yn ystod y pandemig i'r Pwyllgor ei ystyried. Roedd yr adroddiad yn crynhoi'r materion yr ymdriniwyd â nhw o ran nifer yr aelwydydd/unigolion a oedd yn datgan eu bod yn ddigartref yn ystod y cyfnod hwn; yr heriau i ganfod a darparu llety brys; y problemau iechyd meddwl a chorfforol a brofir gan lawer o'r rhai sy'n ceisio cymorth a phwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth wrth ymateb i'r argyfwng.

 

Adroddodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) fod y papur yn cyflwyno trosolwg o'r heriau y mae'r Gwasanaeth Tai yn eu hwynebu wrth ymateb yn gyflym i'r pandemig drwy ddarparu llety diogel i amddiffyn pobl ddigartref a lleihau’r siawns o drosglwyddo'r feirws yn y gymuned. Fel gyda llawer o wasanaethau eraill, bu'n rhaid darparu'r Gwasanaeth Digartrefedd mewn ffordd wahanol gyda'r holl weithgarwch yn cael ei gynnal dros y ffôn neu ar lwyfannau digidol gyda chymorth yn cael ei ddarparu o bell a thrwy ddarparwyr cymorth y gwasanaeth. Mae'r cyfnod wedi darparu cyfleoedd newydd i ymgysylltu ag unigolion y mae'r gwasanaeth wedi bod yn ceisio eu cefnogi yn ogystal â gyda phrif bartneriaid gyda phob sefydliad yn cyd-dynnu i sicrhau digon o gapasiti. Roedd darparu digon o unedau i ddiwallu'r angen yn her oherwydd y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl oedd yn ceisio cymorth; mae'r llif cynyddol o bobl sy'n ceisio cymorth wedi parhau ers hynny gyda'r gwasanaeth eisoes wedi delio â 100 o geisiadau o'r fath. Un o'r heriau mwyaf yw gallu symud y rhai sy'n cael eu cartrefu mewn llety brys i dai parhaol; mae prinder cyfleoedd i symud ymlaen yn ogystal â rhenti uchel yn golygu bod yr Awdurdod yn cefnogi unigolion am gyfnodau hirach. Mae'r Tîm hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sy'n dod atynt yn dioddef o broblemau cymhleth gan gynnwys problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thrais domestig. Mae pobl eraill wedi dod atynt mewn cyflwr bregus iawn gyda darpariaeth yn cael ei gwneud ar gyfer bwyd, pecynnau cychwyn tenantiaeth, dodrefn sylfaenol a phecynnau i gynorthwyo os oes angen hunanynysu oherwydd Covid.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, eglurodd y Rheolwr Gwasanaethau Tai (Strategaeth, Comisiynu a Pholisi) ymhellach

 

           Bod pandemig Covid 19 wedi gwaethygu'r sefyllfa o ran digartrefedd gan fod cyfnodau cyfyngiadau symud estynedig wedi cael effaith ar berthnasoedd teuluol ac wedi cyfrannu at chwalu teuluoedd; maent wedi arwain at fwy o achosion o gam-drin domestig ac wedi arwain at fwy o bobl ifanc yn ceisio cymorth. Er bod y rhain yn faterion y mae'r Gwasanaeth Tai wedi arfer delio â nhw, mae argyfwng Covid 19 wedi cyfrannu at gynnydd yng ngraddfa'r heriau a wynebir.

           Bod canfyddiad bod cysgu ar y stryd yn rhywbeth sy'n effeithio ar drefi a dinasoedd mawr yn hytrach nag ardaloedd gwledig a  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 973 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor hyd at fis Tachwedd 2021 i'w hystyried.

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno ar fersiwn bresennol y flaen raglen waith ar gyfer 2021/22.

           Nodi'r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r flaen raglen waith.