Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb oedd yn bresennol i’r cyfarfod hwn o’r Pwyllgor Sgriwtini  Corfforaethol a gynhaliwyd i ystyried y cais galw i mewn ac fe amlinellodd y modd y byddai busnes y cyfarfod yn cael ei gynnal.

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Gwnaed y datganiadau o ddiddordeb canlynol

 

Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu ynghylch eitem 2 ar yr agenda fel aelod o gyrff llywodraethu Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn.

 

Datganodd Mr Marc Jones, Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Adnoddau)/ Swyddog Adran 151 ddiddordeb personol ond nid un a oedd yn rhagfarnu ynghylch eitem 2 ar yr agenda am fod ei dad-yng-nghyfraith yn aelod o Gorff Llywodraethu Ysgol Talwrn.

2.

Galw Penderfyniad i Mewn: Adroddiad Gwrthwynebu - Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig pdf eicon PDF 158 KB

Mae cais galw i mewn wedi ei gyflwyno gan y Cynghorwyr Bryan Owen,

R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes, Peter Rogers ac Aled Morris Jones ynglyn â phenderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn ei gyfarfod ar 15 Mawrth, 2021 mewn perthynas ag Adroddiad Gwrthwynebu yng nghyswllt Moderneiddio Ysgolion Ardal Llangefni - Ysgol Talwrn ac Ysgol Y Graig.

 

Mae’r ddogfennaeth fel a ganlyn  

 

·        Y penderfyniad a gyhoeddwyd ar 16 Mawrth, 2021

 

·        Y cais galw i mewn

 

·        Adroddiad y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc a gyflwynwyd i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar 15 Mawrth, 2021.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cais galw i mewn gan Gynghorwyr Bran Owen, R. Llewelyn Jones, Kenneth Hughes, Peter Rogers ac Aled Morris Jones ynghylch penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith yn eu cyfarfod a gynhaliwyd ar y 15fed o Fawrth, 2021 ynglŷn â’r Adroddiad Gwrthwynebiad o ran Moderneiddio Ysgolion yn ardal Llangefni gan gyfeirio at Ysgol Talwrn ac Ysgol y Graig, sef cymeradwyo’r cynnig gwreiddiol, sef i gynyddu capasiti Ysgol y Graig er mwyn darparu ar gyfer Ysgol Talwrn, cau Ysgol Talwrn ac adolygu ardaloedd dalgylch Ysgol y Graig ac Ysgol Talwrn. Cyflwynwyd Rhybudd Penderfyniad y Pwyllgor Gwaith, cais galw i mewn, a’r adroddiad gan y Cyfarwyddwr Addysg, Sgiliau a Phobl Ifanc i gyfarfod y Pwyllgor Gwaith ar y 15fed o Fawrth, 2021 gan gynnwys yr Adroddiad Gwrthwynebiad.

 

Eglurodd Cynghorydd Bryan Owen fel y Prif Aelod Galw i Mewn, y rhesymau am alw i mewn y penderfyniad a wnaed gan y Pwyllgor Gwaith ar y 15fed o Fawrth 2021 fel y nodwyd yn y ffurflen gais galw i mewn sydd fel a ganlyn - 

 

           Mae’r pendefyniad yn cael ei frysio yn ystod pandemig

           Mae’r cyhoedd yn teimlo nad ydynt wedi cael gwrandawiad teg a’r cwestiwn allweddol a’i cynigwyd yw

           Pryder am werth am arian

 

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Owen ei fod yn gwneud y cais galw i mewn ar ran rhieni a Chorff Llywodraethu Ysgol Talwrn sydd yn bryderus am ddyfodol eu cymuned pe bai’r cynnig i gau ysgol y pentref yn cael ei gadarnhau. Cyfeiriodd at yr ysgol fel calon bywyd cymunedol a chymunedau gwledig gan ddarparu’r sylfaen i dwf a ffyniant yr iaith Gymraeg. O ganlyniad dylai fod pob ymdrech yn cael ei wneud i warchod ysgolion mewn cymunedau gwledig. Teimlai cymuned Talwrn gan gynnwys rhieni a llywodraethwyr Ysgol Talwrn yn gryf fod y penderfyniad yn cael ei frysio yn ystod cyfnod ble mae cyfyngiadau pandemig wedi ei gwneud hi’n anodd iddynt ymateb yn briodol. Pwysleisiodd Cynghorydd Owen fod yr ystyriaethau ag arweiniodd at ohiriad y penderfyniad ar y mater hwn yn Mehefin 2020 - sef yr angen i ymateb i’r argyfwng ac i gadw pobl Ynys Môn yn ddiogel - yn parhau i fod yn berthnasol ac felly’n codi cwestiynau ynglŷn a chyfiawnhau bwrw ymlaen ar yr adeg hon. Cyfeiriodd Cynghorydd Owen at gywirdeb y data yn benodol y ffaith bod 5 o blant wedi'u cofnodi fel rhai sydd wedi'u cofrestru ar gyfer darpariaeth feithrinfa pan fod 14 o blant yn mynychu’r Cylch Meithrin mewn gwirionedd. O ran gwerth am arian, cynigodd Cynghorydd Owen y byddai’n gwneud mwy o synnwyr ariannol fod Ysgol Corn Hir yn cael ei hadeiladu gyda capasiti digonol ar gyfer unrhyw orlif o ddisgyblion o Langefni a bod Ysgol Talwrn yn cael ei chadw, yn hytrach na gwario £6m ar estyniad i Ysgol y Graig. Nid oes unrhyw fanylion wedi cael eu darparu chwaith ynglŷn â lleoliad yr estyniad arfaethedig ar gyfer Ysgol y Graig.

 

Rhoddwyd y cyfle i’r Cynghorwyr Kenneth Hughes, R. Llewelyn Jones a Peter Rogers  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.