Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol - Dydd Mercher, 11eg Medi, 2019 1.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 251 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod arbennig o’r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2019 a chawsant eu cadarnhau fel rhai cywir.

 

Yn codi o’r cofnodion –

 

Gofynnodd y Pwyllgor a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb i benderfyniad yr Awdurdod i beidio â gosod targed ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal ar yr Ynys.

 

Cadarnhaodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru sy’n edrych ar gyflwyno strategaeth genedlaethol i leihau nifer y plant mewn gofal lle bydd pob awdurdod yn gosod targed ar gyfer lleihau’r nifer, yn dal i geisio dwyn pwysau ar y 5 awdurdod sydd wedi gwrthwynebu cam o'r fath, gan gynnwys Cyngor Sir Ynys Môn. Mae cefnogaeth y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol i'r safbwynt hwn fel y'i cadarnhawyd yn ei gyfarfod ym mis Gorffennaf wedi ychwanegu pwysau i safiad yr Awdurdod o ran parhau i wrthwynebu. Mae'r Awdurdod o'r farn bod gosod targed yn ddiangen, bod gan yr Awdurdod strategaeth ar gyfer atal plant rhag dod i ofal ac na ddarparodd arolygiad diweddaraf CIW unrhyw dystiolaeth bod yna blant yng ngofal yr Awdurdod nad oedd angen iddynt fod mewn gofal.

 

Cynigiwyd a phenderfynwyd bod y Pwyllgor yn ailadrodd ei gefnogaeth i Arweinydd y Cyngor wrth beidio â gosod targed ar gyfer lleihau nifer y plant y mae'r Awdurdod yn gofalu amdanynt.

 

3.

Monitro Perfformiad:Cerdyn Sgorio Corfforaethol Chwarter 1 2019/20 pdf eicon PDF 873 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - i'w ystyried a'i graffu gan y Pwyllgor - adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (AD) a Thrawsnewid yn ymgorffori Cerdyn Sgorio cyntaf blwyddyn ariannol 2019/20 yn portreadu sefyllfa’r Cyngor yn erbyn ei amcanion gweithredol ar ddiwedd Chwarter 1.

 

Amlygodd Arweinydd y Cyngor fod llawer o waith wedi'i wneud dros fisoedd yr haf i ailwampio'r cerdyn sgorio i roi golwg mwy strategol iddo; mae hyn wedi cael ei gyflawni gan well alinio y DPA monitro corfforaethol i dri amcan strategol y Cyngor (gweler para 2.1) a drwy ddileu rhai DPAau yr ystyrir eu bod yn rhy weithredol ar gyfer y cerdyn sgorio. Ers i adroddiad cerdyn sgorio Ch4 2018/19 gael ei drafod ym mis Mehefin, 2019, mae’r Mesurau Atebolrwydd Cyhoeddus (PAM) wedi’u cyhoeddi gan Data Cymru. Mae statws Ynys Môn yn genedlaethol wedi dangos gwelliant pellach gyda'r Awdurdod â’r nifer fwyaf o ddangosyddion yn y chwartel uchaf ledled Cymru. Ychwanegodd yr Arweinydd fod mwyafrif y DP ar ddiwedd Ch1 yn perfformio'n dda yn erbyn eu targedau ond gyda 5 wedi dechrau'r flwyddyn fel rhai sy’n tanberfformio ac wedi'u dynodi'n Goch neu'n Ambr ar y cerdyn sgorio. Mae'n rhy gynnar yn Ch1 fodd bynnag i ddod i gasgliadau o ran tueddiadau perfformiad o'r darlun a gyflwynir gan y cerdyn sgorio ar yr adeg hon.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch y dirywiad yr adroddwyd arno mewn agweddau ar berfformiad ym maes tai, cynllunio a gwasanaethau plant yn ystod Chwarter 1 ac a yw unrhyw fesurau lliniaru ychwanegol yn cael eu hystyried i wella perfformiad, rhoddodd swyddogion eglurhad a sicrwydd fel a ganlyn

 

           O ran gwella'r sefyllfa o Ch2 ymlaen wrth gyflawni'r amserlen darged ar gyfer gosod unedau llety gosodadwy (ac eithrio unedau Anodd i'w Gosod - DTLs) (21 diwrnod yw'r targed o'i gymharu â pherfformiad cyfartalog gwirioneddol o 25.6 diwrnod ac o’r herwydd, mae’n Goch ar y cerdyn sgorio - Dangosydd 34) dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod proses symlach newydd wedi'i chyflwyno a ddylai arwain at osod unedau mewn modd mwy amserol. Mae'r Gwasanaeth Tai yn gosod tua 260 o unedau bob blwyddyn a gwyddys fod tua 20% ohonynt yn rhaid anodd i’w gosod. Mae'r broses symlach newydd yn golygu bod y tîm Datrysiadau Tai yn cysylltu â'r tîm Cymorth Tai a'r tîm Digartrefedd pan ddaw eiddo anodd i’w gosod ar gael er mwyn sefydlu a oes unrhyw un o'u cleientiaid cofrestredig yn cyfateb i'r gofynion ac yn addas ar gyfer yr unedau dan sylw. Wrth i gynnydd gael ei wneud gyda'r dangosydd hwn, bydd perfformiad yn erbyn Dangosydd 35 - Gwasanaethau Landlord: canran y rhent a gollir oherwydd eiddo sy'n wag hefyd yn gwella oherwydd po fwyaf yr amser y mae'n ei gymryd i osod unedau llety gosodadwy, po uchaf yw'r rhent a gollir. Fel diweddariad, dywedodd y Swyddog fod perfformiad ar gyfer Dangosydd 34 ar 9 Medi wedi gwella i 21.4 diwrnod.

           O ran canran yr achosion gorfodi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol (Cynllun Gwella) 2018/19 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Proffesiwn (Adnoddau Dynol) a Thrawsnewid.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr Adroddiad Gwelliant Blynyddol ar gyfer 2018/19 i'w ystyried gan y Pwyllgor. Roedd yr adroddiad, y mae gofyniad statudol ar yr Awdurdod i’w gyhoeddi, yn adolygu'r canlynol

 

           cynnydd yr Awdurdod o ran cyflawni yn erbyn ei Ddogfen Gyflawni Flynyddol ar gyfer 2018/19 fel yr amlinellir o dan 3 amcan blaenoriaeth (mae para 1.3 yn cyfeirio atynt)

 

           ei berfformiad cyffredinol gan gynnwys perfformiad yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol (dangosyddion MAP a DPA lleol).

 

Adroddodd yr Arweinydd fod yr adroddiad yn gyffredinol yn rhoi darlun cadarnhaol o berfformiad yr Awdurdod yn 2018/19 gan dynnu sylw at nifer o gyflawniadau o dan y 3 amcan allweddol tra hefyd yn cydnabod bod meysydd perfformiad y mae modd eu gwella ymhellach. Mae'n arbennig o braf nodi bod statws cenedlaethol y Cyngor, ar sail y Mesurau Atebolrwydd Perfformiad (MAP) cyhoeddedig, wedi gwella unwaith eto eleni.

 

Croesawodd y Pwyllgor yr adroddiad gan nodi’n benodol y meysydd hynny lle gwnaed gwelliant amlwg e.e. canran y rhai sy’n gadael ysgol ym Mlwyddyn 11 nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant (NEET) a oedd yn faes a amlygwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor hwn fel mater o bryder. Nododd y Pwyllgor fod perfformiad 2017/18 ar gyfer y dangosydd hwn wedi arwain at Ynys Môn yn cael y ganran uchaf o bobl ifanc NEET yng Nghymru tra bod y dangosydd yn awr yn perfformio'n dda ac yn gyd 6ed yng Nghymru. Dywedwyd wrth y Pwyllgor fod y dangosydd hwn, yn ogystal â dilysu'r data gwreiddiol, yn enghraifft o’r modd y mae'r drafodaeth ynghylch perfformiad wedi esblygu o fewn y Cyngor gyda'r tanberfformio wedi arwain at graffu cynyddol ar y dangosydd o fewn y Gwasanaeth a chan Aelodau Etholedig a thrwy hynny ysgogi newid yn y broses i wella ar y canlyniad.

 

Nododd y Pwyllgor ymhellach, er bod perfformiad 54% o ddangosyddion naill ai wedi gwella neu ei gynnal yn 2018/18, bod perfformiad 40% wedi gostwng o gymharu â pherfformiad yn 2017/18; gofynnodd y Pwyllgor am eglurhad o atebolrwydd o ran rheoli a gwella perfformiad. Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Cerdyn Sgorio Corfforaethol yn cael ei drafod gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth (UDA) ac mewn cyfarfodydd un i un rhwng Penaethiaid Gwasanaeth unigol ac aelod o'r UDA. At hynny, mae trafod perfformiad, dadansoddi data a chynllunio ar gyfer gwella bellach wedi dod yn elfennau annatod o waith beunyddiol Penaethiaid Gwasanaethau sy'n golygu bod gwasanaethau i bob pwrpas yn hunanwerthuso eu perfformiad yn barhaus.

 

Penderfynwyd argymell i'r Pwyllgor Gwaith y dylid cyhoeddi fersiwn derfynol o Adroddiad Perfformiad 2018/19 erbyn y dyddiad cau statudol ar ddiwedd mis Hydref a bod Swyddogion yn cwblhau'r ddogfen mewn ymgynghoriad â'r Aelod Portffolio ar gyfer ei chyhoeddi fel rhan o’r papurau i’r Cyngor Llawn a gynhelir ar 7 Hydref, 2019.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH

5.

Monitro Cynnydd: Gwelliannau'r Gwasanaethau Plant - Chwarter 1 2019/20 pdf eicon PDF 603 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Plant a Theuluoedd ar gynnydd diweddaraf y Gwasanaeth wrth weithredu'r Cynllun Datblygu Gwasanaeth 3 blynedd.

 

Cyfeiriodd yr adroddiad at annog datblygiadau o dan bob un o'r 5 thema sy'n sail i'r Cynllun Datblygu (a ddisodlodd y Cynllun Gwella Gwasanaeth blaenorol) yn benodol mewn perthynas â'r canlynol

 

           cynllunio gweithlu (mae Strategaeth Gweithlu bellach ar waith ar gyfer y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd)

           arfer gwaith cymdeithasol (mae archwiliadau mewnol yn nodi lle gwnaed cynnydd  cadarnhaol a lle mae angen gwneud gwaith pellach i sicrhau cysondeb ar draws pob maes);

           sicrhau ansawdd a'r fframwaith perfformiad (yr adroddir arno yn fanwl yng nghyfarfod   mis Mehefin y Pwyllgor)

           darparu ymyrraeth gwaith cymdeithasol priodol ac amserol (mae archwiliadau mewnol yn parhau i gael eu cynnal i sicrhau bod plant a'u teuluoedd yn cael cynnig ymyrraeth ar yr adeg iawn), a

           gwella canlyniadau i blant mewn gofal (mae sawl polisi newydd bellach yn weithredol sy'n caniatáu i staff gefnogi a gwella canlyniadau i blant sydd yng ngofal yr Awdurdod Lleol).

Tynnodd yr Arweinydd a'r Aelod Portffolio ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol sylw hefyd at y gwaith a wnaed ar fentrau eraill a fu'n destun ffocws yn y cyfnod ers yr adroddiad diwethaf i'r Pwyllgor ym mis Mehefin, sef -

           Y Tîm Teuluoedd Gwydn sy'n ymyrryd â theuluoedd sy'n cyflwyno gyda lefel uchel o  angen er mwyn darparu cefnogaeth ac ymyriadau dwys i gefnogi teuluoedd sydd wedi torri lawr ac i atal plant rhag mynd i ofal.

           Prosiect Voices from Care Cymru sy'n ceisio gwella ymgysylltiad â phlant sy'n derbyn gofal trwy ddatblygu grŵp cyfranogi ar gyfer plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal ac sydd wedi gadael gofal i gyd-gynhyrchu Strategaeth Plant mewn Gofal ac Ymadawyr Gofal a Siartr Rhiantu Corfforaethol ar gyfer Ynys Môn.

           Y Pythefnos Maethu a gynhaliwyd ym mis Mehefin ac sy'n ddigwyddiad blynyddol sy'n ceisio codi proffil Gofalwyr Maeth ac annog mwy o aelodau'r cyhoedd i ymuno a dod yn ofalwyr maeth.

           Recriwtio Gofalwyr Maeth. Mae'r ymgyrch recriwtio fel y'i cryfhawyd gan y pecyn maethu newydd ym mis Ionawr, 2019 wedi bod yn llwyddiannus a bydd  o bosibl yn darparu hyd at 24 o welyau gofal maeth newydd ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn Ynys Môn erbyn mis Hydref 2019.

 

Croesawodd a nododd y Pwyllgor y datblygiadau fel y'u dogfennwyd. Mewn ymateb i gwestiynau ynghylch a yw’r ymgyrch recriwtio gofalwyr maeth yn mynd rhagddi, hysbyswyd y Pwyllgor fod dull yr Awdurdod o gyflwyno'r pecyn maethu newydd i hybu recriwtio wedi ennyn diddordeb yn allanol gydag awdurdodau ac asiantaethau eraill yn edrych i wneud yr un peth. Yr her i'r Awdurdod yw sicrhau ei fod yn aros ar y blaen o ran ei ddarpariaeth a bod ei becyn maethu yn parhau i fod yn ddeniadol a'i fod y gorau y gall  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Monitro Cynnydd: Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol - Chwarter 1 2019/20 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad cynnydd y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad diweddaru cynnydd ar waith y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol (y Panel Gwella Gwasanaethau Plant gynt) i'w ystyried gan y Pwyllgor.

 

Dygodd y Cynghorydd GO Jones, aelod o’r Panel, sylw at y ffaith fod yr adroddiad cynnydd yn cwmpasu’r cyfnod rhwng Mai a Gorffennaf, 2019 ac yn cynnwys cyfarfod olaf y Panel Gwella Gwasanaethau Plant a dau gyfarfod cyntaf y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol sydd newydd ei sefydlu. Mae rhai o'r prif feysydd a ystyriwyd gan y Panel yn ystod yr amser hwn wedi cynnwys y 5 thema sy'n rhan o'r Cynllun Datblygu Gwasanaeth; parhad yr Ymweliadau Laming a'r Strategaeth Atal Gorfforaethol ddrafft. Mae'r Panel hefyd wedi trafod y strategaeth genedlaethol arfaethedig i leihau nifer y plant mewn gofal. Ar ôl ystyried y mater yn ofalus, roedd y Panel wedi argymell y dylai'r ymateb i Lywodraeth Cymru gyfeirio at strategaeth yr Awdurdod ar gyfer atal plant rhag dod i ofal ac na ddylid gosod targed ar gyfer lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal yn lleol.

 

Adroddodd y Cynghorydd Jones hefyd fod aelodau o'r cyn Banel Gwasanaethau Plant wedi cynnal hunanwerthusiad o effaith y Panel o ran ei gyfraniad at y siwrnai tuag at wella’r Gwasanaethau Plant. Caiff canlyniad yr ymarfer hunanarfarnu ei grynhoi yn yr adroddiad ac mae’r adroddiad hunanarfarnu wedi'i atodi'n llawn.

 

Penderfynwyd

 

       Nodi'r canlynol

 

• Y cynnydd a wnaed hyd yma gyda gwaith y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol o ran cyflawni ei raglen waith newydd.

• Y meysydd gwaith yr ymdriniwyd â hwy yn ystod Ymweliadau Laming fel ffordd o gryfhau atebolrwydd, gwybodaeth a dealltwriaeth aelodau'r Panel ymhellach.

• Y rhaglen ddatblygu barhaus ar gyfer aelodau'r Panel, y mae llawer ohoni yn cael ei darparu’n fewnol.

• Y bydd y Strategaeth Atal Gorfforaethol ddrafft yn cael ei hystyried gan y Pwyllgor yn yr hydref, 2019.

Canlyniadau'r hunanarfarniad diweddar i fesur effaith a gwerth ychwanegol yr hen Banel Gwella Gwasanaethau Plant.

Yr angen i adolygu'r cylch gorchwyl i adlewyrchu'r penderfyniad diweddar i ymestyn cwmpas y Panel Gwella i gynnwys y gwasanaethau oedolion a’r gwasanaethau plant a theuluoedd.

• Bod y Panel wedi tynnu sylw'r Pwyllgor at yr oedi bychan o ran agor y cyntaf o Gartrefi Clyd Môn yr Awdurdod o ganlyniad i orfod ail-hysbysebu swydd rheolwr cofrestredig. Mae'r Pwyllgor yn nodi ymhellach y camau a gymerwyd i ddatrys y mater ac i baratoi ar gyfer cam datblygu nesaf Gwasanaeth Cartrefi Clyd Môn.

 

        Cytuno ag argymhellion y Panel mewn perthynas â'r ymateb i Lywodraeth Cymru  mewn cysylltiad â'r Strategaeth Genedlaethol ar Leihau nifer y Plant sy’n Derbyn Gofal.

        Mabwysiadu argymhelliad y Panel y dylai'r Adroddiad Blynyddol ar Gwynion yn y Gwasanaethau Cymdeithasol gael ei graffu gan y Panel Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol yn y dyfodol.

 

NI CHYNIGIWYD UNRHYW GAMAU GWEITHREDU PELLACH

7.

Polisi Gosod Cyffredin a Chysylltiad Lleol pdf eicon PDF 4 MB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai.

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w ystyried gan y Pwyllgor, adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Tai ar ganlyniad ymgynghoriad a gynhaliwyd ar Bolisi Gosod Tai Cymdeithasol Ynys Môn yn ystod y cyfnod rhwng 17 Mehefin, 2019 a 5 Awst, 2019.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai fod y Gwasanaeth Tai, yn dilyn derbyn cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Gwaith, wedi ymgynghori ar ei Bolisi Gosod Cyffredin er mwyn nodi a ddylid cynnwys cysylltiad cymunedol yn y polisi. Mae’r Gwasanaethau Tai yn awyddus i gyfrannu tuag at gymunedau cynaliadwy drwy sicrhau bod cysylltiadau teuluol a chymunedol yn cael eu cynnal ac mae'n bwriadu adolygu'r Polisi Gosod Cyffredin i weld a yw’r polisi presennol yn cyflawni'r nod hwnnw. Cynhaliwyd yr ymgynghoriad gyda phartneriaid a rhanddeiliaid allweddol a derbyniwyd 114 o ymatebion fel a ddangosir yn Atodiad 1 yr adroddiad gydag 85% o'r ymatebwyr yn mynegi eu cefnogaeth i gynnwys cysylltiad cymunedol yn y Polisi Gosod Cyffredin ar y sail y byddai'n cryfhau cymunedau ac yn ei gwneud yn haws i ddarparu cefnogaeth i deulu a ffrindiau. Fodd bynnag, roedd rhai pryderon ynghylch yr hyn a olygir gan gysylltiad cymunedol. Cafwyd ymateb da hefyd i gwestiynau eraill yn ymwneud â gweithredu'r Polisi.

 

Dywedodd y Swyddog fod yr adolygiad hefyd wedi rhoi cyfle i'r Gwasanaethau Tai edrych ar faterion eraill fel y'u crynhoir yn yr adroddiad. Yn ogystal, rhoddwyd ystyriaeth i sut y byddai cysylltiad ag ardal benodol yn cael ei ddiffinio a'r casgliad oedd y byddai dalgylch y cynghorau cymunedol a thref yn cwrdd â'r gofyniad cysylltiad lleol sy'n cyfateb orau i'r ymatebion i'r ymgynghoriad.

 

Yn seiliedig ar ganlyniad yr ymgynghoriad, darperir Polisi Gosod Tai Cyffredin diwygiedig sy'n ymgorffori'r prif newid a ganlyn mewn perthynas â chysylltiad lleol o dan Atodiad 2 a bydd yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Gwaith i'w gymeradwyo'n derfynol:

 

Bydd ymgeisydd yn cael ei asesu yn unol â’i g/chysylltiad ag ardal y Cyngor Tref neu Gymuned y maent wedi nodi eu bod yn dymuno byw ynddi lle mae'r eiddo gwag wedi ei leoli. Bydd ymgeiswyr yn cael eu hystyried o fewn eu band yn nhrefn dyddiad. Bydd yn ofynnol o hyd i gael cysylltiad lleol o 5 mlynedd â'r Ynys ac eithrio mewn achosion lle mae angen brys am fel y diffinnir hynny dan y Ddeddf Tai.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Tai ymhellach

 

             Er mai dim ond trosglwyddiadau i unedau llety llai neu fwy oedd yn cael eu hystyried yn flaenorol, gellir ystyried trosglwyddiadau tebyg am debyg o dan y polisi diwygiedig;

           Bod y diffiniad statudol o lety gwarchod wedi newid; tai gwarchod yn hanesyddol oedd tai lle darparwyd gwasanaeth warden a lle roedd y meini prawf oedran yn nodi pobl 60 oed neu hŷn. Wrth i natur tai gwarchod newid, cyflwynwyd elfen o hyblygrwydd gyda llety o'r fath bellach yn cwmpasu ystod o feini prawf e.e. pobl 55 oed  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Blaen Rhaglen Waith pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Sgriwtini yn ymgorffori Blaen Raglen Waith y Pwyllgor i'w hystyried mewn diwyg sy’n rhannu’r rhaglen yn ddwy – y tymor byr ar gyfer hydref 2019 a'r tymor hir hyd at Ebrill, 2020.

 

Penderfynwyd

 

           Cytuno ar fersiwn gyfredol y flaen raglen waith ar gyfer 2019/20 yn amodol ar  drafodaeth fewnol bellach ar y diwyg.

           Nodi’r cynnydd hyd yma o ran gweithredu'r flaen raglen waith.