Rhaglen, Penderfyniadau a Chofnodion.

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol

Cyswllt: Ann Holmes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a cyfeiriodd at y prif fusnes i’w ystyried sef Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Statudol ar Effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ac wedi hynny, y Cyngor Llawn.  

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem of fusnes.

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorydd Dylan Rees ddatgan diddordeb personol ond nid un oedd yn rhagfarnu mewn perthynas ag eitem 3 ar yr agenda, am iddo fod wedi gwirfoddoli gyda menter Bwyd Da Môn.

2.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 271 KB

Cyflwyno cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwnti Corfforaethol a gynhaliwyd ar 7 Mehefin, 2021.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol a gynhaliwyd ar y 7fed o Fehefin, 2021, ac fe’u cadarnhawyd fel cofnod cywir.

 

3.

Adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol ar Effeithiolrwydd y Gwasanaethau Cymdeithasol 2020/21 pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad blynyddol drafft Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cofnodion:

Cyflwynwyd drafft o Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr ar effeithiolrwydd Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor. Cynhyrchir yr adroddiad yn unol â'r gofyniad statudol ac mae’n ceisio hyrwyddo ymwybyddiaeth ac atebolrwydd ynghylch y perfformiad a'r cynnydd a wnaed dros y flwyddyn ddiwethaf wrth ddarparu Gwasanaethau Cymdeithasol yn y Cyngor yn ogystal ag amlinellu'r blaenoriaethau gwella ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Wrth gyflwyno’r adroddiad pwysleisiodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod yn adlewyrchiad o beth mae Gwasanaethau Cymdeithasol wedi llwyddo ei gyflawni wrth weithio ar y cyd â gwasanaethau eraill y Cyngor, aelodau etholedig, ac asiantaethau cefnogol i ddarparu’r ystod o swyddogaethau Gwasanaethau Cymdeithasol yn 2020/21; mae’n darparu trosolwg o beth sydd wedi ei gyflawni dros y deuddeg mis diwethaf o ran gwneud gwahaniaeth ym mywydau pobl ac mae’n nodi’r blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr at y flwyddyn ddiwethaf fel un o’r blynyddoedd mwyaf heriol  i’r Gwasanaethau Cymdeithasol o ganlyniad i’r pandemig Coronafeirws; rhaid diolch yn arbennig i holl staff Gwasanaethau Cymdeithasol am eu hymdrech a’u gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn a diolch hefyd i Ofalwyr Maeth yr Awdurdod am ymateb i’r heriau a ddaeth yn sgil addasu i ffordd wahanol iawn o weithio.

Yn ystod y flwyddyn mi wnaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnal cyswllt rheolaidd a chydweithwyr o Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW) ac mi fu i Wasanaethau Plant a Theuluoedd a Gwasnaethau Oedolion fod yn destun arolygiad sicrwydd diweddar gan CIW, ac mi oedd canlyniad y ddau yn gadarnhaol a bydd y manylion yn cael eu nodi mewn llythyr adolygiad ffurfiol a fydd yn cael ei gyhoeddi yn y dyfodol agos. Mi fu i’r CIW hefyd gynnal ymweliadau i ddau Gartref Clyd y Gwasanaeth, ac mi oedd yr adborth yn gadarnhaol o’r ymweliadau hyn hefyd. Wrth i anghenion pobl esblygu a newid, rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gwasanaeth edrych ar y ffordd y mae'n darparu gwasanaethau wrth symud ymlaen - proses sydd wedi'i ddwysáu gan y pandemig sydd wedi arwain at newid cyflym yn y ffordd y mae pethau'n cael eu gwneud ac mae hyn wedi ysgogi cyflwyniad nifer o arferion gwaith arloesol.

Fel ymarferwyr proffesiynol, mae'r Cyngor a Swyddogion Gwasanaethau Cymdeithasol yn chwarae eu rhan wrth gyfrannu at ddeialog a thrafodaethau rhanbarthol a chenedlaethol er mwyn sicrhau bod lleisiau ac anghenion trigolion Ynys Môn yn cael eu clywed pan wneir penderfyniadau ar y lefelau hynny.

Wrth dynnu sylw at rai o’r nifer o ddatblygiadau yng Ngwasanaethau Oedolion a Phlant a Theuluoedd yn ystod y flwyddyn, cyfeiriodd Cyfarwyddwr Gwasnaethau Cymdeithasol at y symud tuag at lwyfannau digidol a’r defnydd o dechnoleg i ymgysylltu â nifer o grwpiau cleientiaid gan gynnwys datblygu neuadd y pentref digidol a’r ddarpariaeth o wasanaethau ar-lein i gefnogi pobl â dementia a’u gofalwyr; mae technoleg hefyd wedi cael ei ddefnyddio i ddarparu gweithgareddau hamdden a diddordebau arbennig gan gynnwys sesiynau yoga a chlwb gwau; mae’r Gwasanaeth wedi medru darparu’r dechnoleg angenrheidiol i gleientiaid a'u cefnogi yn ei ddefnyddio. Mae gweithio mewn partneriaeth wedi bod profi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaen Raglen Waith pdf eicon PDF 974 KB

Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwyd blaen raglen waith y Pwyllgor hyd at Dachwedd 2021, er ystyriaeth. Fe wnaeth y Cadeirydd atgoffa Aelodau i gysylltu un ai gydag ef neu’r Is-Gadeirydd pe bai ganddynt bwnc yr hoffent iddo gael ei ystyried ar gyfer ei gynnwys ar y rhaglen waith.

Penderfynwyd –

·         Derbyn y fersiwn presennol o’r blaen raglen waith ar gyfer 2021/22.

·         Nodi’r cynnydd hyd yn hyn o ran gweithredu’r blaen raglen waith.