Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Cofnodion Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor blaenorol a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf 2020 fel cofnod cywir.
Cyfeiriwyd at Eitem 3 o’r cofnodion, a mynegwyd pryder nad oedd rhai Cynghorau Tref a Chymuned wedi cymryd rhan yn ymgynghoriad y Comisiwn Ffiniau ar drefniadau etholiadol.
Ymatebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd gan ddweud mai ychydig iawn o Gynghorau Tref a Chymuned oedd wedi cyflwyno sylwadau ar y cynigion a gyfeiriwyd atynt yn adroddiad terfynol y Comisiwn. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn yr adroddiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 30 Gorffennaf a 25 Medi 2020, fel rhan o adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol Cymru.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Comisiwn wedi cyhoeddi ei gynigion drafft ar gyfer ymgynghori arnynt ar 16 Mehefin 2020, a oedd yn gyson ag argymhellion y Cyngor Sir ar 7 Hydref, 2020, ar gyfer model seiliedig ar 14 ward a 35 Aelod.
Nodwyd y cafodd argymhellion y Pwyllgor hwn, a oedd yn cynnwys newid enw'r ward Braint newydd i Bodowyr, wedi eu derbyn gan y Cyngor Sir ar 8 Medi 2020 ac wedi eu mabwysiadu gan y Comisiwn. Bydd argymhellion terfynol y Comisiwn Ffiniau yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor Sir ar 8 Rhagfyr 2020 ar gyfer eu cymeradwyo. Gobeithir cyflwyno’r newidiadau mewn pryd ar gyfer etholiadau 2022 . PENDERFYNWYD:-
· Nodi argymhellion terfynol y Comisiwn Ffiniau, ac · Argymell bod y Cyngor Sir yn derbyn argymhellion terfynol y Comisiwn Ffiniau ar 8 Rhagfyr 2020. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (PACGA), sy’n gosod y lwfansau sy’n daladwy i Aelodau ac aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Adroddiad Blynyddol Drafft y PACGA ar gyfer 2021/22 wedi ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad tan 23 Tachwedd 2020. Bydd y Panel yn cyhoeddi ei adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2021.
Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd grynodeb o’r newidiadau arfaethedig canlynol:-
· Cynyddu’r cyflog sylfaenol ar gyfer aelodau etholedig £150 i £14,368; · Cynyddu’r uwch gyflogau 1.06%, yr un raddfa â’r cyflog sylfaenol; · Cynyddu cyflogau’r penaethiaid dinesig a’u dirprwyon - Cadeiryddion Pwyllgorau i dderbyn £23,161 (Band 3), ac Is-gadeiryddion i dderbyn £18,108 (Band 5); · Cynyddu’r taliadau i aelodau cyfetholedig £12 y dydd; · Bod costau gofal ffurfiol (a gofrestrir ag Arolygiaeth Gofal Cymru) yn cael eu had-dalu’n llawn; · Bod costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) yn cael eu had-dalu i uchafswm cyfwerth â’r Cyflog Bwy Gwirioneddol, ar yr adeg yr achosir y costau.
Nodwyd y bydd y newidiadau uchod yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.
PENDERFYNWYD derbyn penderfyniadau drafft adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2021/22. |
|
Newidiadau i absenoldeb mabwysiadu ar gyfer Aelodau Awdurdodau Lleol PDF 184 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar ddogfen ymgynghori er mwyn ehangu’r amodau absenoldeb mabwysiadu ar gyfer Aelodau awdurdodau lleol.
Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y bydd y cap ar daliadau yn cael ei ddisodli gan gostau gofal ffurfiol ac anffurfiol.
Nodwyd fod Llywodraeth Cymru yn ceisio sicrhau bod telerau cyflogaeth Aelodau Etholedig yn fwy ffafriol ac y bydd absenoldebau yn dod i fod yn unol â rhai staff, sy’n caniatáu 26 wythnos o absenoldeb.
Croesawodd y Cadeirydd y cynnig gan obeithio y byddai mwy o ddiddordeb yn cael ei greu ymysg unigolion fengach a merched yn enwedig mewn bod yn Aelodau o’r Cyngor.
PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a amlinellwyd yn nogfen Ymgynghori Llywodraeth Cymru ac awdurdodi’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i ymateb yn ôl yr angen mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor. |