Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes (01248) 752 516
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Hydref, 2012. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Hydref 2012.
Lleisiwyd y materion canlyn gan yr Aelodau :-
· Roedd angen Ymgysylltiad Cymunedol Effeithiol yng nghyswllt rhoi gwybodaeth i’r etholaeth leol am y weithdrefn etholiadol yn yr Etholiadau Cyngor Sir nesaf ym Mai 2013 h.y. 2/3 pleidlais mewn ardaloedd etholiadol; · Mae angen i Gofrestrau Etholiadol fod ar gael i ymgeiswyr tebygol yn Etholiadau’r Cyngor Sir mor fuan ag sy’n bosibl.
Cafwyd ymateb gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd a nodwyd y byddai’n dod â’r materion hyn i sylw’r Swyddog Canlyniadau. |
|
Cynllun Gwaith Datblygu Aelodau PDF 165 KB a) Cyflwyno adroddiad gan y Prif Swyddog Datblygu mewn perthynas â’r uchod.
(b) Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad ar Hyfforddiant Aelodau gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau a gafwyd ar 31 Hydref, 2012.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: 3.1 Cyflwynwyd - adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu mewn perthynas a throsolwg o’r cynnydd a wnaed yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gyda hyfforddiant Datblygu Aelodau a nodwyd bod Grŵp Datblygu Aelodau wedi cael ei sefydlu i wella’r ffocws ar Ddatblygiad Aelodau yn ystod y cyfnod adfer.
Dywedodd yr Uwch Swyddog Datblygu i’r cyfrifoldeb am ddatblygiad Aelodau bellach gael ei drosglwyddo i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a hynny oherwydd newidiadau i’r Mesur Lleol Llywodraeth Leol (2011). Bydd y Gwasanaeth Adnoddau Dynol hefyd yn parhau I drefnu ac i gefnogi hyfforddiant i Aelodau.
Gofynnwyd cwestiynau am y ffioedd y mae’r Awdurdod yn eu talu am hyfforddiant a hefyd i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
PENDERFYNWYD bod adroddiad yn cael ei gyflwyno yn rhoi dadansoddiad o’r taliadau a wnaed yng nghyswllt hyfforddi aelodau etholedig i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn.
3.2 Cyflwynwyd – er gwybodaeth, adroddiad ar Hyfforddiant i Aelodau gan y Cyfreithiwr i’r Swyddog Monitro a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 31 Hydref 2012.
Nododd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor Safonau yn ei gyfarfod ar 11 Rhagfyr 2012 wedi nodi pryderon ynglŷn a lefelau presenoldeb yr Aelodau mewn Sesiynau Hyfforddi a’r angen i fynd i’r afael a’r mater hwn.
Roedd yr Aelodau yn ystyried y byddai’n briodol gwahodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau I drafod presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi, ar ol Etholiadau’r Cyngor Sir ym Mai 2013.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau PDF 3 MB (a) Derbyn
cyflwyniad gan Ms. Sarah
Titcombe, C.Ll.L.C., mewn
perthynas â’r uchod. (b) Mae copi o Feini Prawf Asesu’r Siarter ynghlwm. Cofnodion: Cafwyd cyflwyniad gan Ms. Sarah Titcombe, Cynghorydd Sefydliadol a Datblygu Personol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ynglŷn a’r uchod. Roedd copi o’r Meini Prawf Asesu Siarter ynghlwm er sylw’r Aelodau.
Rhoddodd Ms Titcombe y cefndir i’r Siarter sydd yn ddyfarniad a ddatblygwyd gan Aelodau a Swyddogion trwy Gymru gyfan ac a gyflwynir i awdurdodau mewn cydnabyddiaeth o’r gefnogaeth a ddarperir i Aelodau. Nododd bod 3 lefel i’r Siarter h.y. Siarter, Siarter Uwch a Dyfarniad Arfer Dda ac Arloesedd.
Nododd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd mai’r gobaith oedd y byddai’r Awdurdod yn gallu cyrraedd Lefel 1 y Siarter erbyn Etholiadau nesaf y Cyngor Sir ym Mai 2013 ac roedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darparu cefnogaeth cymheiriaid i adolygu cynnydd y Cyngor gyda chyfarfod â’r safonau a osodir yn y Siarter. Fel rhan o gefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bydd cymorth hefyd yn cael ei ddarparu i adolygu’r arferion gweithio cyfredol, a’r sustemau a’r adnoddau sydd ar gael i gefnogi Aelodau i fod yn barod am y Cyngor newydd.
PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor PDF 329 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd yng nghyswllt Rhaglen Waith y Pwyllgor.
Cynigiodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd y dylai’r cyfarfod nesaf ganolbwyntio ar y materion a ganlyn :-
· Adroddiad Cynnydd ar y cais Siarter Datblygu Aelodau; · Darpariaeth TGCh i Aelodau yn cynnwys gwefan y Cyngor i hyrwyddo democratiaeth; · Y Goblygiadau i’r Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas a chynigion cyllideb 2013/14; · Anwytho Aelodau (Mai 2013 ymlaen).
Nododd y Swyddog ymhellach bod y Gweinidog Dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yn ddiweddar wedi cysylltu â phob awdurdod lleol i geisio cael gwybodaeth ar ddarlledu eu Pwyllgorau yn y dyfodol ac y dylai hyn gael ei ystyried yn ei dro gan y Pwyllgor.
Materion a leisiwyd gan yr Aelodau :-
· Mae angen cael eitem ar Ymgysylltiad Cymunedol ar bob Rhaglen mewn perthynas a’r etholiadau lleol sydd ar ddod;
· Protocolau mewn perthynas â phenodi Cadeiryddion Pwyllgorau yn dilyn etholiadau Mai 2013.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r eitemau a nodwyd uchod i’w hystyried yn y cyfarfod nesaf. |