Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o ddiddordeb Datgan unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2013. Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Chwefror, 2013.
|
|
Adroddiad Blynyddol 2012/13 PDF 162 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd mewn perthynas â’r uchod. Cofnodion: Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd wedi cyfarfod dair gwaith a rhoes amlinelliad o’r argymhellion a’r statws cyfredol y cytunwyd arnynt yn y cyfarfodydd hyn..
Cytunwyd y byddai’r Adroddiad Blynyddol yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ar 23 Mai, 2013.
Roedd yr Aelodau o’r farn fod y Pwyllgor wedi gwneud cryn dipyn o waith ers y cyfarfod cyntaf a gynhaliwyd ym mis Hydref y llynedd a llongyfarchwyd y Swyddogion perthnasol.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod Cadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cyflwyno’r Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2012/13 i’r Cyngor llawn ar 23 Mai, 2013.
|