Rhaglen a chofnodion

cyllideb, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 30ain Ionawr, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

Mynegodd y Cadeirydd ei gydymdeimlad dwysaf â Mr Ieuan Wyn Jones, cyn Aelod Cynulliad a chyn-Aelod Seneddol Ynys Môn yn ei brofedigaeth o golli ei wraig Eirian.  Safodd yr Aelodau a’r swyddogion mewn tawelwch fel arwydd o barch.

 

1.

Ethol Is-Gadeirydd

I ethol Is-Gadeirydd.

Cofnodion:

Oherwydd bod cyn lleied o aelodau’n bresennol yn y cyfarfod, PENDERFYNWYD gohirio ethol Is-Gadeirydd tan y cyfarfod nesaf

 

2.

Datganiad o ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd datganiad o ddiddordeb.

 

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 30 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 1 Hydref, 2013.

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 1 Hydref 2013 fel rhai cywir.

 

4.

Ymgynghori ar y Cynigion ynghylch Cyllideb 2014/15 pdf eicon PDF 4 MB

·        Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â'r uchod.

 

·        Dogfen Ymgynghori Cwrdd a’r HeriauCyllideb 2014/15.

Cofnodion:

Rhoes Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd grynodeb o’r arbedion arfaethedig mewn perthynas â Gwasanaethau Democrataidd.   Nododd fod y Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 14 Ionawr wedi sgriwtineiddio’r arbedion yn y gyllideb sy’n cael effaith ar y Gwasanaethau Corfforaethol ac roedd dyfyniad o’r cofnodion ynghlwm wrth yr adroddiad i’r Pwyllgor hwn er gwybodaeth. 

 

Cododd Aelodau’r Pwyllgor y prif bwyntiau isod mewn perthynas â’r arbedion arfaethedig :-

 

·        Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r cynigion sy’n cael effaith ar y gyllideb sifig a seremonïol ac effaith hynny ar y rhaglen flynyddol o weithgareddau dinesig.  Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd bod y prif wariant o’r gyllideb hon yn gysylltiedig â Gwasanaeth Sul y Cadeirydd a Seremoni Flynyddol Rhyddid y Sir i’r Llu Awyr Brenhinol.  Roedd yr Aelodau teimlo y gellid adolygu’r gwariant drwy leihau’r costau arlwyo sy’n gysylltiedig â’r digwyddiadau hyn;

·        Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r cynigion sy’n cael effaith ar Sioe Môn.  Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mai llogi Pabell y Cyngor yn y Sioe a’r costau gwasanaeth cysylltiedig yw’r gwariant mwyaf.  Roedd yr Aelodau’n teimlo y gellid adolygu’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r gyllideb hon;

·        Codwyd mater dileu swydd wag y Swyddog Sgriwtini.  Nodwyd bod Adroddiad Williams a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn dwyn sylw at bwysigrwydd Sgriwtini ac y dylai trefniadau sgriwtini’r Cynghorau gael digon o gefnogaeth.  Yn ychwanegol at hyn, cyfeiriwyd at yr angen i adolygu nifer yr eitemau ar raglenni’r Pwyllgorau Sgriwtini er mwyn sicrhau sgriwtini ystyrlon.  Dywedwyd y byddai hyn yn cael ei drafod ymhellach gyda Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion pob Pwyllgor ar adeg adolygu’r rhaglenni gwaith.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chyfeirio’r materion a godwyd uchod i’r Pwyllgor Gwaith.

5.

Gweddarlledu Cyfarfodydd a Mynychu o Bell pdf eicon PDF 190 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dro Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd. Roedd y

Pwyllgor hwn wedi ystyried adroddiad yn nodi’r cyd-destun a’r cynigion ar gyfer gweddarlledu

cyfarfodydd a mynychu o bell ar 1 Hydref 2013.

 

Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd bod y Cyngor Sir ar 10 Hydref wedi penderfynu symud ymlaen i weddarlledu cyfarfodydd am gyfnod arbrofol o 2 flynedd.

 

Bwriedir cychwyn gweddarlledu’r Pwyllgor Gwaith ar 17 Mawrth ac yna’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion a’r Cyngor Llawn. Bydd angen trefnu hyfforddiant ar gyfer yr Aelodau a Staff ar y gwasanaeth gweddarlledu. Yn dilyn proses tendro cystadleuol, dyfarnwyd y contract i Public-i. Mae Public-I eisoes yn darparu gwasanaeth ar gyfer Cynghorau Caerdydd, Sir Gar a Wrecsam.

 

Dywedodd ymhellach y disgwylir canllawiau terfynol erbyn diwedd y mis gan Lywodraeth Cymru ynghylch mynychu o bell. Bydd angen adrodd ar hyn i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor yn y man fel y gellir gwneud darpariaeth yn y Cyfansoddiad sy’n caniatau i aelod fynychu o bell er mwyn cymryd rhan mewn cyfarfodydd os bydd angen.

 

PENDERFYNWYD

 

·           Nodi’r cynnydd fel y manylir arno yn yr adroddiad ar weddarlledu cyfarfodydd a fydd yn cychwyn ym mis Mawrth 2014.

 

·           Nodi’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â mynychu o bell.

6.

Datblygu Gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned pdf eicon PDF 81 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd Dro Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi clustnodi cyllid i Gynghorau Sir i gynnig grant o hyd at £500 yr un i gynghorau tref a chymuned, gan gynnwys y rheiny sydd eisoes â gwefannau, i’w wario ar ddatblygu gwefannau.

 

Pwrpas y grant hwn yw cynorthwyo cynghorau tref a chymuned i baratoi ar gyfer Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013, sy’n cynnwys darpariaethau a fyddai’n mynnu fod pob cyngor cymuned yn cyhoeddi gwybodaeth ar wefan.

 

Yn y cyfarfod ar 1 Hydref 2013, dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fod £20,000 wedi cael ei neilltuo i gynorthwyo cynghorau tref a chymuned Ynys Môn i ddatblygu gwefannau a bod yr arian wrthi’n cael ei rannu.

 

Eglurodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â’r grant:-

 

·      Mae 23 o’r 40 o gynghorau wedi hawlio’r grant;

·      Roedd 6 yn bwriadu hawlio’r grant neu’n ystyried y mater;

·      Nid oedd 11 yn bwriadu hawlio’r grant

 

 

Eglurodd y bydd Llywodraeth Cymru o bosib yn llacio’r canllawiau a’r telerau mewn perthynas â defnyddio’r grant ac y disgwylir canllawiau pellach gan Lywodraeth Cymru.

 

PENDERFYNWYD – Nodi’r sefyllfa gyfredol.

 

 

 

7.

Cynllun Datblygu a Hyfforddi i Aelodau pdf eicon PDF 264 KB

Cyflwyno adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad gan yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol yn rhoi diweddariad ar y cynnydd mewn perthynas â’r cyfleon hyfforddi a gynigiwyd i Aelodau Etholedig ers eu hethol ym mis Mai 2013.

 

Mae’r Cynllun Datblygu ar gyfer 2013/14 a fabwysiadwyd ym mis Mai 2013 yn ddogfen esblygol a ddiwygiwyd i adlewyrchu anghenion Aelodau Etholedig a’r Awdurdod.  Roedd yr hyfforddiant yn cynnwys sesiynau ar y Côd Ymddygiad ar gyfer Aelodau Etholedig, Aelodau Lleyg, Cynghorau Tref a Chymuned. 

 

Mae’r rhan fwyaf o’r hyfforddiant a nodwyd ar y cynllun datblygu wedi’i gwblhau.  Trefnwyd cyfanswm o 34 o sesiynau ffurfiol rhwng Mai a Rhagfyr 2013. 

 

Fel y dywedwyd eisoes, mae’r Awdurdod yn ymrwymo i gefnogi Aelodau ymhellach yn eu gwaith drwy gyflwyno Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP).  Bydd hyn hefyd yn cwrdd â gofynion Siarter Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.

 

Rhoes yr Uwch Swyddog Datblygu Adnoddau Dynol ddiweddariad ar yr adroddiad ar y Cynllun Datblygu a gyflwynwyd i’r Cyngor fis Mai diwethaf.

 

O ran darparu’r hyfforddiant, nododd bod Un Llais Cymru wedi darparu rhywfaint o hyfforddiant ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned.  O ran yr hyfforddiant ar gyfer aelodau etholedig, mae swyddogion wedi darparu rhywfaint ohono er mwyn lleihau costau, ac yn ogystal, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cynnal sesiynau.

 

Holodd yr Aelodau am y posibilrwydd o ddarparu hyfforddiant drwy gyfrwng y Gymraeg.  Dywedodd y Swyddog fod yr hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn rhad ac am ddim drwy CLlLC.  Gwneir pob ymdrech i geisio sicrhau hyfforddiant Cymraeg.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.