Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 18fed Mehefin, 2014 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ethol Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn Is-gadeirydd y Pwyllgor hwn.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 42 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 26 Mawrth, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Mawrth 2014 fel rhai cywir.

4.

Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor pdf eicon PDF 109 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfeirio at Rybudd o Gynigiad a gymeradwywyd gan y Cyngor ar 8 Mai 2014 ii’r Pwyllgor hwn adolygu ymhellach Amser Cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor fod Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi cynigion ar gyfer 2015 ymlaen yn cynnwys opsiynau i gynnal cyfarfodydd ar ddiwrnodau penodol yn ystod yr wythnos a bod cynrychiolydd o bob Grŵp yn cynorthwyo gyda’r broses hon.

5.

Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru pdf eicon PDF 341 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfeirio at yr argymhellion allweddol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym Mawrth 2014 - Ar ôl Pwyso a Mesur: Sicrhau Democratiaeth Amrywiol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru’. Nodwydy byddai’n rhaid i lywodraeth ganolog ac awdurdodau lleol roddi sylw i’r argymhellion. Nodwyd ymhellach fod CLlLC wrthi’n ystyried yr argymhellion. Yn ychwanegol at hyn, dywedwyd bod y Gweinidog dros Lywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth yn sefydlu rhwydwaith o Eiriolwyr Amrywiaeth a bod cais wedi dod i law yn gofyn i’r Cyngor enwebu Aelod i ymgymryd â’r swyddogaeth hon.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod y Pwyllgor hwn yn cael gwybod yn y man am unrhyw gynnydd.

6.

Mynychu o Bell pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfeirio at gynnwys adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor ynghylch yr uchod. Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at y ddarpariaeth ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, sydd wedi cael eu gweithredu ac sy’n nodi mai rhywbeth dewisol yw mynychu o bell. Yn ogystal, roedd yr adroddiad yn manylu ar nifer o faterion yn ymwneud â’i weithredu a nifer o ystyriaethau technegol a goblygiadau o ran adnoddau y byddai’n rhaid eu hystyried.

 

Gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried yr adroddiad gan y Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor a gwneud sylwadau.

 

PENDERFYNWYD argymell na ddylid cefnogi defnyddio’r ddarpariaeth mynychu o bell oherwydd y pryderon technegol a’r goblygiadau posibl o ran adnoddau y sonnir amdanynt yn yr adroddiad.

7.

Rheoliadau Absenoldeb Teuluol pdf eicon PDF 427 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn gofyn am sylwadau’r Pwyllgor hwn ar adroddiad a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor mewn perthynas â’r gofynion dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 sy’n ymwneud ag absenoldeb teulu ar gyfer Aelodau awdurdodau lleol. Nodwyd y byddai angen gwneud rhai newidiadau i Gyfansoddiad y Cyngor er mwyn cwrdd â’r gofynion yn y rheoliadau ac roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at sefydlu is-bwyllgor o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i bwrpas gwrando ar apeliadau dan y Mesur.

 

PENDERFYNWYD nodi’r gofynion y manylion arnynt yn yr adroddiad a chynghori’r Pwyllgor Gwaith a’r Cyngor yn eu cylch.

8.

Cynllun Hyfforddiant i Ddatblygu Aelodau 2014/15 pdf eicon PDF 474 KB

I drafod adroddiad a gafodd ei gymeradwyo gan y Cyngor Sir ar 8 Mai, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyfeiriodd yr Uwch Swyddog Adnoddau Dynol at y Cynllun Blynyddol ar gyfer Hyfforddi a Datblygu Aelodau a gymeradwywyd gan y Cyngor Sir ar 8 Mai. Nodwyd bod hwn yn ffurfio rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddatblygu aelodau ac i sicrhau’r Siarter Datblygu Aelodau. Nodwyd hefyd bod angen targedau hyfforddiant i anghenion penodol a darparu manylion am yr hyfforddiant y bwriedir ei gynnal gan gymryd baich gwaith yr Aelodau i ystyriaeth.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

9.

Grant Datblygu Gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned - diweddariad pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dros mewn perthynas â’r uchod.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn rhoi diweddariad ynghylch nifer y Cynghorau Tref a Chymuned a oedd wedi hawlio’r grant. Nodwyd bod 32 o Gynghorau hyd yma wedi hawlio’r grant a gafwyd gan Lywodraeth Cymru ac a reolir gan y Cyngor ac a oedd ar gael yn ystod 2014/2015. Hefyd, rhoddwyd diweddariad i’r cyfarfod o’r Fforwm Cynghorau Tref a Chymuned a gynhaliwyd ar 12 Mehefin 2014 gan eu hatgoffa o’r arian a oedd ar gael iddynt i ddatblygu gwefannau.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.