Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mrs. Mairwen Hughes 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 39 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Mehefin, 2014.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 2014 yn rhai cywir.

3.

Gwe-ddarlledu Cyfarfodydd pdf eicon PDF 6 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dro Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd ar y cynnydd mewn perthynas â gwe-ddarlledu cyfarfodydd.

 

Rhoddodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd adroddiad ar yr holl ystadegau ar gyfer y cyfarfodydd oedd i’w gwe-ddarlledu ac oedd wedi eu nodi yn yr adroddiad. Nododd bod yr ystadegau yn gyffredinol yn rhai calonogol wrth hyrwyddo tryloywder ac atebolrwydd trwy gael mwy o gyfranogiad yn nhrefniadau democrataidd y Cyngor.

 

Roedd protocol drafft ar we-ddarlledu cyfarfodydd oedd yn cynnwys cyfarwyddyd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar we-ddarlledu ynghlwm i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Swyddog y dylai’r protocol gwe-ddarlledu gael ei ddosbarthu i’r holl

Aelodau a Swyddogion gan gynnwys safbwyntiau’r Pwyllgor hwn.

 

PENDERFYNWYD :-

 

· Nodi’r cynnydd gyda’r gwe-ddarlledu fel oedd yn yr adroddiad a bod

diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor hwn.

· Bod y protocol gwe-ddarlledu drafft yn cael ei anfon i Aelodau a

Swyddogion.

4.

Adroddiadau Blynyddol Aelodau pdf eicon PDF 194 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd bod yr holl Aelodau yn paratoi adroddiad blynyddol am y cyfnod hyd at Mawrth 2014. Byddai’r adroddiadau blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Mehefin 2014. Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu’r amserlen arfaethedig ar gyfer paratoi’r adroddiadau am 2014/15.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

5.

Grant Datblygu Gwefannau Cynghorau Tref a Chymuned - Diweddariad pdf eicon PDF 83 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â chyllid Llywodraeth Cymru i Gynghorau Sir i gynnig grant o hyd at £500 yr un i Gynghorau Tref a Chymuned, yn cynnwys y rhai sydd eisoes â gwefan, i’w wario ar ddatblygu gwefan.

 

Amlinellwyd y sefyllfa gyfredol o safbwynt dyrannu’r grant :-

 

· 35 o Gynghorau wedi hawlio’r grant;

· 2 Gyngor wedi hysbysu eu bwriad i hawlio’r grant;

· 1 Cyngor wedi hysbysu eu bod yn dal i ystyried y mater;

· 2 Gyngor wedi hysbysu nad ydynt yn bwriadu hawlio’r grant (roedd gan un wefan yn barod).

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

6.

Rhaglen Waith y Pwyllgor 2014/15 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith y Pwyllgor am 2014/15.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor wedi nodi’r canlynol fel rhan o’i raglen waith am y flwyddyn :-

 

· Datblygu Aelodau a Chynllun Hyfforddi yn cynnwys adolygiadau personol.

· Gwe-ddarlledu Cyfarfodydd a Mynychu o Bell;

· Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;

· Adroddiad Blynyddol Panel Cydnabyddiaeth Ariannol Annibynnol;

· Moderneiddio Arferion Gweithio;

· Cyllideb 2015/16 a’r effaith ar y Gwasanaethau Democrataidd

 

Nodwyd y bydd hyfforddiant pellach ar yr Ipad yn cael ei roi i Aelodau ar 26 Medi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.