Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiadau o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 18 Medi, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 18 Medi 2014 yn gywir.
|
|
Gwerthusiad Annibynnol o’r Ymyrraeth yn Ynys Môn PDF 1 MB Y Prif Weithredwr i adrodd ar yr astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Prif Weithredwr ar gasgliadau astudiaeth a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar yr ymyrraeth ym Môn. Comisiynwyd UK Research and Consulting i asesu effeithlonrwydd y mesurau ymyrraeth yn Ynys Môn; effaith a chynnydd, cryfderau a gwendidau a gwersi a ddysgwyd. Mae’r adroddiad yn crynhoi nifer o gasgliadau allweddol a chyfle i ddysgu.
PENDERFYNWYD nodi’r casgliadau a’r argymhellion allweddol yn yr adroddiad.
|
|
Gweddarlledu Cyfarfodydd y Cyngor PDF 221 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd diweddariad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd ar faterion gweddarlledu ers iddo adrodd i’r Pwyllgor ar 19 Medi 2014. Dywedodd y bu dros 2,500 o ymweliadau â’r safle gweddarlledu ers mis Medi.
Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro fod yr ystadegau, ar y cyfan, yn parhau i fod yn galonogol o ran hyrwyddo atebolrwydd ac agoredrwydd ac i gynyddu cyfranogiad yn nhrefniadau democrataidd y Cyngor.
PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd ar faterion gweddarlledu fel y manylwyd arno yn yr adroddiad a bod diweddariad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym Mawrth 2015.
|
|
Grant i ddatblygu Gwefannau ar gyfer Cynghorau Tref a Chymuned – Diweddariad PDF 18 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro mewn perthynas â’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â chyllid gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Cynghorau Sir i gynnig grant o hyd at £500 yr un i Gynghorau Tref a Chymuned, gan gynnwys y rheini sydd â gwefan ar hyn o bryd, i’w wario ar ddatblygu gwefannau.
Y sefyllfa gyfredol mewn perthynas â dyrannu’r grant oedd:-
· Mae 36 o Gynghorau wedi hawlio’r grant · Mae un cyngor wedi dweud ei fod yn bwriadu hawlio’r grant · Mae 3 Chyngor wedi dweud nad ydynt yn bwriadu hawlio’r grant (mae gan un ohonynt wefan eisoes).
PENDERFYNWYD:
· Derbyn yr adroddiad · Ysgrifennu at y 3 Chyngor Tref a Chymuned sydd wedi gwrthod y grant ac ailgynnig y cyllid grant iddynt · Adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn ym Mawrth 2015 ar y cynnydd hyd yma.
|
|
Rhaglen Datblygu Aelodau PDF 161 KB Cyflwyno adroddiad gan yr Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cafwyd diweddariad gan y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd ar y cyfleon datblygu a gynigiwyd i Aelodau Etholedig:-
Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu ar gyfer 2014/15 i’r Cyngor ac fe’i mabwysiadwyd yn Ebrill 2014. Mae’r cynllun yn ddogfen esblygol ac mae’n cael ei ddiwygio i adlewyrchu anghenion Aelodau Etholedig a’r galwadau busnes newidiol.
Cyfeiriodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd at ddau grŵp ffocws a gynhaliwyd fis Mehefin 2014 i gael sylwadau gan Aelodau ar faterion sy’n ymwneud â’r gefnogaeth a roddir iddynt. Roedd yr atborth a gafwyd o’r cyfarfodydd hyn yn amlygu’r angen i roi mwy o hyfforddiant ar faterion technoleg, gan gynnwys I-pads.
Cyfeiriodd at yr Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP) ar gyfer Aelodau a sut mae’r amserlen wedi ei haildrefnu i gyd-fynd â’r gwerthusiadau staff blynyddol. Y bwriad yn awr oedd cwblhau’r ADP erbyn Chwefror 2015.
Dywedodd y Pennaeth Dros Dro ar gyfer Gwasanaethau Democrataidd hefyd fod y Gweinidog ar gyfer Llywodraeth Leol wedi cyhoeddi’n ddiweddar y byddai’r Grant Gwella gan CLlLC yn dod i ben ym Mawrth 2015 ac y byddai hynny’n cael effaith uniongyrchol ar y Siarter ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau.
PENDERFYNWYD derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad a bod y Pwyllgor hwn yn mynegi ei bryderon fod Grant Gwella Llywodraeth Leol Cymru wedi dod i ben a goblygiadau hynny ar gyfer cefnogi a datblygu Aelodau.
|