Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod new Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr, 2014. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2014 fel rhai cywir ar yr amod fod enw’r Cynghorydd R O Jones yn cael ei gynnwys ar restr yr Aelodau a oedd yn bresennol. |
|
Ymgynghoriad ar y Gyllideb 2015/16 PDF 193 KB • Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd.
• I ystyried cynnigion ar y gylllideb ddrafft.
Dogfen Ymgynghori ar gael ar wefan y Cyngor:
http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/2015/01/05/g/e/v/CynigionCyllideb_201516_Cymraeg.pdf
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd sylw i adroddiad a baratowyd gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn cyfeirio at yr Ymgynghoriad ar y Gyllideb a’r Cynigion Drafft ar gyfer Cyllideb 2015/16.
Cyfeiriwyd yn benodol at adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 15 Rhagfyr, 2014, a’r cynigion ynghylch arbedion effeithlonrwydd ar gyfer y Gwasanaethau Democrataidd y manylwyd arnynt yn Atodiad B. Roedd yr arbedion yn y Gwasanaethau Democrataidd yn ymwneud â gostwng costau argraffu a phostio yn dilyn rhoi i-pads i’r Aelodau a’r arbedion a wnaed yn sgil hynny.
PENDERFYNWYD cymeradwyo’r arbedion a gynigiwyd. |
|
Adroddiad Blynyddol Aelodau PDF 278 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan Bennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2014/15.
Cyfeiria’r adroddiad at adolygiad o’r Adroddiadau Blynyddol a baratowyd gan yr Aelodau gan y Gweinidog ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus lle nodir darlun cymysg o ran nifer yr adroddiadau blynyddol a gyhoeddwyd ar gyfer 2013/14 ac yn nodi mai dim ond Ynys Môn ac un Awdurdod arall oedd wedi cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol ar gyfer y cyfan o’u Haelodau.
Gofynnodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd i’r Aelodau baratoi eu hail adroddiad blynyddol ar gyfer 2014/15 a rhoddwyd i’r Aelodau fersiwn symlach o’r templed. Dywedodd y byddai’r swyddogion yn casglu ynghyd y wybodaeth ystadegol ynghylch presenoldeb ym mhrif bwyllgorau ac is-bwyllgorau’r Cyngor. Byddai’r templed yn cael ei gylchredeg i Aelodau yn ystod mis Mawrth a gofynnir i’r Aelodau gyflwyno adroddiadau drafft erbyn 10 Ebrill, 2015 ac y bydd adroddiadau terfynol yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor tua diwedd mis Mehefin.
Cyfeiriodd y Cadeirydd at bresenoldeb mewn cyfarfodydd a’r anhawster a gaiff rhai Aelodau i fynychu oherwydd amgylchiadau personol. Cytunwyd y byddai Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd yn paratoi troed-nodyn a’r dempled yr adroddiad yn datgan fod presenoldeb Aelodau mewn cyfarfodydd yn dibynnu ar eu hymrwymiadau gwaith.
Cynigiodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y bydd cyfarfodydd yn y dyfodol yn cael eu cynnal ar ddydd Llun, dydd Mawrth a dydd Mercher pryd bynnag y mae hynny’n bosibl ac roedd yr Aelodau’n croesawu hynny fel ffordd ymlaen. Byddai cynigion ynghylch amserlen Pwyllgorau 2015/16 yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor ym mis Chwefror 2015.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Datblygiad Proffesiynol Parhaus CLILC ar gyfer Cynghorwyr: 2015 PDF 428 KB Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC wedi paratoi canllawiau ar fframwaith cymhwysedd drafft i gefnogi Aelodau yn eu gwaith. Mae’r fframwaith yn disgrifio’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar Aelodau etholedig ynghyd â’u cyfrifoldebau a bwriedir iddynt ei ddefnyddio pan yn ystyried eu hanghenion o ran datblygiad proffesiynol neu wrth adolygu eu perfformiad.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd fod CLlLC wedi gofyn am atborth gan yr Aelodau ar y fframwaith cymhwysedd drafft a chyfeiriodd at yr atodiad i’r adroddiad sy’n cyfeirio at y cymwyseddau generig sydd eu hangen ar gyfer rôl Aelodau; agweddau Aelodau tuag at arweinyddiaeth; swyddogaeth pwyllgorau sgriwtini ac ati.
Dywedodd Pennaeth Dros Dro y Gwasanaethau Democrataidd y bydd gan yr Aelodau’r cyfle i gyflwyno sylwadau ar y fframwaith drafft ac i’w ddiwygio erbyn 4 Mawrth, 2015. Cafwyd gwybodaeth gefndirol yn y fframwaith i gynorthwyo’r Aelodau’r gyda’r broses o baratoi Adolygiadau Datblygiad Personol sy’n mynd rhagddi ar hyn o bryd gyda hynny’n darparu gwybodaeth ar gyfer y cynllun anghenion hyfforddiant am 2015/16.
PENDERFYNWYD derbyn y fframwaith cymhwysedd a baratowyd gan CLlLC. |
|
Ar ddiwedd y cyfarfod, dywedodd y Cadeirydd fod Sarah Titcombe o CLlLC wedi bod mewn damwain car yn ddiweddar. Roedd aelodau’r Pwyllgor yn dymuno mynegi iddi eu dymuniadau gorau am adferiad iechyd llwyr a buan.
|