Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ailetholwyd y Cynghorydd Richard Owain Jones yn Is-Gadeirydd y Pwyllgor hwn yn ei absenoldeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Mawrth, 2015 fel rhai cywir. |
|
Gwe-Ddarlledu Cyfarfodydd PDF 449 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad cynnydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn crynhoi gwybodaeth am weddarlledu cyfarfodydd fel rhan o'r cynllun peilot 2 flynedd.
Nodwyd bod Arweinyddion y Grwpiau a'r Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn cefnogi parhau i weddarlledu ac mae’n debygol y bydd deddfwriaeth yn y dyfodol yn rhoi dyletswydd ar Awdurdodau Lleol yng Nghymru i ddarlledu cyfarfodydd o’r Cyngor llawn a'r Pwyllgor Gwaith. Byddai arian grant yn debygol o gwrdd â’r costau yn ystod 2016/17 a byddai angen adrodd ar hyn i’r Pwyllgor Gwaith am benderfyniad.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn cefnogi parhau i weddarlledu cyfarfodydd o'r Pwyllgor Gwaith, y Cyngor Sir a'r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. |
|
Adroddiadau Blynyddol Aelodau PDF 379 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas ag Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau a oedd yn nodi bod pob Aelod wedi paratoi Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2014/15 a bod gwybodaeth wedi ei chyhoeddi ar-lein.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at yr amserlen arfaethedig ar gyfer cwblhau a chyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2015/16 a nododd mai’r dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny oedd 30 Mehefin, 2016.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.
|
|
Sicrhau Democratiaeth Amrywiol PDF 212 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru ar Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol.
Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd at y Rhaglen Fentora ac at wybodaeth a gyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru, gan gynnwys gwybodaeth ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn sefyll fel Cynghorwyr yn etholiadau 2017.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
Rhaglen Waith y Pwyllgor 2015/16 PDF 206 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd ar Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2015/16.
Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi nodi'r canlynol fel rhan o'i raglen waith ar gyfer 2015/16: -
• Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau (yn cynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol); • Gweddarlledu cyfarfodydd; • Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau; • Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol; • Digonolrwydd y trefniadau i gefnogi rolau Aelodau; • Y gyllideb ar gyfer 2015/16 a’r effaith ar y Gwasanaethau Democrataidd.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |