Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ethol Is-Gadeirydd Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Etholwyd y Cynghorydd Ieuan Williams yn Is-gadeirydd. |
|
Datganiad o Ddiddordeb I dderbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Ethol Is-Gadeirydd Ethol Is-Gadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
Sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd PDF 732 KB Cyflwyno adroddiad gan y Prif Weithredwr mewn perthynas â’r uchod. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Prif Weithredwr ar yr uchod.
Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at y prif faterion yn yr adroddiad a nododd fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar yr awdurdod lleol i sefydlu Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd. Prif swyddogaeth y pwyllgor fydd sicrhau fod y Cyngor yn cael ei redeg yn dda, hyrwyddo sgriwtini cadarn a phroses gwneud penderfyniadau sy’n agored ac yn dryloyw a darparu cyfleon ar gyfer ymgysylltiad cymunedol effeithiol.
Gyda’r Cyngor hefyd yn moderneiddio’r modd y mae’n gweithio, disgwylir hefyd y bydd y Pwyllgor yn canolbwyntio ar gyfleon hyfforddiant a datblygiad ar gyfer Aelodau gan gynnwys y defnydd o TGCh i’w helpu i gyflawni eu swyddogaethau. Dywedwyd ymhellach fod Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau lleol i benodi Uwch Swyddog i arwain ym maes Gwasanaethau Democrataidd.
Materion a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:-
· Roedd rhai aelodau’n anghyfforddus gyda phenodi Uwch Swyddog i swydd Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar sail dros dro yn hytrach na pharhaol; · Dylid cysylltu gydag awdurdodau lleol sydd o faint tebyg i Ynys Môn er mwyn gweld pa weithdrefnau a fabwysiadwyd ganddynt o ran Gwasanaethau Democrataidd; · Angen gwella TGCh ar gyfer Aelodau; · Ymgeiswyr posibl ar gyfer etholiadau’r Cyngor Sir a gynhelir mis Mai nesaf i fod yn ymwybodol fod yr awdurdod yn bwriadu gwella ei gyfleusterau TGCh, h.y. bydd Papurau Rhaglenni ar gael ar y rhyngrwyd yn hytrach na chopïau papur fel sy’n digwydd ar hyn o bryd;
Yn dilyn trafodaethau pellach, PENDERFYNWYD:
· Cymeradwyo penodi’r Pennaeth Polisi fel Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Dros Dro hyd oni fydd y mater yn cael ei adolygu gan y Cyngor newydd yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2013; · Mabwysiadu’r disgrifiad swydd drafft ar gyfer swyddogaeth a chyfrifoldebau Cadeirydd ac Aelodau’r Pwyllgor;
· Argymell i’r Cyngor Sir:-
o Ei fod yn ymestyn cylch gorchwyl y Pwyllgor i gynnwys cyfrifoldebau am y rhaglen hyfforddi a datblygu Aelodau gan gynnwys eu sgiliau TG a chefnogaeth ar gyfer hynny;
o Bod y Pwyllgor yn cynnal tri chyfarfod cyffredinol yn ychwanegol at ei Gyfarfod Blynyddol bob blwyddyn, gyda’r hawl i drefnu cyfarfodydd pellach yn ôl yr angen;
· Penderfynu ar ei raglen waith hyd at 30 Ebrill 2012. |