Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb. |
|
Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol o’r cyfarfod hwn a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-
• 12 Mai, 2016 • 24 Hydref, 2016 Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cadarnhawyd cofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 12 Mai, 2016 fel rhai cywir ac eithrio’r ffaith bod enw’r Cynghorydd Bob Parry yn ymddangos ddwywaith yn y cofnodion.
Cadarnhawyd fel rhai cywir, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 24 Hydref, 2016. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd. Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i gais y Pwyllgor am adroddiad ar yr opsiynau sydd ar gael mewn perthynas â gweddarlledu.
Ers Mehefin 2014, mae’r Cyngor wedi bod yn arbrofi gyda gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion. Mae trefniadau cyfredol y Cyngor ar gyfer gweddarlledu cyfarfodydd yn unol â’r hyn sy’n cael ei wneud mewn nifer o Gynghorau yng Nghymru ac mae rhai awdurdodau wedi ymestyn gweddarlledu i gynnwys Pwyllgorau Sgriwtini.
Mae’n debygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio at weddarlledu yn y Mesur Llywodraeth Leol nesaf ac unrhyw ofynion mandadol yn y dyfodol. Yn y Papur Gwyn, Ad-drefnu Llywodraeth Leol, Grym i Bobl Leol (Chwefror 2015), cyfeiriwyd at “y bwriad ar y pryd i’w gwneud yn orfodol bod holl gyfarfodydd y Cyngor llawn a’r Pwyllgor gwaith yn cael eu darlledu ar-lein, tra, ar yr un pryd, yn annog darlledu Pwyllgorau”.
Soniodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y cynnydd a wnaed o ran arbrofi gyda gweddarlledu a nododd bod angen eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyllido gweddarlledu yn y dyfodol ac argaeledd cyllid grant.
Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd bod yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth yn argymell y dylid parhau gyda’r trefniadau cyfredol ar gyfer gweddarlledu yn 2017/18.
Trafododd yr Aelodau y posibilrwydd o ymestyn gweddarlledu i gynnwys y Pwyllgorau Sgriwtini ond argymhellodd y dylid parhau gyda’r cynllun peilot cyfredol am 2017/18.
PENDERFYNWYD:-
• Parhau gyda’r cynllun peilot i weddarlledu cyfarfodydd y Cyngor, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn 2017/18. • Argymell i’r Pwyllgor Gwaith fod swm o £10,000 yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2017/18 i gwrdd â’r costau angenrheidiol. • Cyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru mewn perthynas â sicrhau cyllid gan lywodraeth ganolog i gwrdd ag unrhyw gostau a gofynion statudol yn y dyfodol.
|