Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi’u derbyn.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 185 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft  y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion drafft y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 14 Rhagfyr, 2016 fel rhai cywir. 

 

Materion yn codi o’r cyfarfod - Eitem 3 - Gwe ddarlledu

 

Hysbysodd y Cadeirydd y Pwyllgor bod ymateb wedi’i dderbyn gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ynghylch goblygiadau ariannol gwe ddarlledu cyfarfodydd.

 

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2017/18 pdf eicon PDF 424 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad blynyddol gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2017/18.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod gan y Cyngor ddisgresiwn mewn perthynas â thalu cyflogau penodol, fel y’u gosodir gan yr IRP. Mae’r Cyngor wedi derbyn 15 swydd cyflog uwch ar gyfer 2017/18, sy’n cynnwys cyflogau dinesig. Ar gyfer 2015/16 a 2016/17, dyfarnodd y Cyngor gyflogau uwch i 14 deilydd swydd er mwyn lleihau costau democrataidd.

Ymgynghorwyd gydag Arweinwyr Grŵp am lefelau’r taliadau ac maent o’r farn y dylid rhoi taliadau ar yr un lefel â 2016/17 ar gyfer Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith, Cadeiryddion Pwyllgorau, y Pennaeth Dinesig a’r Dirprwy Bennaeth Dinesig yn 2017/18.  

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn delio â newidiadau eraill a gyflwynwyd gan yr IRP, gan gynnwys absenoldebau salwch ar gyfer y rhai hynny sy’n derbyn cyflogau uwch.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y derbyniwyd llythyr gan yr IRP ar 17 Chwefror, 2017 yn cadarnhau bod y Cyngor wedi cydymffurfio â gofynion yr IRP drwy gyhoeddi datganiad o daliadau a wnaed i Aelodau’r Cyngor cyn 30 Medi y llynedd.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor llawn ar 23 Mai, 2017 ei fod yn cymeradwyo:-

 

5.1.1 Talu cyflogau Lefel 1 a Lefel 2 ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Gwaith;

5.1.2 Talu cyflogau Lefel 1 a 2 ar gyfer Cadeiryddion Pwyllgorau;

5.1.3 Talu cyflogau ar un ai Lefel 1, 2 neu 3 ar gyfer Arweinwyr Dinesig a Dirprwy Benaethiaid Dinesig.

4.

Darpariaeth TGCh ar gyfer Aelodau pdf eicon PDF 298 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd  - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar anghenon TGCh Aelodau yn dilyn etholiadau’r Cyngor Sir ym mis Mai.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod yr Adain TGCh wedi asesu gofynion y Cyngor mewn perthynas ag iPads a darpariaeth TGCh a bod yr Arweinwyr Grwpiau yn cefnogi rhoi iPads newydd, sydd â swyddogaethau ychwanegol, i Aelodau. 

 

Roedd yr adroddiad hefyd yn cyfeirio at y meini prawf yr oedd angen eu bodloni os oedd Aelodau yn dymuno defnyddio eu hoffer eu hunain ar gyfer busnes y Cyngor adref. Nodwyd hefyd y bydd yr hyfforddiant a’r gefnogaeth ar gyfer technoleg iPad yn cael ei ddarparu gan staff TGCh yn dilyn etholiadau’r Cyngor.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr hyfforddiant TGCh y mae Aelodau wedi’i gael ers 2013 a diolchodd i’r holl Swyddogion am eu gwaith a’u cefnogaeth. 

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Na fydd y Cyngor yn talu am gysylltiadau band-eang yr Aelodau yn dilyn etholiadau mis Mai 2017 ac y dylai Aelodau ddefnyddio eu band-eang preifat ar gyfer busnes y Cyngor. 

  Bod yr holl Aelodau yn cael iPads newydd a bod y costau’n cael eu talu o gronfa’r Cyngor.

  Blaenoriaethu hyfforddiant a chymorth i Aelodau mewn perthynas â’r defnydd o iPads yn dilyn etholiadau’r Cyngor.

  Cadarnhau bod yn rhaid i feini prawf penodol gael eu bodloni os yw Aelodau yn defnyddio eu hoffer eu hunain.  

5.

Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig - Ebrill, 2017 - Mawrth, 2018 pdf eicon PDF 467 KB

Cyflwyno adroddiad er gwybodaeth, sef y Cynllun Cynefino a Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig, fel y’i cyflwynwyd i’r cyfarfod o’r Cyngor Sir ar 28ain Chwefror, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd mewn perthynas â’r uchod.

 

Mae’r rhaglen yn darparu fframwaith amlinellol ar gyfer darparu hyfforddiant a fydd yn cynnwys gweithdai, mentora, e-ddysgu a sesiynau un i un. Mae agwedd raddol wedi’i mabwysiadu mewn perthynas â nifer y sesiynau ac ymrwymiadau amser.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Pwyllgor yn gyfrifol am fonitro anghenion hyfforddiant Aelodau ac y bydd adroddiadau cynnydd yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn y man.

 

Nododd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd fod y Cynllun Datblygu Aelodau ar ffurf drafft ar hyn o bryd ac y rhoddir cyfle i Aelodau roi eu mewnbwn ar y Cynllun. Nodwyd y bydd cynllun hyfforddiant mwy manwl yn cael ei gadarnhau dros yr wythnosau nesaf. 

 

Gan gyfeirio at y Cynllun Hyfforddiant Cynefino, awgrymodd Aelodau y dylai’r holl Aelodau Etholedig gael cynnig hyfforddiant ar faterion Cynllunio ac y dylai’r is-gadeiryddion fod yn rhan o unrhyw gyrsiau sgiliau Cadeirio. 

 

Gweithred:  Fel y nodwyd uchod.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n codi’r materion uchod gyda’r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r adroddiad er gwybodaeth.

  Nodi bod y Cyngor Sir, yn ei gyfarfod ar 28 Chwefror, 2017 wedi mabwysiadu’r Cynllun Hyfforddiant Cynefino fel fframwaith ar gyfer datblygiad Aelodau yn dilyn etholiadau’r Cyngor ym mis Mai 2017.