Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Llun, 24ain Hydref, 2016 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 176 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar Mawrth 23ain, 2016.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mawrth, 2016 fel rhai cywir, yn amodol ar gywiro Eitem 3 - Adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2016/17 a ddylai ddarllenDyrannwyd 15 swydd cyflog uwch i’r Cyngor yn 2015/16, ond penderfynwyd dyrannu cyflogau uwch i 14 deilydd swydd er mwyn lleihau costau democrataidd’.

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf eicon PDF 150 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adroddiad drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar daliadau i Aelodau etholedig.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi penderfynu codi lwfans sylfaenol Cynghorwyr o £13,300 i £13,400. Mae hwn yn gynnydd o 0.75% a dyma’r cynnydd cyntaf mewn 3 blynedd. Nid oes newid o safbwynt uwch gyflogau fydd yn parhau ar yr un lefel â 2016/17 ac mae nifer yr uwch gyflogau a ddyrennir i’r Cyngor yn parhau ar 15 ar gyfer 2017/18. Cyfeiriodd ymhellach at Adran 11 yr adroddiad sy’n rhoi manylion am newidiadau i’r fframwaith er mwyn darparu trefniadau penodol ar gyfer salwch hir dymor sy’n gyson â’r trefniadau ar gyfer absenoldeb teuluol. Argymhellir hefyd newid y modd y cyhoeddir manylion costau gofal, a darparwyd canllawiau yn Atodiad 4 adroddiad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at Adrannau 3.16 i 3.18 yr adroddiad mewn perthynas â swyddogaeth y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i adolygu’r cymorth a roddir i Aelodau Etholedig. Oherwydd yr angen i baratoi ar gyfer y Cyngor ym Mai 2017 argymhellir trefnu grwpiau ffocws i Aelodau i roi sylw i ddefnyddio TGCh a materion perthnasol. Nodwyd y bydd angen adolygu cyrff allanol yn unol â phenderfyniad y Cyngor ym mis Mai 2016.

 

Dywedodd y Cadeirydd y bydd o, ynghyd â’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn mynychu cyfarfod y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol yn Llandudno ar 26 Hydref 2016 a’i fod yn fodlon cyfleu unrhyw faterion y dymuna’r Pwyllgor eu codi.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y pwyntiau canlynol:-

 

  Roedd gan Aelodau amheuon ynghylch y cynnydd yn y lwfans sylfaenol;

  Er eu bod yn fodlon â’r trefniadau sy’n cael eu gwneud yn awr o ran hyfforddi Aelodau newydd yn dilyn etholiadau Mai 2017, ystyriwyd bod angen cyflwyno sesiynau briffio yn raddol er mwyn rhoi cyfle i Aelodau ddirnad yr holl wybodaeth a gyflwynir iddynt.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a gofyn i’r Cadeirydd godi amheuon y Pwyllgor ynghylch y cynnydd yn y lwfans sylfaenol yng nghyfarfod y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol a gynhelir ar 26 Hydref 2016.

 

GWEITHREDU : Fel y nodwyd uchod.

4.

Cynllun Datblygu Aelodau - Ebrill 2016 - Mawrth 2017 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd a’r Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r rhaglen hyfforddiant drafft ar gyfer Aelodau yn dilyn yr etholiadau ym mis Mai 2017.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cynllun Datblygu Aelodau yn ceisio rhoi sylw i anghenion Aelodau drwy gefnogi ac arfarnu eu swyddogaeth fel Aelodau Etholedig. Rhoddwyd copi o’r Cynllun Datblygu ar gyfer y cyfnod Ebrill 2016 - Mawrth 2017 ynghlwm i’r adroddiad ac mae’n amlygu’r prif feysydd o ran cyfleoedd hyfforddi sy’n cael eu cynnig yn ystod y flwyddyn ariannol gyfredol. Mae’r Cynllun Datblygu’n ceisio diwallu anghenion Aelodau drwy gyfrwng gweithdai, mentora, e-ddysgu a sesiynau un-i-un. Ymhellach, dywedodd bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datblygu rhaglen gynefino mewn cydweithrediad ag Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

 

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad gan gynnig y sylwadau canlynol:-

 

  Mae angen cyflwyno hyfforddiant cynefino gam wrth gam;

  Mae angen cynnal sesiynau Cyllideb a Rheoli Trysorlys yn ystod y 3 mis cyntaf fel paratoad ar gyfer y gyllideb flynyddol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a’r sylwadau a nodwyd uchod.

 

Gweithredu : Fel y nodwyd uchod.

5.

Rhaglen Waith y Pwyllgor 2016/17 pdf eicon PDF 205 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd Rhaglen Waith arfaethedig y Pwyllgor ar gyfer 2016/17.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yr argymhellir bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn canolbwyntio ar yr agweddau canlynol :-

 

  Y Cynllun ar gyfer Datblygu a Hyfforddi Aelodau, gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol;

  Gweddarlledu cyfarfodydd;

  Adroddiadau Blynyddol Aelodau;

  Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  Adolygu trefniadau i gefnogi Aelodau i bwrpas y Cyngor newydd gan gynnwys TGCh a chyrff allanol.

 

Yn codi o’r drafodaeth nododd Aelodau fod potensial i weddarlledu rhai cyfarfodydd o’r Pwyllgor Sgiwtini pan drafodir materion sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd.

 

Yn dilyn trafodaethau PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a bod adroddiad ar yr opsiynau sydd ar gael mewn perthynas â gweddarlledu cyfarfodydd y Cyngor yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.

 

Gweithredu : Fel y nodwyd uchod.