Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 291 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, cofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

·           29 Mawrth, 2017

·           31 Mai, 2017

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i'w cadarnhau - cofnodion drafft cyfarfodydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

           

  29 Mawrth, 2017

  31 Mai, 2017

 

PENDERFYNWYD cadarnhau'r cofnodion uchod fel rhai cywir.

3.

Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Diwygio System Etholiadol Llywodraeth Leol pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar fwriad Llywodraeth Cymru i ddiwygio system etholiadol llywodraeth leol.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod Llywodraeth Cymru yn gwahodd sylwadau ar ddiwygio etholiadol, sy’n ymwneud yn bennaf â'r ffordd y mae pobl yn cofrestru ac yn bwrw pleidlais. Nodwyd bod y ddogfen ymgynghori yn ceisio moderneiddio system etholiadol llywodraeth leol ac mae'n cynnwys y  prif feysydd canlynol: -

 

  Adeiladu’r etholfraint

  Gwella cofrestru

  Y system bleidleisio

  Y broses bleidleisio

  Sefyll am etholiad

  Swyddogion Canlyniadau

 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion i'r ddogfen ymgynghori yw 10 Hydref, 2017.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at yr ymateb drafft a baratowyd ac a oedd wedi ei gynnwys yn yr adroddiad hwn. Mewn ymateb, rhoddodd y Pwyllgor ei farn a nododd y canlynol: -

 

  dylid gostwng yr oed ar gyfer pleidleisio i 16;

  nid yw'n ymarferol cael cofrestrau ar wahân i bleidleisio mewn etholiadau  Cyngor Sir ac etholiadau lleol;

  llywodraeth ganolog ddylai fynd i'r afael ag ymestyn hawliau pleidleisio;

  cefnogir treialu dulliau electronig o bleidleisio, yn y gobaith o annog pobl ifanc i bleidleisio;

  dylid rhoi mwy o bwyslais ar bleidleisio drwy'r post yn hytrach na phleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio;

  nodwyd bod etholiadau bob amser yn digwydd ar ddydd Iau. Awgrymwyd bod Llywodraeth Cymru yn dilyn enghreifftiau a osodwyd gan wledydd eraill a  rhoi'r dewis i ddinasyddion bleidleisio ar benwythnosau.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi safbwynt y Pwyllgor ar yr ymateb drafft cychwynnol (Atodiad 2).

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor, yn cwblhau’r sylwadau yn derfynol ac yn ymateb i Lywodraeth Cymru cyn 10 Hydref, 2017.

4.

Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rhelowr Datblygu Adnoddau Dynol ar sesiynau cynefino i Gynghorwyr Sir yn dilyn yr etholiadau a threfniadau ar gyfer hyfforddi Cynghorwyr Tref a Chymuned.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y trefniadau  hyfforddi a chynefino ar ôl yr etholiadau ar gyfer Aelodau Etholedig, fel y cyflwynwyd nhw i'r Pwyllgor Safonau ar 13 Medi 2017.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod Rhaglen Sefydlu wedi'i datblygu ers Etholiadau'r Cyngor Sir ym mis Mai i gwrdd ag anghenion hyfforddi Aelodau Etholedig a gofynion newidiol yr Awdurdod hwn. Sefydlwyd y Cynllun Datblygu gyda mewnbwn gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) ac awdurdodau lleol ledled Cymru. Adolygwyd a theilwriwyd y Cynllun i gwrdd ag anghenion lleol gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth ac Arweinyddion Grwpiau’r Cyngor, ac mae'n esblygu'n barhaus.

 

Cyflwynwyd y Cynllun Datblygu ar gyfer 2017/18 i’r Cyngor llawn ar 28 Chwefror, 2017 ac fe gafodd ei fabwysiadu. ‘Roedd cyfnod cychwynnol y Cynllun yn canolbwyntio ar sesiynau cynefino i’r Aelodau newydd a chynigiwyd 20 o sesiynau datblygu ffurfiol i'r Aelodau rhwng Mai ac Awst, 2017.  Nodwyd y bydd angen i rai Aelodau gael rhagor o hyfforddiant ar sut i ddefnyddio’r IPad. Mae trefniadau wedi eu gwneud i'r tîm TGCh ddarparu sesiynau hyfforddi pellach maes o law.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu fod Aelodau'n cael eu hannog i gwblhau taflenni gwerthuso er mwyn cyflwyno atborth ar ôl mynychu sesiynau hyfforddi. .Nodwyd bod cofnod o bresenoldeb Aelodau ym mhob sesiwn. Nodwyd hefyd fod cyflwyniadau a roddir yn y sesiynau hyfforddi yn cael eu huwchlwytho i MonITor, sef gwefan y Cyngor ar gyfer staff ac Aelodau Etholedig.

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu y bydd pedwar Aelod Etholedig yn treialu rhaglenni E-Ddysgu i gynorthwyo datblygiad personol yr Aelodau o fis Medi, 2017. Caiff y rhaglenni eu cynnal trwy Academi Cymru Gyfan.

 

PENDERFYNWYD: -

 

  Nodi cynnydd y Rhaglen Datblygu Aelodau.

  Bod y Rheolwr Datblygu yn amlygu sesiynau hyfforddi sy'n orfodol ar gyfer Aelodau newydd / Aelodau a ailetholwyd.

5.

Adroddiadau Blynyddol gan Aelodau pdf eicon PDF 649 KB

Cyflwyno adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar y wybodaeth y bwriedir ei chyhoeddi am waith Cynghorwyr Sir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y trefniadau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau ar gyfer 2016/17.

 

Mae Adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i sicrhau bod trefniadau ar waith i Aelodau baratoi adroddiadau blynyddol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr amserlen i’r 21 Aelod a ailetholwyd gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar gyfer 2016/17 a’u cyhoeddi ar wefan y Cyngor erbyn 30 Medi, 2017.

 

PENDERFYNWYD nodi'r sefyllfa o ran cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau ar gyfer 2016/17.

6.

Rhaglen Waith y Pwyllgor 2017/18 pdf eicon PDF 334 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Raglen Waith y Pwyllgor ar gyfer 2017/18.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor wedi nodi'r

Isod fel rhan o'i Rhaglen Waith ar gyfer 2017/18: -

 

  Y Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau, gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol;

  Gweddarlledu cyfarfodydd;

  Adroddiadau Blynyddol yr Aelodau;

  Adroddiad Blynyddol y Panel Cydnabyddiaeth Annibynnol;

  Ymgynghoriadau perthnasol Llywodraeth Cymru;

  Cyrff allanol a threfniadau adrodd;

  Amser cyfarfodydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.