Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 13eg Rhagfyr, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim wedi eu derbyn.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 296 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Medi 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd i’w cadarnhaucofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a gynhaliwyd ar 27 Medi, 2017.

 

Materionyn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 3 – Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru – Ad-drefnu Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn ye ymgynghoriad ar Ad-drefnu Etholiadol, bod Llywodraeth Cymru yn argymell gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ar gyfer etholiadau lleol.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r cofnodion uchod fel rhai cywir.

3.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19 pdf eicon PDF 516 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol 2018/19 (‘Y Panel’). Ymgynghorwyd â’r Arweinwyr Grŵp ynglŷn â’r cynigion.

 

Cafodd y canlynol ei argymell:-

 

  Cynyddu cyflogau Cynghorwyr 1.49% i £13,600.  Mae hyn yn golygu cynnydd o £200 yn y cyflog sylfaenol.

  Dim cynnydd i’r cyflogau uwch.

  Cael gwared ar ddwy lefel o gyflogau ar gyfer Aelodau Pwyllgor Gwaith a Chadeiryddion Pwyllgorau.

  Mae’r Panel yn parhau i fod yn bryderus nad yw nifer o Aelodau yn hawlio eu had-daliadau ar gyfer costau gofal.

  Cyflwyno trefniadau absenoldeb salwch newydd ar gyfer Aelodau uwch.

  Mae’r Panel yn bryderus nad yw Cynghorwyr yn gyson yn derbyn offer TG / ffôn digonol a/neu gefnogaeth gaen Gynghorau. (Mae cyfrifoldeb ar y Pwyllgorau Gwasanaethau Democrataidd mewn awdurdodau i oruchwylio’r materion hyn).

  Cadarnhad o rannu swydd Aelod Pwyllgor Gwaith (Gellir rhannu cyflog Aelod o’r Pwyllgor Gwaith rhwng 2 Aelod mewn trefniantrhannu swydd’).

  Cynghorau Tref a Chymunedcynigion i ganiatáu a/neu ofyn am dalu lwfans cyfrifoldeb arbennig yn seiliedig ar faint y cyngor cymuned / tref.

 

Nodwyd bod yr Arweinwyr Grŵp wedi croesawu diddymu’r ddwy lefel o gyflog ar gyfer Aelodau’r Pwyllgor Gwaith a Chadeiryddion Pwyllgorau.

 

PENDERFYNWYD nodi argymhellion Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2018/19 fel y nodwyd yn yr adroddiad.

4.

Siartr Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Siartr Cymru ar gyfer Cefnogi a Datblygu Aelodau CLlLC. Dyfarnwyd y siartr i’r Cyngor yn 2014, a’i nod yw darparu fframwaith eang ar gyfer Cynllunio lleol, hunan-asesu, gweithredu ac adolygu a rhannu arferion da ac arloesol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y rhoddwyd y dyfarniad am gyfnod o dair blynedd, ac y bydd y Cyngor yn ceisio ail asesiad yn 2018, drwy baratoi hunanasesiad yn erbyn y meini prawf a ddarparwyd gan CLlLC. Nododd y byddai’r Pwyllgor yn cael diweddariad pellach ym mis Mawrth 2018.

 

PENDERFYNWYD cadarnhau’r gweithredoedd a gynigiwyd yn yr adroddiad hwn.

5.

Amseriad Cyfarfodydd y Cyngor pdf eicon PDF 356 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn unol â’r arweiniad statudol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dan Adran 6(1) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. Mae gofyn i’r Cyngor adolygu a chynnal arolwg o amseriad cyfarfodydd o leiaf unwaith y tymor ar.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn ymgynghoriad ag Arweinyddion Grwpiau ar 26 Hydref, 2017, yr anfonwyd holiadur i’r holl Aelodau er mwyn cael eu barn. Roedd opsiynau yn cynnwys dechrau cyfarfodydd am 10:00am, 2:00pm, 4:00pm a 6:00pm.

 

Nodwyd bod 13 o ymatebion wedi dod i law (43%). Trafododd Aelodau’r pwyllgor yr opsiynau a oedd ar gael a chytunwyd y dylid cadw at y trefniant presennol gyda’r ddau Bwyllgor Sgriwtini yn dechrau am 2:00pm.

 

PENDERFYNWYD argymell i gyfarfod llawn y Cyngor Sir na ddylid gwneud unrhyw newidiadau i amseriad cyfarfodydd.