Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Arbennig, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mawrth, 27ain Tachwedd, 2018 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 294 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 26 Medi 2018 fel rhai cywir.

3.

Gweddarlledu Cyfarfodydd Sgriwtini pdf eicon PDF 405 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddariad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 28 Medi 2018 i gyfeirio Rhybudd o Gynigiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i wneud argymhellion i’r Cyngor ynghylch gwe-ddarlledu’r ddau Bwyllgor Sgriwtini.

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod cyfarfodydd y Cyngor Sir, y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn cael eu gwe-ddarlledu ar hyn o bryd. Nododd nad yw gwe-ddarlledu yn ofyniad deddfwriaethol, ond bod Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi’n gryf, a’i fod yn gysylltiedig â’r ddarpariaeth yn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, i gryfhau democratiaeth leol ac ymgysylltiad cymunedol.

 

Nododd fod y costau gwe-ddarlledu cyfredol fesul blwyddyn yn tua £12,000. Rhagwelir y byddai’r costau gwe-ddarlledu ychwanegol yn tua £3,000 y flwyddyn ar gyfer llogi’r offer, ynghyd â £3,500 ar gyfer amser staff.

 

PENDERFYNWYD argymell peidio gwneud unrhyw newidiadau i’r trefniadau presennol ar gyfer gwe-ddarlledu.

 

 

 

 

4.

Cyfranogiad y Cyhoedd mewn Cyfarfodydd pdf eicon PDF 362 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad diweddariad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd mewn ymateb i benderfyniad y Cyngor ar 28 Medi 2018 i gyfeirio Rhybudd o Gynigiad i’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd i wneud argymhellion i’r Cyngor i addasu’r Cyfansoddiad er mwyn caniatáu i gynigion sy’n cael eu cynnig gan aelodau o’r cyhoedd ac sydd wedi’u cefnogi gan lofnodion 50 o unigolion sy’n byw ar Ynys Môn, gael eu trafod yng nghyfarfodydd llawn y Cyngor.

 

Nid yw Rheolau Gweithdrefn y Cyngor (Para 4.1 o’r Cyfansoddiad) yn cynnwys unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cynigion a gaiff eu cyflwyno gan aelodau o’r cyhoedd.

 

PENDERFYNWYD argymell peidio gwneud unrhyw newidiadau i’r Cyfansoddiad.

5.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2019/20 pdf eicon PDF 206 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd ar yr Adroddiad Blynyddol Drafft gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2019/20, sy’n cyflwyno’r math a lefelau o dâl y mae awdurdodau lleol yn eu rhoi i’w haelodau a’u haelodau cyfetholedig.

 

Nodwyd eu bod wedi ymgynghori gydag Arweinyddion y Grwpiau ar y cynigion sy’n effeithio ar yr awdurdod hwn. 

 

Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y bydd y broses ymgynghori yn dod i ben ar 27 Tachwedd 2018, ac y bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2019.

 

PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor yn ystyried y penderfyniadau drafft a gyflwynwyd, a chytunodd i dderbyn yr argymhellion yn adroddiad y Panel Annibynnol.