Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 25ain Medi, 2019 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 300 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  25 Mawrth 2019

  2 Mai 2019 (Arbennig)

  14 Mai 2019

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau a ganlyn yn gywir:-

 

  25 Mawrth 2019

  2 Mai 2019 (Arbennig)

  14 Mai 2019 (Arbennig)

3.

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru - Arolwg Etholiadol 2019 - Ynys Môn pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad ynghylch yr uchod gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod Cyngor Sir Ynys Môn wedi cael cais i baratoi cynigion mewn ymateb i’r uchod. Sefydlwyd panel trawsbleidiol yn cynnwys 8 o Aelodau i ddatblygu cynigion a gwneud argymhellion. Cyfarfu’r panel bedair gwaith rhwng mis Gorffennaf a Medi 2019 i ddatblygu cynigion.

 

Rhoddodd y Comisiwn gyflwyniad i Aelodau ym mis Mehefin 2019 ar y broses o gynnal yr arolwg, cyfraniad y Cyngor i’r gwaith o lunio’r cynigion, a’r amserlen.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod gofyn i randdeiliaid gyflwyno eu hargymhellion cychwynnol i’r Comisiwn erbyn 10 Hydref 2019. Byddai Cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir yn cael ei gynnal ar 7 Hydref 2019, i gymeradwyo’r argymhellion. Nododd hefyd y byddai’r Comisiwn, ar ôl derbyn yr argymhellion cychwynnol, yn datblygu a chyhoeddi ei gynigion drafft yn ystod Gwanwyn 2020, ac y byddai’r argymhellion terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru yn ystod Gaeaf 2020, yn dilyn cyfnod ymgynghori. Bydd y newidiadau’n cael eu gweithredu ar draws Cymru mewn pryd ar gyfer etholiadau lleol 2022.

 

Mae methodoleg y Comisiwn yn argymell Awdurdod o 33 Aelod ar sail 1 Aelod i 1,549 o etholwyr. Nodwyd bod y panel wedi dilyn meini prawf y Comisiwn; adolygu nifer yr Aelodau, y wardiau a’u ffiniau; adolygu nifer yr Aelodau ym mhob ward ac enwau’r wardiau. Daeth y panel i’r casgliad bod achos teilwng dros gynyddu nifer yr Aelodau a datblygwyd cynigion sy’n argymell cynyddu nifer yr Aelodau i 35, o fewn 14 o adrannau etholiadol.

 

Cynigiodd y Cadeirydd bod enw’r ward ‘Parc a’r Mynyddyn cael ei newid iPorth a’r Mynydd’. Awgrymwyd bod y tri aelod lleol yn ystyried y mater ac yn ei drafod ymhellach/gwneud argymhellion i’r cyfarfod Arbennig o’r Cyngor Sir ar 7 Hydref 2019.

 

PENDERFYNWYD argymell bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn:-

 

  Ystyried cynigion y Panel yn Atodiad 1.

  Yn amodol ar unrhyw sylwadau pellach, argymell i’r Cyngor Sir bod y cynigion yn cael eu derbyn fel ymateb cychwynnol y Cyngor Sir.

  Nodi y bydd angen i’r Pwyllgor hwn ystyried cynigion drafft y Comisiwn yn ystod Gwanwyn 2020, a gwneud argymhellion i’r Cyngor Sir.

4.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 2 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2019. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyddiweddariad o adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol ar y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau ar 17 Medi 2019.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD fod y Cynllun Datblygu yn ddogfen sy’n esblygu ac yn cael ei hadolygu’n rheolaidd a’i haddasu i gwrdd ag anghenion hyfforddi Aelodau, yn dilyn derbyn mewnbwn gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth, Arweinwyr Grŵp, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac asiantaethau allanol eraill. Dywedodd bod y Pwyllgor Safonau wedi gofyn i’r Cynllun Datblygu gael ei gylchredeg i’r UDA a swyddogion perthnasol bob chwarter, er mwyn codi ymwybyddiaeth am gyfleoedd hyfforddi i Aelodau ac aelodau cyfetholedig.

 

Roedd y Pwyllgor Safonau wedi mynegi pryder bod lefelau presenoldeb yn wael mewn rhai sesiynau hyfforddi, gan ofyn am fwy o wybodaeth am bresenoldeb Aelodau mewn hyfforddiant. Roedd y Pwyllgor Safonau’n teimlo bod angen atgoffa Arweinwyr Grwpiau i annog eu Haelodau i fynychu hyfforddiant.

 

Amlygwyd y pwyntiau a ganlyn yn ystod y trafodaethau:-

 

  Mae AD wedi llunio Rhaglen Hyfforddi Aelodau Etholedig ac mae copi ohoni i’w gweld yn lolfa’r Aelodau.

  Ychydig o ddefnydd a wnaed o ffurflenni arfarnu cyrsiau electronig, er bod Aelodau’n cael eu hannog i gwblhau ffurflenni ar-lein.

  Anogir Aelodau i gofnodi a chyhoeddi manylion ar-lein am yr hyfforddiant/ cyrsiau y maent wedi bod arnynt neu wedi penderfynu peidio mynd arnynt.

  Mewn perthynas ag E-Ddysgu, bu datblygiadau mewn perthynas â Llwyfan E-Ddysgu y GIG, fydd yn golygu bod y system yn haws i’w defnyddio. Bydd mynediad at fodiwlau E-Ddysgu gan ddefnyddio I-pad yn gwella hefyd.

  Mae TGCh wedi llunio llawlyfr i Aelodau, sydd ar gael ar MonITor. Trefnwyd sesiynau galw i mewn i gynorthwyo Aelodau gydag unrhyw broblemau TGCh.

  Gellir cael mynediad at y cyflwyniad Powerpoint ar GDPR a gyflwynwyd ym mis Chwefror 2019 drwy MonITor. Trefnwyd sesiynau hyfforddi mandadol ychwanegol ar gyfer yr Hydref, a bydd aelodau o’r Pwyllgor Safonau ac aelodau cyfetholedig yn cael eu gwahodd iddynt.

  Hyfforddiant Cydraddoldeb ac Amrywiaethtrefnwyd sesiynau hyfforddi mandadol fydd yn cael eu cynnal yn ystod yr Hydref, a bydd aelodau o’r Pwyllgor Safonau ac aelodau cyfetholedig yn cael eu gwahodd hefyd.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi a derbyn y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau.

  Rhannu copi o’r Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau gyda’r Pwyllgor Safonau a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd bob chwarter.

  Gofyn i Arweinwyr Grwpiau atgoffa Aelodau o’r angen i fynychu sesiynau hyfforddi mandadol a sesiynau hyfforddi eraill.

5.

Materion yn ymwneud ag Aelodau pdf eicon PDF 398 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd a gyflwynwyd i’r Pwyllgor Safonau a gynhaliwyd ar 17 Medi, 2019. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad diweddaru gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar nifer o faterion yn ymwneud ag Aelodau. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Pwyllgor Safonau ar 17 Medi 2019.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod 28 o Aelodau wedi cwblhau a chyhoeddi eu Hadroddiadau Blynyddol ar gyfer 2018/19 ar-lein erbyn hyn. Dywedodd nad oedd dau Aelod wedi cyflwyno eu Hadroddiadau Blynyddol am y cyfnod, a bod Arweinydd y Grŵp wedi cael ei hysbysu.

 

Mewn perthynas â threfniadau ar gyfer paratoi Adroddiadau Blynyddol ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol, cyflwynir adroddiad i’r Pwyllgor hwn gyda hyn.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cyngor Sir wedi derbyn Siarter Cynorthwyo a Datblygu Aelodau Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac fe’i cyflwynwyd yn swyddogol i’r Cyngor ym mis Gorffennaf am gyfnod o dair blynedd.

 

PENDERFYNWYD nodi’r cynnydd y manylir arno yn yr adroddiad.

6.

Rhaglen Waith 2019/20 pdf eicon PDF 367 KB

Cyflwyno Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn unol â Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, ar swyddogaeth y Pwyllgor mewn perthynas ag adolygu’r ddarpariaeth yn y Cyngor o ran staff, swyddfeydd

ac adnoddau eraill i gyflawni dyletswyddau a swyddogaethau’r gwasanaeth democrataidd.

 

Wrth ddatblygu’r Rhaglen Waith ar gyfer 2019/20, argymhellir y dylai’r Pwyllgor ganolbwyntio ar y meysydd a ganlyn:-

 

  Y Cynllun Datblygu a Hyfforddi Aelodau, gan gynnwys Adolygiadau Datblygiad Personol;

  Gweddarlledu cyfarfodydd;

  Adroddiadau Blynyddol Aelodau;

  Adroddiad Blynyddol y Panel Annibynnol ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

  Ymgynghoriadau perthnasol gan Lywodraeth Cymru gan gynnwys trefniadau etholiadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.