Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

2.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad diweddaru gan yr Hyfforddai Datblygu AD a'r Rheolwr Datblygu AD ar y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau, fel y'i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Safonau ar 25 Medi 2019.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD fod cynllun hyfforddi newydd wedi'i gyflwyno, yn dilyn mewnbwn gan yr Aelodau ar eu hanghenion dysgu a datblygu.  Dywedodd fod sesiynau hyfforddi wedi'u cynnal yn ddiweddar ar faterion Cynllunio, Diogelu, Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol a Rheoli'r Trysorlys.

 

Nodwyd y bydd taflen yn cael ei harddangos yn lolfa’r Aelodau yn rhestru cyfleoedd hyfforddi ar gyfer y chwarter sydd i ddod.  Trefnir sesiynau datblygu pellach ar ôl gwyliau'r Nadolig, a fydd yn cynnwys Diogelwch Aelodau, fel y gofynnwyd yn ddiweddar.  Bydd anghenion hyfforddi 2020/21 yn cael eu coladu o'r Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP) a gan Uwch Swyddogion ac Arweinwyr Grŵp.

 

Adroddodd y Rheolwr Datblygu AD mai dim ond nifer gyfyngedig o Aelodau sy'n llenwi ffurflenni gwerthuso cyrsiau yn electronig.  Yn ddiweddar, anfonwyd CanllawiauSut i’ at Aelodau er mwyn rhoi arweiniad ar gofnodi presenoldeb mewn sesiynau hyfforddi.  Mae'r canllawiau hefyd ar gael ar MonItor.  Pwysleisiwyd bod cymorth ar gael i unrhyw Aelod a allai fod angen cymorth a hyfforddiant mewn perthynas ag unrhyw faterion TGCh.

 

Mewn cyfarfod diweddar o Arweinwyr Grŵp, roedd y drafodaeth wedi canolbwyntio ar gynnull digwyddiadau hyfforddi felsesiynau cyfnos”, fel y gallai'r rheini a chanddynt ymrwymiadau gwaith eraill fynychu.  Cynhaliwyd sesiwn hyfforddi gyda’r nos yn ddiweddar ond dim ond dau Aelod a gadarnhaodd y byddent yn mynychu.  Byddai angen monitro hyfforddiant pellach a gynigir felsesiynau cyfnoser mwyn sicrhau  cost-effeithiolrwydd a byddai angen ystyried y goblygiadau o ran adnoddau.

 

Gan gyfeirio at Adolygiadau Datblygiad Personol (ADP), nododd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd y gofynnwyd i Arweinwyr Grŵp gyflwyno ADP erbyn diwedd mis Chwefror 2020.

 

Yn codi o'r drafodaeth, mynegodd aelodau'r Pwyllgor bryder bod eu cyfeiriadau cartref yn cael eu harddangos ar wefan y Cyngor.  Adroddodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod Mesur Llywodraeth Cymru sydd newydd ei gyhoeddi yn cynnwys cymal yn nodi nad yw’n orfodol i gyfeiriadau cartref Aelodau gael eu cyhoeddi ar-lein.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Datblygu AD hefyd at wybodaeth a dderbyniwyd yn ddiweddar gan Sarah Titcombe (Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) ynghylch diogelwch personol, a bydd y manylion yn cael eu cylchredeg i'r holl Aelodau Etholedig.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi'r Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau.

  Bod y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn tynnu cyfeiriadau

   a rhifau ffôn aelodau oddi ar wefan y Cyngor, ac yn eu rhoi

   gwybodaeth gyswllt y Cyngor ar y wefan yn eu lle.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 299 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 25 Medi 2019 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

4.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol ar gyfer 2020/21 pdf eicon PDF 355 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Drafft 2020/21 gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.  Nodwyd bod yr adroddiad drafft yn destun ymgynghoriad tan 10 Rhagfyr 2019 ac y cyhoeddir yr adroddiad terfynol ym mis Chwefror 2020.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yn rhaid i'r Panel gynhyrchu Adroddiad Blynyddol sy'n nodi'r math a'r lefelau o daliadau y gall neu y mae'n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod ar gael i'w Aelodau a'u Haelodau Cyfetholedig.

 

Mae'r Panel wedi penderfynu'r canlynol:

 

  Bydd y cyflog blynyddol sylfaenol ar gyfer Aelodau Etholedig yn codi £350 y

   flwyddyn i £14,218;

  Bydd nifer uchaf yr uwch gyflogau sy'n daladwy ar gyfer yr Awdurdod hwn

    yn parhau i fod yn 16, sy'n cynnwys cyflogau dinesig.

  Ni thelir unrhyw godiadau ychwanegol i Aelodau'r Pwyllgor Gwaith ar gyfer

    2020.

  Ni chynigir codi'r uwch gyflogau ond bydd deiliaid y swyddi hyn yn derbyn y

    codiad o £350 yn y cyflog sylfaenol.

  Mae'r Panel yn parhau i fod o'r farn y dylid talu cyflogau dinesig o £22,918

   (Band 3) i Benaethiaid Dinesig, a £17,918 (Band 5) i'r Dirprwy Benaethiaid

   Dinesig

 

PENDERFYNWYD derbyn y penderfyniadau drafft o fewn yr Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2020/21 gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.