Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 2ail Mai, 2019 11.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd yr un datganiad.

2.

Cynllun Datblygu Aelodau 2019/20 pdf eicon PDF 192 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol mewn perthynas â’r Cynllun Datblygu Aelodau Etholedig ar gyfer Ebrill 2019 i Mawrth  2020.

 

Nodwyd bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn ei gyfarfod ar 25 Mawrth, 2019, wedi cymeradwyo adroddiad ar y Strategaeth Datblygu Aelodau am 2019/2022.  Roedd yr adroddiad hwn yn manylu ar y Cynllun Datblygu ar gyfer Aelodau Etholedig am 2019/20 sy’n cymryd i ystyriaeth y mewnbwn a gafwyd gan Arweinyddion y Grwpiau yn dilyn yr Adolygiadau Datblygiad Personol ynghyd â mewnbwn gan Uwch Swyddogion. 

 

Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol fod y rhaglen yn darparu fframwaith amlinellol ar gyfer cyflawni hyfforddiant gyda rhai o’r elfennau’n cario drosodd o’r flwyddyn ariannol flaenorol. Mae’r rhaglen ddatblygu’n berthnasol i Aelodau Etholedig ynghyd ag Aelodau Cyfetholedig ac Aelodau Lleyg ble mae hynny’n briodol. Mae’r Awdurdod eisoes yn darparu cymorth E-ddysgu er mwyn annog hunan-ddatblygiad ond cafwyd rhai problemau gyda’r Porth E-ddysgu cyfredol sy’n cael ei gynnal gan y GIG.   Nododd fod cyfleuster llwyfan hyfforddiant   y Gronfa Ddysgu wedi cael ei gomisiynu i gefnogi cyfleusterau hyfforddiant ar-lein.  Mae’r llwyfan hwn eisoes yn cael ei ddefnyddio gan nifer o Awdurdodau eraill yng Ngogledd Cymru.  Gwnaed cais i Aelodau’r Pwyllgor hwn gael eu penodi i arbrofi gyda chyfleuster y Gronfa Ddysgu.

 

Ystyriodd yr Aelodau’r adroddiad a chodwyd y prif faterion isod:-

 

  Dywedwyd bod angen i’r holl Aelodau Etholedig dderbyn hyfforddiant ar bolisïau cynllunio oherwydd eu bod yn mynychu’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion yn eu rôl fel aelodau lleol pan fo ceisiadau cynllunio penodol yn cael eu trafod yn eu ward etholiadol nhw. Nodwyd bod hyfforddiant ar y broses gynllunio yn y gorffennol wedi bod yn sylfaenol a bod angen hyfforddiant gloywi ar yr Aelodau.  Dywedodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod y cynllun yn amlygu’r angen i Aelodau’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion gael hyfforddiant rheolaidd, fodd bynnag, gwneir nodyn ar wahân i’r holl Aelodau Etholedig gael cynnig hyfforddiant ar faterion Cynllunio fel a nodir yn y cynllun;

  Cyfeiriwyd at y ffaith fod angen amlygu hyfforddiant mandadol er mwyn sicrhau bod Aelodau Etholedig yn ymwybodol o bwysigrwydd hyfforddiant o’r fath. Dywedwyd hefyd bod angen, ble bynnag y mae hynny’n bosibl, trefnu cyrsiau hyfforddiant naill ai cyn neu ar ôl cyfarfodydd eraill yn y Cyngor;

 

Nododd yr Aelodau bod angen annog Swyddogion yn y Cyngor i ddarparu sesiynau hyfforddiant i Aelodau Etholedig oherwydd eu bod ag ymwybyddiaeth o gonfensiynau/materion lleol.  Dywedodd y Rheolwr Datblygu Adnoddau Dynol bod Swyddogion ble bynnag y mae hynny’n bosibl yn cael cais i ddarparu sesiynau a’n bod yn ogystal yn ymgynghori gydag awdurdodau cyfagos i ddarparu sesiynau hyfforddi dwyieithog ar gyfer Aelodau Etholedig. 

 

PENDERFYNWYD :-

 

  Argymell i’r Cyngor llawn ei fod yn mabwysiadu’r Cynllun Datblygu Aelodau am 2019/20 fel fframwaith ar gyfer Datblygu Aelodau;

  Rhoi awdurdod i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd wneud unrhyw newidiadau pellach fel sy’n briodol;

  Bod y Cynghorwyr Eric W Jones, J Arwel Roberts a Nicola Roberts yn cael eu penodi i arbrofi gyda chyfleuster hyfforddi’r Gronfa Ddysgu unwaith y bydd ar gael.