Rhaglen a chofnodion

Arbennig, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Iau, 30ain Gorffennaf, 2020 10.30 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Virtual Meeting

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 285 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfodydd blaenorol a gynhaliwyd ar :-

 

  10 Rhagfyr 2019

  30 Ionawr 2020 (Arbennig)

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol fel cofnod cywir:-

 

   10 Rhagfyr 2019

   30 Ionawr 2020 (Cyfarfod Arbennig)

3.

Adolygiad y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol Cyngor Sir Ynys Môn pdf eicon PDF 349 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyddiweddariad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, yn dilyn yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn ar 25 Medi 2019, fel rhan o adolygiad Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru o drefniadau etholiadol y Cyngor Sir.

 

Nodwyd fod y comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad drafft a chynigion yn ddiweddar a’u bod wedi gofyn am sylwadau ar drefniadau etholiadol y Cyngor, yn cynnwys enwau wardiau, erbyn 14 Medi 2020. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod cynigion y Comisiwn Ffiniau wedi eu hystyried a’u derbyn gan Arweinyddion Grwpiau y Cyngor a Phanel Trawsbleidiol. Nododd fod y Comisiwn wedi cefnogi achos ac argymhellion y Cyngor i gael 35 Aelod a 14 Ward, gyda dim newid i 6 ward etholiadol, gan olygu cyfartaledd sirol o 1,461 o etholwyr i bob Aelod. Mae’r Comisiwn yn bwriadu cyflwyno’r trefniadau newydd mewn pryd ar gyfer etholiadau 2022.

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar yr enw arfaethedigBraint ar gyfer ward etholiadol Bro Rhosyr. Nododd y Cynghorydd Dafydd Roberts fod Cyngor Cymuned Llanfihangel Esceifiog yn teimlo fod yr enw newydd yn amhriodol. Roedd yn argymell fod yr enw yn cael ei newid iBodowyr’, sydd â chysylltiad lleol cryf gan fod afon Bodowyr yn llifo o fewn ffiniau hanesyddol a daearyddol yr ardal.

 

Mynegwyd pryder nad oedd rhai Cynghorau Tref / Cymuned wedi ymateb i ymgynghoriad y Comisiwn hyd yma. Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi ysgrifennu at bob Cyngor Tref / Cymuned yn ddiweddar yn gofyn iddynt gyflwyno unrhyw sylwadau yr hoffent eu cyfrannu i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD argymell i’r Cyngor Sir bod y cynigion a nodir yn adroddiad y Comisiwn Ffiniau yn cael eu derbyn, yn amodol ar newid yr enw ar gyfer ward newydd Braint iBodowyr’.  

4.

Adroddiadau Blynyddol Aelodau 2019/20 pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar y mesurau arfaethedig ar gyfer cyhoeddi Adroddiadau Blynyddol Aelodau ar gyfer 2019/20.

 

Mae Adran 5 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar y Cyngor Sir i sicrhau bod trefniadau yn eu lle er mwyn galluogi Aelodau i gyhoeddi adroddiadau blynyddol ar eu gweithgareddau. Amlygodd y Cadeirydd bwysigrwydd cwblhau’r adroddiadau blynyddol, er mwyn ehangu atebolrwydd lleol a hysbysu’r cyhoedd am rolau a chyfrifoldebau Aelodau. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiadau blynyddol a dderbyniwyd dros yr wythnosau diwethaf bellach wedi eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor. Nododd fod 6 adroddiad blynyddol bellach yn weddill. 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

5.

Taliadau i Aelodau - Adroddiadau Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol pdf eicon PDF 400 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiadd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (y Panel) sy’n gosod y lwfansau sy’n daladwy i Aelodau Etholedig ac Aelodau Cyfetholedig a hawliau pleidleisio.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod cynigion drafft y panel ar gyfer 2020/21 wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor hwn ar 10 Rhagfyr, 2019. Nododd y cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol drafft ym mis Chwefror 2020, gyda dim newidiadau pellach i’r drafft, heblaw am gynnydd o £350 yng nghyflog sylfaenol yr Aelodau. Nodwyd fod Rhestr Cydnabyddiaeth Ariannol i Gynghorwyr y Cyngor ar gyfer 2020/21 wedi’i gyhoeddi yn unol â’r gofynion.

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd at egwyddorion y Panel ar ddigolledu costau gofal, a ddaeth yn weithredol ar 1 Gorffennaf 2020. Mae’r Panel yn bryderus bod y niferoedd sy’n hawlio’r ddarpariaeth yn isel ac mae wedi ceisio amlinellu gwell diffiniad o’r meini prawf. Mae’r Panel wedi gofyn i Awdurdodau Lleol godi ymwybyddiaeth ymysg Aelodau fod y cymorth ariannol ar gael ac mae argymhelliad wedi’i wneud bod adolygiad blynyddol o amgylchiadau pob Aelod yn cael ei gyflawni bob blwyddyn yn ystod eu gwerthusiadau blynyddol.    

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ei fod wedi ysgrifennu at bob Aelod yn egluro’r canllawiau ar gostau gofal a nododd bod hefyd modd gweld y wybodaeth hon ar wefan y Cyngor.

 

PENDERFYNWYD nodi:-

 

   Bod y Cyngor wedi cyhoeddi ei Restr Cydnabyddiaeth Ariannol i

    Gynghorwyr ar gyfer 2020/21, yn unol â’r gofynion.

   Bod yr egwyddorion mewn perthynas ag ad-dalu costau gofal a

    chadarnhau sut mae’r Cyngor yn bwriadu rhoi’r egwyddorion ar waith,

    fel y nodir yn Atodiad 1. 

6.

Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd- Adroddiad Blynyddol 2019/20 pdf eicon PDF 418 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd  - adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar yr uchod.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 8 Medi 2020. Mae’r adroddiad yn crynhoi materion a drafodwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019.20, sy’n cynnwys y canlynol:-

 

   Y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau gan gynnwys Adolygiadau

    Datblygiad Personol.

   Gwe-ddarlledu cyfarfodydd;

   Adroddiadau Blynyddol Aelodau;

   Adroddiad Blynyddol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol;

   Materion cysylltiedig ag Aelodau yn cynnwysSiartr Cymru ar gyfer

    Datblygiad a chefnogaeth Aelodau

   Ymgynghoriadau perthnasol Llywodraeth Cymru yn cynnwys trefniadau

    etholiadol.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi’r materion a ystyriwyd gan y Pwyllgor yn ystod 2019/20.