Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu’r Cynghorydd Dafydd Roberts ddatgan diddordeb personol mewn perthynas ag eitem 2 ar yr agenda.

2.

Adolygiad o Ranbarthau Pleidleisio a Lleoliad Pleidleisio pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar adolygiad o ranbarthau pleidleisio a gorsafoedd pleidleisio at ddibenion etholiadau, yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd bod y Cynghorau yn gorfod adolygu addasrwydd y rhanbarthau pleidleisio, y lleoliadau pleidleisio a’r gorsafoedd pleidleisio bob 5 mlynedd yn unol â rheoliadau.

 

Cynhaliwyd adolygiad yn etholaeth seneddol Ynys Môn rhwng 5 Mehefin 2019 a 20 Ionawr 2020 at ddibenion adnabod opsiynau amgen posibl. Fel rhan o’r broses adolygu, nid oedd meini prawf penodol wedi eu bodloni, a rhoddwyd ystyriaeth i arweiniad y Comisiwn Etholiadol.    

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd yn cadarnhau’r trefniadau fel y nodir yn Atodiad 1 yr adroddiad;

  Argymell i’r Cyngor Sir, yn ei gyfarfod 10 Mawrth 2020, ei fod yn cadarnhau’r argymhelliad sydd yn yr Adroddiad.