Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Dim.

2.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2022/23 pdf eicon PDF 479 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ar Adroddiad Blynyddol Drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW), sy’n nodi’r lwfansau sy’n daladwy i Aelodau etholedig ac Aelodau cyfetholedig â hawliau pleidleisio.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd nad yw lwfansau’r IRP wedi cynyddu yn unol â chyflogau ar draws Cymru. Mae’r IRP felly yn cynnig cynyddu taliadau holl Aelodau ac Aelodau cyfetholedig pob Cyngor. 

 

Cytunodd y Pwyllgor fod angen i lwfansau Aelodau gynyddu er mwyn gallu denu trawstoriad ehangach o’r gymuned, yn enwedig pobl ifanc a merched, i sefyll yn yr etholiad. 

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y cynigion yn cael eu gosod yn genedlaethol ac y byddant yn weithredol yn dilyn etholiadau Mai 2022.

 

Nodwyd, pan fydd  cynghorau newydd yn cael eu hethol bydd rhai o benderfyniadau’r Panel yn effeithiol ar gyfer tymor newydd y Cyngor. Bydd gan yr Adroddiad Blynyddol 2022-23 ddau ddyddiad gweithredu, sef:-

 

  Bydd yr holl benderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2021/22 yn parhau i

   fod yn weithredol am y cyfnod rhwng 1 Ebrill ac 8 Mai 2022.

  Bydd y penderfyniadau yn Adroddiad Blynyddol 2022/23 yn weithredol o 9

   Mai 2022.

 

Mae crynodeb o’r newidiadau arfaethedig wedi eu nodi isod:-  

 

  Cynyddu cyflog sylfaenol aelodau etholedig o £14,368 i £16,800.

  Nifer yr uwch gyflogau i aros fel ag y ma ear 16, yn cynnwys y cyflogau

   dinesig.

  Bydd nifer yr Aelodau etholedig ar Ynys Môn yn cynyddu i 35.

  Cynyddu’r uwch gyflogau a’r cyflogau dinesig fel yr amlinellir isod:-

 

 

Uwch Gyflogau a Chyflogau Dinesig 2022/23

(gan gynnwys y cyflog sylfaenol)

 

1 Ebrill

8 Mai 2022

O 9 Mai 2022

Uwch Gyflogau

 

Band 1

 

Arweinydd

 

Dirprwy Arweinydd

 

£44,921

 

£31,783

£53,550

 

£37,485

Band 2

Aelodau o’r Pwyllgor Gwaith

 

£27,741

£32,130

Band 3

Cadeiryddion Pwyllgorau (os y’u telir)

 

£23,161

£25,593

Band 4

Arweinydd y grŵp gwrthbleidiol mwyaf

 

£23,161

£25,593

Band 5

Arweinwyr grŵpiau gwleidyddol arall

 

£18,108

£20,540

Cyflogau Dinesig (os y’u telir) 

 

Band 3

Pennaeth Dinesig

£23,161

 

£25,593

 

Band 5

Dirprwy Bennaeth Dinesig

£18,108

 

£25,540

 

 

Bydd y cynnydd arfaethedig mewn lwfansau a ragwelir gan yr IRP mewn

perthynas ag Ynys Môn tua £180,000 yn flynyddol o Mai 2022.

 

PENDERFYNWYD derbyn y cynigion drafft yn adroddiad Panel

Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2022/23.

 

Bu’r Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, ddiolch i’r Pennaeth Gwasanaethau

Democrataidd am ei waith ar y Pwyllgor a dymunodd yn dda iddo ar ei

ymddeoliad.