Rhaglen a chofnodion

Cyfarfod Hybrid - Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor Llangefni/Zoom, Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd - Dydd Mercher, 29ain Tachwedd, 2023 10.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Committee Room 1, Council Offices / Zoom

Cyswllt: Shirley Cooke 

Cyfryngau

Eitemau
Rhif. Eitem

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Gan nad oedd yr Is-gadeirydd yn bresennol, gofynnodd y Cadeirydd i’r Pwyllgor enwebu Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn, a chafodd y Cynghorydd Gwilym Jones ei ethol.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bu i’r Cynghorwyr Jeff Evans a Dylan Rees ddatgan diddordeb personol yn Eitem 3 ar y rhaglen (Paragraff 4.11.9), gan eu bod yn cynrychioli’r Cyngor ar gyrff allanol, sef Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru.

 

2.

Cofnodion pdf eicon PDF 170 KB

Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 28 Mehefin 2023 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi o’r cofnodion:-

 

Mewn perthynas â rhai aelodau nad ydynt yn cyflwyno adroddiadau blynyddol, dywedodd y Pennaeth Democratiaeth iddo godi’r mater yng nghyfarfodydd yr Arweinyddion Grwpiau ac mae’r Pwyllgor Safonau wedi codi’r mater hefyd. Dywedodd nad oes rhagor o adroddiadau blynyddol wedi dod i law ar gyfer 2022/23 ond dywedodd bod canran yr adroddiadau a dderbyniwyd yn uwch na’r llynedd. Nododd y byddai’n parhau i weithio gydag aelodau ac Arweinyddion Grwpiau ar y broses o gyflwyno adroddiadau blynyddol ar gyfer eleni, ond atgoffodd y Pwyllgor nad yw hyn yn ofyn statudol.

3.

Cyfansoddiad y Cyngor pdf eicon PDF 1023 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Cyfarwyddwr Swyddogaeth (Busnes y Cyngor)/ Swyddog Monitro ar Gyfansoddiad y Cyngor Sir, a fabwysiadwyd yn 2001 ac sydd wedi cael ei ddiweddaru a’i adolygu’n gyson i adlewyrchu newidiadau yn y gofynion cyfreithiol neu drefniadau lleol newydd. Diweddarwyd y Cyfansoddiad ddiwethaf ar 27 Hydref 2023.

 

Dywedodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) fod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) er mwyn comisiynu Cyfansoddiad Enghreifftiol newydd i’w ddefnyddio ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Dywedodd fod Atodiad 1 yn cynnwys fersiwn ddrafft o Adrannau 1 i 4 o’r Cyfansoddiad newydd arfaethedig ac mae Atodiad 2 yn amlygu materion a nodwyd fel rhai newydd neu wahanol gan y Swyddog Monitro a bod, felly, angen eu dwyn i sylw’r Pwyllgor. Nodwyd bod yr iaith yn fwy eglur yn y Cyfansoddiad newydd, mae trefn a threfn rhifo’r dogfennau’n haws ei ddilyn ac maent yn fwy hygyrch i’r cyhoedd.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) am farn y Pwyllgor ar Adrannau 1 i 4 o’r Cyfansoddiad newydd. Dywedodd y byddai rhan arall o’r Cyfansoddiad Enghreifftiol gerbron y Pwyllgor ym mis Mawrth 2024. Nododd y caiff yr ymatebion i’r holl Adrannau eu cyfuno mewn un adroddiad i’w gyflwyno i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo ar ddyddiad diweddarach.

 

Ystyriodd y Pwyllgor y Cyfansoddiad Enghreifftiol drafft newydd, gan ymateb fel a ganlyn i’r materion a nodwyd yn Atodiad 2 yr oedd angen penderfyniad gan y Pwyllgor arnynt:-

 

1. (2.2)   Diffiniadau yn y Cyfansoddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

2. (2.4)   Dyletswydd i Fonitro ac Adolygu’r Cyfansoddiad

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

3. (2.6.1)   Cymeradwyo

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

4. (3.1.2)   Gwybodaeth a fydd ar gael i Gynghorwyr y Cyngor

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

 

5. (4.6.25) 

 

PENDERFYNWYD derbyn y newidiadau arfaethedig a nodwyd yn yr adroddiad.

6. (4.10.1.1) 

 

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar p’un a ddylid diwygio ymhellach y cynnig mewn perthynas â’r gofyn i’r Arweinydd nodi aelodau’r Cabinet a’u cyfrifoldebau mewn ysgrifen cyn pen 7 diwrnod. Barn y Pwyllgor oedd efallai na fyddai’r trefniant hwn yn ymarferol o fewn y terfyn amser a gofynnwyd am gael adolygu’r mater gwleidyddol hwn.

 

PENDERFYNWYD bod y Cyfreithiwr (Llywodraethiant Corfforaethol) yn ceisio eglurhad ynglŷn ag oblygiadau mabwysiadu’r trefniant hwn pe ceid sefyllfa wleidyddol ddidatrys.

 

7. (4.10.1.3 (f)) 

 

Gofynnwyd am eglurhad ynglŷn â’r terfyn amser ar gyfer cyflwyno cyhoeddiadau gan Arweinyddion Grwpiau i’r Cadeirydd cyn y cyfarfod.

 

PENDERFYNWYD bod rhaid i’r Cadeirydd gymeradwyo cyhoeddiadau gan Arweinyddion Grwpiau cyn y cyfarfod. Roedd y Pwyllgor yn cytuno y byddai o leiaf 24 awr yn gyfnod rhesymol ar gyfer hysbysu’r Cadeirydd am unrhyw gyhoeddiad cyn y cyfarfod.

 

8.(4.11.9)

 

Eglurodd Aelodau’r Pwyllgor a oedd yn cynrychioli Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru ac Awdurdod Heddlu Gogledd Cymru bod yr arian sy’n  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Polisi Indemniadau'r Cyngor pdf eicon PDF 517 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol ynglŷn ag adolygu a chymeradwyo Polisi Indemniadau presennol y Cyngor, a fabwysiadwyd yn 2011, ac a adolygwyd ddiwethaf yn 2021.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod y Polisi Indemniadau wedi’i lunio yn 2006, pan ddaeth Gorchymyn Llywodraeth Leol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006 yn ddeddfwriaeth a chaniatawyd awdurdodau lleol i gynnig indemniadau (ac yswiriant) i aelodau a swyddogion wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod polisi yswiriant y Cyngor Sir yn cyflawni’r un rôl â’r Polisi Indemniadau yn y rhan fwyaf o feysydd, ond, yn ogystal â hynny, mae’n cynnig amddiffyniad i ddigolledu aelodau mewn achosion o dorri’r Cod Ymddygiad, gan fod y Cod tu allan i gwmpas y polisi yswiriant. Dywedodd mai’r cwmni yswiriant sy’n gosod telerau ac amodau’r yswiriant, gan benderfynu a fydd hawliad am indemniad o dan y polisi’n cael ei dderbyn neu ei wrthod. Nodwyd fod Polisi Indemniadau’r Cyngor Sir wedi cael ei ddiwygio yn 2013 i gynnwys cap o £20,000 ar unrhyw hawliad o dan y Gorchymyn. Adolygir y Polisi Indemniadau’n gynnar yn 2024.

 

Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol fod gan y Cyngor Is-bwyllgor Indemniadau sy’n penderfynu ar geisiadau am indemniadau sy’n cael eu cyflwyno’n unol â’r Polisi. Mae gan yr Is-bwyllgor y disgresiwn i ganiatáu ceisiadau am indemniad, a gall ganiatáu indemniad yn amodol ar delerau ac amodau, neu gall wrthod y cais. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oes hawl apêl tu hwnt i’r Is-bwyllgor, ac os canfyddir bod unigolyn yn euog a’i fod yn derbyn cosb, byddai’n rhaid ad-dalu unrhyw arian a dderbyniwyd. Os yw’r gosb a roddir yn llai difrifol na gwaharddiad, y Pwyllgor Safonau fydd yn penderfynu a ddylid ad-dalu’r indemniad ai peidio.

 

Mynegodd aelodau bryder nad yw’r cap o £20,000 wedi cael ei adolygu ers 2013. Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Cyfreithiol nad oes trefniadau ar waith i adolygu’r taliad uchaf, ond dywedodd y gallai’r Is-bwyllgor adolygu’r cap pe byddai achos yn codi, ar yr amod bod rheswm dilys dros wneud hynny.

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Nodi’r Polisi a’i bwrpas, sef arfer y pwerau a roddir i’r Cyngor gan y Gorchymyn.

  Bod y Pwyllgor yn dymuno i’r adolygiad ystyried cynyddu’r cap o £20,000 ar hawliadau, gan fod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers gosod y cap.

5.

Datblygu Aelodau pdf eicon PDF 610 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Hyfforddiant Adnoddau Dynol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Hyfforddi Adnoddau Dynol ddiweddariad ar y Cynllun Hyfforddi a Datblygu Aelodau ar gyfer 2023/24.

 

Dywedodd y Swyddog Hyfforddi AD fod y Cynllun Hyfforddi ar gyfer 2023/24 yn Atodiad 1 yn cael ei rannu i gategorïau, yn ôl yr arfer, h.y. hyfforddiant gorfodol; hyfforddiant cyffredinol; Iechyd a Llesiant. Mae’r hyfforddiant ar gael trwy gyflwyno cais neu ar ffurf Modiwlau E-ddysgu ar y Gronfa Ddysgu. Dywedodd fod 27 o sesiynau hyfforddi wedi cael eu cynnig i aelodau etholedig ers mis Ebrill 2023.

 

Cyfeiriwyd at Atodiad 2 yn yr adroddiad, ac mae’n nodi nifer yr aelodau sydd wedi derbyn gwahoddiadau i fynychu hyfforddiant a’r nifer gwirioneddol a fynychodd y sesiynau. Nodwyd fod pob aelod wedi cwblhau hyfforddiant ar y Cod Ymddygiad, mae 15 wedi mynychu hyfforddiant Iechyd a Diogelwch (mae hyfforddiant ychwanegol wedi’i drefnu ym mis Chwefror 2024); mae 29 wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu Data ac mae 29 wedi cwblhau hyfforddiant Diogelu. Dywedodd y Swyddog y bydd hyfforddiant corfforaethol a sesiynau Seiber Ddiogelwch ar gael i aelodau maes o law.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y Tîm Hyfforddi Adnoddau Dynol a’r Gwasanaethau Democrataidd yn parhau i gydweithio’n dda. Mae’r Tîm Hyfforddi’n rhannu diweddariad ynglŷn â hyfforddiant gyda’r Pennaeth Democratiaeth bob chwarter ac mae’n cael ei rannu gydag Arweinyddion Grwpiau. Dywedodd hefyd fod mwy o bwyslais erbyn hyn ar Iechyd, Llesiant a hyfforddiant corfforaethol, ac mae hynny hefyd yn cynnwys elfen o ddiogelwch personol.

 

Dywedodd y Swyddog Hyfforddi Adnoddau Dynol fod hyfforddiant yn cael ei ddarparu yn yr ystafell ddosbarth, er bod hyfforddiant ar-lein yn parhau i gael ei ystyried hefyd. Dywedodd fod y Cynllun Hyfforddi’n esblygu’n barhaus i gynnwys unrhyw newidiadau mewn deddfwriaeth ac ati. Nodwyd fod ymgais yn cael ei wneud i ddarparu hyfforddiant cyfrwng Cymraeg, lle bo’n bosib, gyda chyfieithiad i’r Saesneg.

 

Mynegodd un o’r Aelodau bryder nad oedd yr un aelod etholedig wedi mynychu’r sesiwnymwybyddiaeth menopos’, er bod y 35 aelod wedi derbyn gwahoddiad. Mewn ymateb, dywedodd y Swyddog Hyfforddi bod y sesiwn hon yn boblogaidd iawn ymysg staff a bydd yn cael ei chynnwys yn y rhaglen ar gyfer y flwyddyn nesaf.

 

PENDERFYNWYD nodi cynnwys yr adroddiad.

6.

Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol – Adroddiad Blynyddol Drafft ar gyfer 2024-2025 pdf eicon PDF 219 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Pennaeth Democratiaeth ar gynigion drafft Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar gyfer 2024-25.

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod angen i’r Cyngor ymateb i ymgynghoriad Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar y cynigion drafft, ynghyd â chwe chwestiwn penodol arall, erbyn 8 Rhagfyr. Gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried a chyflwyno sylwadau ar y cynigon drafft ac awdurdodi swyddogion i ymateb yn unol â thrafodaethau’r Pwyllgor.

 

Ymatebodd y Pwyllgor fel a ganlyn:-

 

Cwestiwn 1 – Cynyddu cydnabyddiaeth ariannol drwy ddefnyddio’r Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE)

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y taliadau arfaethedig i aelodau etholedig gyfystyr â chynnydd o 6%, sef cynnydd o £50,000 yn y gost o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Dywedodd fod uwch swyddogion, gan gynnwys y Swyddog Adran 151, wedi derbyn y newidiadau arfaethedig.

 

Cwestiwn 2 – Hyblygrwydd lleol ar gyfer taliadau i aelodau cyfetholedig

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cynnig darparu hyblygrwydd lleol i swyddogion perthnasol dalu cyfradd yr awr i aelodau cyfetholedig yn hytrach na’r gyfradd diwrnod neu hanner diwrnod bresennol. Dywedodd fod y Pwyllgor Safonau yn cefnogi’r newid, ar yr amod nad yw’r gwaith ychwanegol yn creu baich gweinyddol i swyddogion. Nodwyd nad yw’r gydnabyddiaeth ariannol i aelodau annibynnol wedi codi yn unol â meysydd eraill ers 2021/22.

 

Cwestiwn 3 – Annog teithio cynaliadwy

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wedi gofyn am enghreifftiau o arferion da sy’n dangos sut mae’r Cyngor Sir yn annog neu’n cefnogi teithio cynaliadwy. Dywedodd fod y Cyngor wedi ymrwymo i deithio cynaliadwy ac mae’n cyfranogi trwy e.e. ddarparu cyfleusterau cadw beiciau; hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith; mae mapiau’n cael eu llunio i ddangos i’r cyhoedd sut y gallant deithio i’r pencadlys gan ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

 

Cwestiwn 4 – Ymwybyddiaeth o hawliau cynrychiolwyr

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn gofyn am dystiolaeth o gamau a gymerwyd gan yr Awdurdod i sicrhau fod aelodau etholedig ac aelodau cyfetholedig yn ymwybodol o’r lwfansau a’r gwariant y gallant eu hawlio. Dywedodd y byddai’r Cyngor yn rhannu tystiolaeth i ddangos sut mae’n hyrwyddo ymwybyddiaeth o hawliau e.e. bydd adroddiad terfynol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol yn cael ei rannu gyda’r Cyngor llawn. Nodwyd hefyd fod cynigion Panel Annibynnol Cymru’n cael eu trafod mewn cyfarfodydd ffurfiol ddwywaith y flwyddyn, ac mae gwybodaeth yn cael ei rannu mewn cyfarfodydd penodol. Mae tudalen ar wefan y Cyngor hefyd sy’n esbonio beth yw hawliau cynrychiolwyr.

 

Cwestiwn 5 – Cyhoeddi symiau wedi’u cyfuno ar gyfer Cynghorau Cymuned a Thref

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod y cwestiwn hwn yn ymwneud â Chynghorau Tref a Chymuned. Nid yw’r Cyngor yn bwriadu ymateb i’r cwestiwn hwn.

 

Cwestiwn 6 – Cyhoeddi symiau wedi’u cyfuno ar gyfer cyrff eraill

 

Dywedodd y Pennaeth Democratiaeth fod Panel Dyfarnu Cymru’n ystyried p’un a ddylid cyfuno rhai symiau sy’n cael eu cyhoeddi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 6.