Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Women's Institute Hall, Holyhead Road, Llanfairpwll

Cyswllt: Ann Holmes 01248 752518 

Eitemau
Rhif. Eitem

Estynnodd y Cadeirydd groeso i bawb oedd yn bresennol i Neuadd Sefydliad y Merched, Llanfairpwll a diolchodd i’r rhai oedd ynglŷn â gwneud y trefniadau.

 

1.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw aelod neu swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

 

2.

Cofnodion Cyfarfod 3ydd Hydref, 2013 pdf eicon PDF 191 KB

Bydd cofnodion cyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 3ydd Hydref, 2013 yn cael eu cyflwyno i’w cadarnhau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 3 Hydref 2013.

 

Materion yn codi

 

           Mewn ymateb i gwestiwn gan gynrychiolydd y sector gwirfoddol ynglŷn â chynnydd yn nodi’r gwirfoddolwyr sydd o fewn y system ar hyn o bryd a’r meysydd lle maent yn gweithredu, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y polisi gwirfoddoli wedi ei gyflwyno i Dîm Penaethiaid y Cyngor gyda’r bwriad o gynnal archwiliad a chyfuno hynny gydag archwiliad o ddiogelu plant.  Gwelwyd llithriad ar y trefniadau hyfforddi a drefnwyd ar gyfer yr wythnos i ddod mewn paratoad ar gyfer yr archwiliad a hynny oherwydd materion arfarnu swyddi ac roedd y trefniadau hynny yn awr wedi eu haildrefnu i fis Mawrth ac/neu Ebrill.  Dywedodd y Swyddog y gallai gadarnhau bod y gwaith wedi ei gynllunio ac y byddai adroddiad yn cael ei rhoi yn y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cyswllt.

 

CAMAU GWEITHREDU’N CODI:  Y Cyfarwyddwr Cymuned i adrodd yn ôl i’r cyfarfod nesaf ar ddatblygiadau gyda mynd â’r Polisi Gwirfoddoli a materion cysylltiol yn eu blaenau.

 

           Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn - yn dilyn cyfarfod gyda’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau) roedd yn gobeithio y gellid dod i gytundeb ynglyn â’r Côd Ariannu erbyn y cyfarfod nesaf.  Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n edrych i frysio’r mater yn ei flaen.

           Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod gwaith wedi ei wneud mewn ymateb i ofynion dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru ar Fframwaith ar gyfer darparu Gofal Cymdeithasol a Iechyd Integredig ac roedd Bwrdd Integredig wedi ei sefydlu.  Cynhaliwyd gweithdy yr wythnos cyn hynny oedd yn cynnwys rhoi ystyriaeth i ymgysylltu â’r trydydd sector.

           Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod y cyfnod cyntaf y gwaith o adolygu contractau’r trydydd sector bellach wedi ei gwblhau ac y byddai’n fodlon iawn i gyfarfod â Phrif Swyddog Medrwn Môn i drafod y canlyniad mewn manylder.  Roedd yr adolygiad wedi arwain at benderfyniadau penodol oedd yn dod i rym ar unwaith ac roedd hefyd wedi nodi materion fydd yn cael sylw y flwyddyn nesaf oherwydd bod angen mwy o amser cyn y gellid gwneud penderfyniad ynglyn â hwynt.  Yn ogystal â thrafod y materion hyn gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn bydd yn rhaid cael trafodaeth ynglyn â hwyluso’r materion hyn ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Iechyd.  Roedd yr adolygiad wedi edrych ar gontractau o safbwynt tynhau trefniadau, ailwerthuso’r comisiwn ac/neu fuddsoddiad gyda ffocws fydd yn golygu cynnal trafodaethau gyda sefydliadau unigol.  Eisoes fe ddywedwyd wrth y trydydd sector ei bod yn debygol y ceir gostyngiad 5.2% mewn cyllid ac y mae clwstwr bychan o gontractau wedi dod i ben tra bo rhai eraill yn destun toriad mwy.

 

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymunedol ym Mwrdd Prifysgol Betsi Cadwaladr bod y Bwrdd Iechyd ar hyn o bryd yn comisiynu £1.5m o wasanaethau trydydd sector a’i fod yn cynnal adolygiad datblygiad strategol i helpu’r sefydliad i benderfynu ar natur  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 2.

3.

Cwrdd â'r Heriau - Ymgynghori ar y Gyllideb 2014-15 pdf eicon PDF 4 MB

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014-15 fel y’u hamlinellir yn y Ddogfen Cwrdd â’r Heriau  - Ymgynghori ar Gyllideb 2014 -15.

Cofnodion:

 

Cyflwynwyd er sylw’r Pwyllgor, gynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2014/15, gan gynnwys gostyngiadau gwasanaeth ac arbedion effeithlonrwydd fel yr amlinellwyd yn y ddogfen Ymgynghori o’r enwCwrdd â Heriau’r Gyllideb”.

 

Dosbarthwyd yn y cyfarfod y cynigion arbedion manwl a wnaed gan yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol yn y meysydd Gofal Cymdeithasol i Oedolion, Anableddau Dysgu a Gwasanaethau Plant ac na chawsant eu hymgorffori yn y ddogfen Ymgynghori.  Esboniwyd y cynigion hynny gan y Cyfarwyddwr Cymuned a dywedodd hithau y byddai blwyddyn ariannol 2014/15 yn un heriol iawn o ran y gyllideb ac nad oedd y sefyllfa ond wedi ei gwella i ryw raddau oherwydd bod y broses ymgynghori a chynllunio wedi cychwyn yn llawer cynt.  Bu llawer o drafodaethau ynghylch cyflwyno cynigion sy’n gyraeddadwy er mwyn ceisio osgoi patrwm o orwariant, yn arbennig felly o ran Gofal Cymdeithasol i Oedolion ac mae’r cynigion hynny yn parhau i gael eu trafod a’u diwygio.  Gwahaniaethwyd rhwng y targedau arbedion a osodwyd ar wasanaethau, gyda rhai gwasanaethau yn gorfod cwrdd â thargedau uwch nag eraill.  Mae trafodaeth yn parhau hefyd mewn perthynas â chyllid grant, gyda Llywodraeth Cymru yn ceisio newid y defnydd o grantiau mewn ffordd sy’n arddel mwy o weithio rhanbarthol.  Gall y newid pwyslais hwn effeithio cytundebau lleol.  Aeth y Swyddog ymlaen i ddweud, er bod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cael mwy o  ddiogelwch cyllidebol na rhai gwasanaethau eraill , roedd yr Adran yn parhau i fod o dan y targed arbedion ac roedd angen gwneud gwaith pellach.  Mewn ymateb i gwestiwn ynghylch mwy o gydweithio mewn perthynas â’r ddarpariaeth anabledd dysgu ym Mryn y Neuadd, dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned fod y gwasanaeth yn integredig iawn o ran rheolaeth a chynllunio.  Mae’r gwaith sydd angen ei wneud yn y gwasanaeth hwn yn ymwneud â gwell arferion cadw ond, o gofio bod y contractau yn ymwneud â chleientiaid unigol, rhaid ymagweddu’n bwyllog a gosod allan gynllun a disgwyliadau’r gwasanaeth yn glir ac yn ofalus.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio ar gyfer Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol fod y Gwasanaethau Cymdeithasol wedi sgriwtineiddio eu gofynion statudol yn ofalus wrth lunio eu cynigion arbedion a’u bod wedi edrych ar yr holl ddarpariaethau eraill ar sail fforddiadwyedd.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod y gostyngiad yn y cymorth cyllidol tuag at y Trydydd Sector wedi bod yn seiliedig ar swm penodol yn hanesyddol.  Mae angen cael trafodaeth bellach ynghylch y cynigion a gyflwynwyd o ran eu goblygiadau i’r Trydydd Sector yn arbennig mewn perthynas â’r ystyriaethau isod

 

           P’un a oes modd cynllunio ymlaen i baratoi’r sector ar gyfer gostyngiadau yn y dyfodol.

           Pu’n a oes modd rhoi arwydd o’r rhagolygon ar gyfer cyllido’r sector yn seiliedig ar y math o batrwm yr oedd yr adolygiad o’r contractau wedi ei ddatgelu ac er mwyn galluogi cynllunio ymlaen llaw ac i nodi cyfleon.

           Yr angen i gael trafodaeth  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Parhad a Newid - Adnewyddu'r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yng Nghymru

Adrodd ar ganlyniad ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar Barhad a NewidAdnewyddu’r Berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a’r Trydydd Sector yng Nghymru.

Cofnodion:

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn wrth y Pwyllgor bod Medrwn Môn wedi ymateb i ddogfennau ymgynghori Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r uchod.  Un o’r argymhellion yr ymgynghoriad yw y bydd grant cyllido’r trydydd sector ar sail ranbarthol o’r flwyddyn nesaf a hynny’n golygu proses o gyflwyno bidiau i gronfa ranbarthol. 

 

Dywedodd y swyddog y bydd y newid hwn yn anorfod yn cael effaith ar y ffordd y bydd y sector yn darparu ei wasanaethau o 2015/16.  Bydd y fformiwla gyllido hefyd angen ei thrafod.  Byddi’r yn cadw’r Pwyllgor yn y pictiwr o safbwynt datblygiadau yn hyn o beth.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod y canllawiau manwl yn cael eu datblygu yng nghyswllt compactau lleol yng Nghymru a hynny’n awgrymu y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio dylanwadu mewn rhyw ffyrdd neu gilydd ar berthynas rhwng y sector a’r awdurdod drwy’r Pwyllgor Cyswllt.

 

Cytunwyd i nodi’r sefyllfa

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

5.

Rhaglen Drawsnewid - Y rhyngwyneb gyda'r Sector Gwirfoddol pdf eicon PDF 419 KB

Trafod y rhyngwyneb rhwng y Rhaglen Drawsnewid a’r Sector Gwirfoddol.

(Copi o Fodel Llywodraethu’r Rhaglen Drawsnewid ynghlwm fel gwybodaeth gefndirol)

Cofnodion:

Eglurodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd wrth Aelodau’r Pwyllgor beth oedd strwythur y Fframwaith Rhaglen Drawsnewid.  Ceir tri Bwrdd Rhaglen Trawsnewid yn cymryd trosolwg ar fframwaith ac yn ymwneud â rhagoriaeth gwasanaeth, trawsnewid busnes ac Ynys Fenter ac fe geir Byrddau Prosiect dan bob pennawd yn llywodraethu ystod o ffrydiau gwaith perthnasol.  Roedd copi o Fodel Llywodraethu’r Byrddau Rhaglen Trawsnewid wedi ei ddarparu er gwybodaeth i’r Aelodau.  Roedd y meysydd oedd yn dod o dan y Byrddau Rhaglen yn rhai canolog i rhaglen waith lefel uchel yr Awdurdod ac roeddent yn rhoi gwybodaeth ar gyfer y Cynllun Corfforaethol sydd i’w gyhoeddi ddiwedd y mis hwn.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog Medrwn Môn a oedd yna rôl i’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol mewn perthynas â’r Byrddau Rhaglen Cydweithredu Partneriaethol.

 

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd bod y Rhaglen Waith yn cael ei rheoli yn unol â disgyblaethau rheoli prosiect a’i bod yn nodi’r cydranddeiliaid perthnasol.  Bydd swyddogion prosiect yn darparu sianel lle gellir ystyried a oes angen mewnbwn gan y trydydd sector ai peidio.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned bod rhai ffrydiau gwaith penodol o dan y Rhaglen Drawsnewid sy’n ymwneud â gwasanaethau oedolion gan gynnwys anableddau dysgu a chefnogaeth sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac y mae rhai o’r rhain eto i gychwyn oherwydd i waith gael ei flaenoriaethu o amgylch gofal preswyl.  Mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymdrechu i ddefnyddio’r grwpiau cyfredol a’r peirianwaith cyfredol i ymgysylltu gyda’r Trydydd Sector ar y materion hyn e.e. drwy gysylltiadau lleol a thrwy’r grwpiau lleoliaeth.  Un ffrwd waith pwysig a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn nesaf yw’r un o amgylch gofal canolraddol a bydd ei strwythur yn cael ei archwilio ac fe ymgynghorir arno gyda’r sectorau gwirfoddol ac annibynnol.  Y Bwrdd Integredig fydd yn edrych ar y maes gwaith hwn.

 

Cytunwyd i nodi’r wybodaeth

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

6.

Y Broses Sgriwtini

Derbyn diweddariad ar ymgysylltiad y Trydydd Sector gyda phroses sgriwtini’r Cyngor.

Cofnodion:

Dywedodd y Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd wrth Aelodau’r Pwyllgor bod trefniadau yn awr wedi eu rhoi mewn grym i’r Pennaeth Dros Dro Gwasanaethau Democrataidd a Phrif Swyddog Medrwn Môn gyfarfod yn fisol i drafod Rhaglen Waith y Pwyllgor Gwaith.  Yn dilyn cyfarfod rhwng y Prif Swyddog Medrwn Môn a’r Rheolwr Sgriwtini fe gytunwyd y bydd y Rheolwr Sgriwtini yn trefnu sesiwn friffio ar y broses sgriwtini ac ar y cyfleon i gynrychiolwyr sector gwirfoddol y Pwyllgor Cyswllt wneud cyfraniad.  Bydd y Rheolwr Sgriwtini hefyd yn cynnal cyfarfodydd bob dau fis gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn i drafod rhaglenni gwaith y ddau Bwyllgor Sgriwtini gyda golwg ar gynllunio ymlaen.  At hyn, mae rhaglen sgriwtini flynyddol yn yr arfaeth.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn y bydd y trefniadau uchod yn ffurfioli ymrwymiad y trydydd sector i sgriwtini a’i bod yn bwysig yn awr i’r cynrychiolwr trydydd sector fydd yn cymryd rhan yn y broses sgriwtini gael eu hanwytho o ran rhoi drosodd safbwynt y trydydd sector mewn ffordd gytbwys a chryno.  Y dasg yn awr yw ffurfio cronfa addas o gynrychiolwyr trydydd sector all gyfrannu’n adeiladol i broses sgriwtini’r Awdurdod. 

 

Cytunwyd i nodi’r sefyllfa

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

7.

Prosiect Lleisiau Lleol

Derbyn diweddariad ar Brosiect Lleisiau Lleol.

Cofnodion:

Cafwyd gan Ms Lyndsey Williams, Rheolwr Prosiect ddiweddariad ar y gweithgareddau diweddaraf mewn cyswllt â’r Prosiect hwn, fel a ganlyn -

           Datblygu holiaduron gwaelodlin a luniwyd i geisio canfod y lefelau hyder yn y gymuned o safbwynt siarad gyda’r sector cyhoeddus ac a ydynt yn teimlo y gallant gyfrannu mewn gwaith ymgynghori sy’n cael ei arwain gan y gwasanaeth cyhoeddus.  Hefyd i sefydlu a yw’n ddyletswydd ar y sector cyhoeddus i ymgysylltu gyda’r grwpiau mwyaf anodd i’w cyrraedd ac a yw hynny’n cael ei gyflawni.  Mae holiadur gwaelodlin wedi ei ddatblygu yn ogystal i ddarparwyr gwasanaeth i weld eu dulliau hwy o ymgysylltu dros y 12 mis diwethaf.  Bydd yr holiaduron a’u canlyniadau’n cael eu defnyddio i greu fframwaith ar gyfer ymgysylltu a bydd yn darparu strwythur a chyfarwyddyd ar gyfer ymgynghori yn y dyfodol.

           Cafwyd cyflwyniad i Benaethiaid Gwasanaeth yr Awdurdod yn Rhagfyr 2013 ar nodau’r prosiect yn gweithio gyda darparwyr gwasanaeth i edrych ar strwythur ymgynghori a phwysigrwydd adborth o ymgynghoriadau.  Yn dilyn y cyflwyniad mae cyfarfodydd pellach wedi eu trefnu gydag adrannau unigol.

           Cafwyd cyflwyniad ac ymgynghoriad ym mis Rhagfyr ar y cynllun integredig sengl drafft oedd yn edrych yn benodol a oedd blaenoriaethau’r cynllun wedi eu haleinio gyda rhai y cymunedau; a oedd yna unrhyw fylchau ac a yw’r trydydd sector a’r grwpiau cymunedol eisoes yn gwneud peth o’r gwaith y bwriedir i’r cynllun ei gynnwys.

           Cynhaliwyd tri phrosiect portffolio a digwyddiad ym mis Rhagfyr i ystyried y cynllun taliadau uniongyrchol ar yr Ynys. 

           Trefnwyd cyfarfod gyda swyddogion y Cyngor ym mis Chwefror i edrych ar y cynllun corfforaethol o ran sut y gall y portffolio prosiect helpu cymunedau i siapio llinynnau unigol y cynllun drwy ymgynghori.

           Rhoddwyd crynodeb o drafodaeth i Aelodau’r Pwyllgor a hefyd argymhellion o amgylch yr ymgynghoriad Gwneud Gwahaniaeth a ddarparwyd gan Eiriolaeth Gogledd Cymru yn dilyn trafodaeth fanwl yn y Bartneriaeth Cydraddoldeb ac Amrywiaeth.  Mae’r wybodaeth yn ffurfio sail y prosiect Llais Cymunedol wrth sicrhau bod ymgynghori yn dilyn Egwyddorion Cenedlaethol Ymgysylltiad cyhoeddus, sef eu bod ar gael yn rhwydd i bawb, wedi eu cynllunio’n dda, yn caniatáu amser i ymateb mewn gwahanol ffyrdd a bod adborth yn cael ei roi fel mater o arfer dda.

 

Trafododd Aelodau’r Pwyllgor bwysigrwydd cael proses ymgynghori wedi ei strwythuro’n dda gyda gwahanol ddulliau yn cael eu cynnig ar gyfer cynnig atborth.  Crybwyllwyd hefyd yr hybiau  cymunedol a sut y bydd y rhain yn cael eu diffinio.

 

Cytunwyd i nodi’r sefyllfa

 

DIM GWEITHREDU PELLACH YN CODI.

8.

Cyfarfod Nesaf

Cytuno ar ddyddiad a lleoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt.

Cofnodion:

Cytunwyd y bydd y cyfarfod nesaf yn cael ei gynnal yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni ar ddyddiad i’w gadarnhau.