Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Rhosneigr Village Hall
Cyswllt: Shirley Cooke
Rhif. | Eitem |
---|---|
Cadeiryddiaeth Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd Mr. Islwyn Humphreys, Samariaid, yn Gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Diolchodd Mr. Humphreys i’w ragflaenydd y Cynghorydd Alun Mummery am ei waith caled a’i arweiniad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. |
|
Is-gadeiryddiaeth Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor. Cofnodion: Etholwyd Mr. Wyn Thomas, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yn Is-gadeirydd am y flwyddyn i ddod. Dywedodd Mr. Thomas y byddai’n gweithio ar gryfhau’r berthynas rhwng Gwynedd a Môn. |
|
Datgan Diddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb. |
|
Materion yn codi o’r cofnodion – 16 Ionawr 2015 PDF 181 KB Cyflwyno cofnodion drafft y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 16 Ionawr, 2015. Cofnodion: Cyflwynwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 16 Ionawr 2015, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.
Materion yn codi:-
Gan gyfeirio at eitem 3, sef trefniadau ymgysylltu lleol a’r gwaith a wnaed yn Ward Seiriol, rhoddodd Prif Swyddog Medrwn Môn wybod y byddai Lesley Griffiths, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi, yn ymweld â Ward Seiriol ar 5 Tachwedd 2015. |
|
Rhaglen Wella Ynys Môn gyda’r Trydydd Sector PDF 226 KB Derbyn diweddariad yn erbyn y Rhaglen Waith.
a) Adolygiad o’r Trydydd Sector - Adroddiad Terfynol
Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned gan gyfeirio’n benodol at (t 5 & 6): - ADRODDIAD I’W RANNU YN Y CYFARFOD
1. Cylch Gorchwyl y Pwyllgor.
2. Ystyried newid enw Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn Pwyllgor Cyswllt y Trydydd Sector.
3. Enwebu Aelod Arweiniol ar gyfer y Trydydd Sector.
4. Adolygu’r Compact rhwng CSYM a’r Trydydd Sector.
b) Côd Ymddygiad – sylwadau ar yr Adolygiad
Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned / Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog 151 Dros Dro.
c) Compact
Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned / Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro.
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned ar agweddau penodol o waith a wnaed oedd yn sail i’r Rhaglen Wella gyda’r Trydydd Sector, gan ganolbwyntio’n benodol ar yr hyn a ganlyn :-
(a) Adolygiad o’r Trydydd Sector – Adroddiad Terfynol
Cyflwynwyd yr adroddiad terfynol drafft i’r aelodau yn y cyfarfod.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Cymuned fod y Fforwm Penaethiaid wedi cefnogi’r adroddiad a’r trefniadau o fewn y Cyngor i gefnogi arferion llywodraethu a’r argymhellion oedd wedi’u cynnwys ynddo. Yn ogystal, mae swyddog wedi’i adnabod yn y gwasanaethau cyllid i oruchwylio agweddau ariannu yn y dyfodol i wella’r trefniadau rheolaethol. Rhoddodd y Cyfarwyddwr wybod hefyd bod angen trafod yr adroddiad gyda’r Sector Iechyd, a gofynnodd am farn Medrwn Môn ar y cynnwys. Byddai’r adroddiad yn cael ei drafod gan yr Uwch Dîm Arweinyddiaeth wedi hynny.
Yna canolbwyntiodd y Pwyllgor ar yr hyn a ganlyn:-
1. Cylch Gorchwyl y Pwyllgor
Cytunwyd y byddai Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a Phrif Swyddog Medrwn Môn yn adolygu’r Cylch Gorchwyl yng nghyswllt nifer y cyfarfodydd oedd eu hangen am y flwyddyn i ddod; cyfyngiadau amser; argaeledd adnoddau staff.
2. Enw’r Pwyllgor
Penderfynwyd peidio newid yr enw i’r Pwyllgor Cyswllt Trydydd Sector fel y cynigiwyd yn yr adroddiad drafft y cyfeirir ato yn 5(a) uchod.
3. Enwebu Aelod Arweiniol
Penderfynwyd y byddai Arweinydd y Cyngor yn rhoi ystyriaeth i hyn.
(b) a (c) Y Compact a’r Côd Ymddygiad
Adroddodd y Cyfarwyddwr Cymuned fod y Penaethiaid wedi cefnogi’r Compact. Byddai trefniadau yn awr yn cael eu gwneud gyda’r sector gwirfoddol i lansio’r Compact yn ffurfiol ynghyd â’r Côd Ymddygiad cysylltiedig.
Diolchodd Prif Swyddog Medrwn Môn i’r Cyfarwyddwr Cymuned am y gwaith a wnaed yn y misoedd diwethaf wrth adolygu dogfennau allweddol. |
|
Rhaglen Ariannol y Cyngor 2016/17 PDF 540 KB Derbyn diweddariad gan Arweinydd y Cyngor / Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro. Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymuned grynodeb o’r sefyllfa gyfredol mewn perthynas â Rhaglen y Cyngor ar gyfer datblygu’r gyllideb ar gyfer 2016/17.
Cyfeiriodd y Cyfarwyddwr yn rhannol at gyfres o gyfarfodydd adolygu oedd yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd i adolygu cyllidebau gwasanaethau a thrafod swyddogaethau statudol ac anstatudol.
Roedd gwaith pellach wedi’i gynllunio ar gyfer mis Medi, sef gweithdai gydag Aelodau i ddatblygu cynigion. Byddai ymgynghori’n digwydd ar gynigion ynglŷn â’r gyllideb o fis Tachwedd ymlaen. |
|
Trefniadau Caffael y Cyngor Derbyn diweddariad gan y Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 Dros Dro/Swyddog Caffael. Cofnodion: Rhoddodd y Swyddog Caffael Corfforaethol grynodeb o Bolisi Caffael newydd y Cyngor a’r newidiadau i Reolau Gweithdrefn Contract a fabwysiadwyd gan y Cyngor ym mis Mai 2015. Cyfeiriwyd yn benodol at agweddau caffael yn y Côd Ymarfer ariannu.
Rhoddodd y Swyddog Caffael Corfforaethol wybod ymhellach ei fod yn fodlon trefnu sesiwn briffio ar gyfer y sector gwirfoddol ar drefniadau caffael newydd yn o fuan mewn ymgynghoriad gyda Medrwn Môn. |
|
Lleisiau Cymunedol - Diweddariad - Medrwn Môn Derbyn diweddariad ar weithgareddau’r prosiect. Cofnodion: Rhoddodd Ms Lyndsey Williams, Lleisiau Cymunedol/ Medrwn Môn grynodeb o’r cynnydd mewn perthynas â’r prosiect Lleisiau Cymunedol a’r gwaith a wnaed ar draws sectorau penodol mewn ardaloedd amrywiol yn Ynys Môn. Roedd Medrwn Môn yn gweithio gyda’r Cyngor Sir i wneud y defnydd mwyaf o amryw o gynigion ymgysylltu lleol a sefydlwyd i wella trefniadau lleol. Caiff adroddiad cynnydd pellach ei gyflwyno i’r cyfarfod nesaf. |
|
Ystyried Arfer Orau – Un Pwynt Mynediad – Medrwn Môn Derbyn diweddariad gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn. Cofnodion: Cyfeiriodd Prif Swyddog Medrwn Môn at ganllawiau arfer orau a baratowyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru a gofynnodd i’r Cyngor ystyried y ddogfen pan fyddai’n rhoi sylw i fodelau darparu gwasanaeth yn y dyfodol a modelau trosglwyddo asedau. |
|
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant Derbyn diweddariad gan y Cyfarwyddwr Cymuned. Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Cymuned diweddariad i’r Pwyllgor ar gynnydd mewn perthynas â gofynion penodol yn codi o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yn arbennig, cyfeiriodd at sefydlu Bwrdd i oruchwylio’r gofynion yn lleol. Câi adroddiad pellach ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn yn y dyfodol agos. |
|
Strategaeth Trydydd Sector BIPBC Derbyn diweddariad gan Gyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygiad Cymunedol, BIPBC. Cofnodion: Rhoddodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymunedol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ddiweddariad i’r Pwyllgor ar waith a wnaed i ddatblygu Strategaeth Trydydd Sector, a dderbyniodd gefnogaeth y Bwrdd ym mis Ebrill 2015. Yn sail i’r strategaeth oedd yr angen i wella trefniadau cyfathrebu a llywodraethu. |
|
Ymgynghoriad “Trosglwyddo Asedau Cymunedol yng Nghymru” Derbyn diweddariad ar yr Ymgynghoriad. Cofnodion: Trafodwyd yr eitem hon dan Eitem 9 uchod.
Materion Eraill
Adroddodd y Cadeirydd na fyddai Aled Roberts (Taran) yn mynychu’r Pwyllgor hwn mwyach gan fod Taran wedi dod i ben.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol ym Medrwn Môn ar 2 Hydref 2015. |