Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Neuadd y Pentref/Village Hall, Penysarn

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Cofnodion:

Yn absenoldeb y Cadeirydd a'r Is-Gadeirydd, etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn o'r Pwyllgor.

 

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Mrs Annwen Morgan i'w chyfarfod cyntaf o Bwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol.  Ar ran y Pwyllgor, cydymdeimlodd y Cadeirydd â Mr J.Huw Jones, y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn ei brofedigaeth o golli ei dad.

 

Cyn dechrau busnes y cyfarfod, cafodd y Pwyllgor  hanes byr o sut y cafodd Neuadd Bentref Penysarn ei sefydlu a’i datblygu.

2.

Datgan Diddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog yng nghyswllt unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion Cyfarfod 14 Hydref, 2015 pdf eicon PDF 250 KB

Cyflwyno, er cadarnhad, cofnodion drafft cyfarfod y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2015.

 

Materion yn codi ohonynt a diweddariadau:-

 

1.      Côd Ymarfer ac Ymrwymiadau Ariannu

 

2.      Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant

 

3.      Gallu a Gwytnwch y Trydydd Sector

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 14 Hydref, 2015 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion -

 

  Gofynnodd Prif Swyddog Medrwn Môn am eglurhad ar statws yr Adroddiad Terfynol ar yr Adolygiad o'r Trydydd Sector ac a fyddai'r canfyddiadau’n cael eu rhannu gydag ef.  Cadarnhaodd  Arweinydd y Cyngor bod dadansoddiad manwl o fuddsoddiad yr Awdurdod Lleol yn y Trydydd Sector wedi cael ei wneud gan y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 ac y byddai Prif Swyddog Medrwn Môn yn cael cyfle i’w weld.

  Cadarnhaodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod sesiwn friffio ar gyfer y trydydd sector ar drefniadau tendro wedi ei chynnal gyda Swyddog Caffael y Cyngor ac wedi bod o fudd. Fodd bynnag, roedd bylchau yn parhau yng ngwybodaeth y sector, yn enwedig mewn perthynas â chaffael.

  Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn ei fod wedi cyfarfod â'r Prif Weithredwr mewn perthynas â defnydd posibl o gronfeydd yr Ymddiriedolaeth Elusennol. Mae Bwrdd Medrwn Môn yn awyddus i ddatblygu syniadau a gofynnir am gyfarfod arall maes o law. Mae'n bwysig hefyd bod y Cyngor yn cael sicrwydd bod y sector yn gwneud defnydd effeithiol o'r cyllid y mae'n ei dderbyn a’i fod yn gallu dangos bod ei drefniadau llywodraethu yn gadarn.

  Côd Ymarfer Cyllido - nodwyd bod y Brif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) yn adolygu trefniadau partneriaeth y Cyngor yn eu cyfanrwydd ar hyn o bryd ac y bydd statws y Côd yn eglurach yn dilyn yr adolygiad. Fodd bynnag, awgrymwyd bod y Côd Cyllido yn cael ei anfon at y Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151 am sylwadau.

 

CAM GWEITHREDU YN CODI: Prif Weithredwraig Gynorthwyol i ddilyn i fyny mater y Côd  Ymarfer Cyllido gyda'r Pennaeth Adnoddau a’r Swyddog Adran 151.

 

  Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiantnodwyd y pwysau sy’n debygol o ddod yn sgil y ddeddf.  Nodwyd hefyd mai’r hyn sy'n newydd yn y Ddeddf yw'r pwyslais a roddir ar y dimensiwn llesiant ac ar ymagwedd sy’n canolbwyntio ar y person. Mae'r Trydydd Sector yn gweithio gyda'i bartneriaid ynghylch y defnydd gorau o’i adnoddau ac i ddatblygu gwybodaeth, cyngor ac eiriolaeth fel nad yw problemau bach yn troi'n rhai mawr sydd angen ymyrraeth arbenigol. Mae ffocws ar waith ataliol. Nodwyd y bydd yn rhaid ailystyried sut mae gofal yn cael ei ddarparu fel bod y ddarpariaeth yn bodloni anghenion yr unigolyn mewn modd sy'n cyd-fynd â dymuniadau'r unigolyn ac mewn ffordd sy'n gwneud y defnydd gorau o'r hyn sydd ar gael yn y gymuned. Mewn rhai achosion, gallai hyn gynnwys mesurau syml megis cymorth gyda siopa neu fynd i'r afael ag unigrwydd, sef materion nad oes angen pecynnau gofal drud ar eu cyfer o reidrwydd.  Mae’n golygu darganfod beth yw anghenion yr unigolyn ac mae’n ymwneud cymaint â mabwysiadu ymagwedd a meddylfryd gwahanol ag ydyw â defnyddio adnoddau mewn ffordd fwy effeithlon.  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 3.

4.

Cyllideb 2016/17

Ystyried cynigion cychwynnol y Pwyllgor Gwaith ar gyfer Cyllideb 2016-17 fel y’u hamlinellir yn y Ddogfen Cwrdd â’r Heriau  - Ymgynghori ar Gyllideb 2016-17.

 

Dogfen ymgynghori  ar gael ar wefan y Cyngor:-

 

http://www.ynysmon.gov.uk/Journals/p/v/n/Consultation-Document_201617_Cymraeg.pdf

Cofnodion:

Rhoddodd Arweinydd y Cyngor y wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ar sefyllfa'r Gyllideb a oedd wedi ei lleddfu i raddau gan ostyngiad a oedd yn llai na'r disgwyl yn y Grant Cynnal Refeniw ac eglurodd y goblygiadau o ran y bwlch ariannu, yr arbedion sydd raid wrthynt a’r arbedion oedd wedi'u nodi hyd yn hyn. Cadarnhaodd yr Arweinydd bod y gostyngiad yn y cyllid i’r Trydydd Sector yn llai nag y nodwyd gyntaf. Bydd adroddiad ar y gyllideb yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor Sgriwtini Corfforaethol yn ei gyfarfod ar 1 Chwefror, 2016 cyn llunio cynigion cyllidebol terfynol y Pwyllgor Gwaith ar 7 Mawrth, 2016 i'w cyflwyno i'r Cyngor llawn ar 10 Mawrth, 2016. Rhoddodd yr Arweinydd wybod i’r cyfarfod hefyd am hanfod ymateb y cyhoedd i'r ymgynghoriad ynghylch y gyllideb.

 

Tra'n nodi bod rhai cyrff wedi gweld toriad yn eu cyllid, cydnabu cynrychiolwyr y trydydd sector nad yw'r sefyllfa mor ddifrifol ag yr ofnwyd yn wreiddiol ond roeddent yn parhau i deimlo y gellid gwella’r  broses trwy gynnal deialog cliriach gyda sefydliadau a thrwy egluro’n well sut y gwneir penderfyniadau yngylch gostyngiadau arfaethedig.  Cytunwyd i nodi'r sefyllfa.

5.

Lleisiau Lleol

Derbyn diweddariad gan Medrwn Môn.

 

Cofnodion:

Rhoddodd Ms Lyndsey Williams ddiweddariad i'r Pwyllgor am weithgareddau Lleisiau Cymunedol mewn perthynas â'r canlynol -

 

      Y Gyllideb

      Horizon

      Panel Dinasyddion

      Sgriwtini

      Ymgynghoriad Trydydd Sector Medrwn Môn ar Gyllideb 2016/17 a'r

       ymatebion a gafwyd gan fudiadau trydydd sector

      Cyd-Fwrdd Ymgysylltu ac Ymgynghori

 

Tynnwyd sylw hefyd at adroddiad Archwilydd Cyffredinol  Cymru - Astudiaeth Gwella Llywodraeth Leol Cymru Gyfan: Cyllido Gwasanaethau Trydydd Sector yn 2015-16 gan Gynghorau. Cytunwyd y byddai Prif Swyddog Medrwn Môn yn anfon copi o'r adroddiad at Brif Weithredwraig Gynorthwyol (Partneriaethau) a Swyddog Caffael y Cyngor.

6.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 494 KB

Cyflwyno adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Rhagfyr, 2015.

Cofnodion:

Cyflwynwyd a nodwyd Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod o Ionawr i Awst 2016.

7.

Cynllun Datblygu - Compact

Derbyn diweddariad gan y Prif Swyddog ar y Cyd, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Awgrymodd Prif Swyddog Medrwn Môn ac fe’i nodwyd, fod angen rhoi ystyriaeth i sefydlu cerrig milltir allweddol ar gyfer busnes y Pwyllgor ar draws ei dri chyfarfod bob blwyddyn e.e. ymgynghori ar y gyllideb; adolygu effeithiolrwydd y Côd Cyllido a'r Compact a Strategaeth y Trydydd Sector, a hynny er mwyn sicrhau ei fod yn cadw ar ben y materion ac yn ymwybodol o'r pethau sy'n gweithio'n dda a’r rheini nad ydynt.

8.

Cyfarfod Nesaf

Cofnodion:

Cytunwyd y byddai cyfarfod nesaf y Pwyllgor a drefnwyd ar gyfer dydd Gwener, 8 Gorffennaf, 2016 yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Gymunedol Bodorgan.