Rhaglen a chofnodion

Neuadd Goffa, Llanfairpwll, Pwyllgor Cyswllt Y Sector Gwirfoddol - Dydd Iau, 12fed Ionawr, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Neuadd Goffa, Llanfairpwll

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Etholwyd Alun Mummery yn Gadeirydd ar y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Mawrth 2017.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Islwyn Humphreys yn Is-gadeirydd ar y Pwyllgor.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 188 KB

·           Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod o’r Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf, 2016.

 

·           Cyflwyno cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a drefnwyd ar gyfer 13 Hydref, 2016.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2016, a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Materion yn codi:-

 

Eitem 1 - Cadeirydd

 

Mewn perthynas â rôl cynrychiolydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) ar y pwyllgor, penderfynwyd y byddai’r Dirprwy Brif Weithredwr yn gofyn am gadarnhad gan yr Ymddiriedolaeth.

 

Gweithredu: Fel y nodwyd uchod.

 

Eitem 3 – Cofnodion 14 Hydref 2016

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol ei bod wedi rhannu’r wybodaeth y gofynnwyd amdani mewn perthynas â buddsoddiad yr Awdurdod yn y Trydydd Sector gyda Phrif Swyddog Medrwn Môn.

 

Eitem 5 – Adolygu’r Cod Ymarfer Cyllido a Dyraniad y Sector Gwirfoddol 2015/16

 

Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bod yr Ymddiriedolaeth Elusennol wedi gofyn am gyfarfod gyda’r Pennaeth Swyddogaeth (Adnoddau)/Swyddog Adran 151 i drafod y posibilrwydd o dderbyn cyllid gan yr Ymddiriedolaeth.

 

Eitem 6 – Strategaeth y Sector Gwirfoddol a Rôl y Pwyllgor Cyswllt

 

Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bod Bwrdd Medrwn Môn wedi trafod opsiynau pellach i gryfhau’r trefniadau partneriaeth presennol mewn perthynas â drafftio strategaeth ar gyfer gweithio ar y cyd.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol bod y data a gasglwyd o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ar y Ddeddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn cael ei ddadansoddi.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol y byddai Llio Johnson, yr Uwch Reolwr Partneriaeth, yn rhoi diweddariad yng nghyfarfod nesaf Bwrdd Medrwn Môn.

 

Nododd y Pwyllgor nad oedd cworwm yng nghyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a drefnwyd ar gyfer 13 Hydref 2016, ac o ganlyniad ni chynhaliwyd y cyfarfod.

5.

Gweithio mewn Partneriaeth

Derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bapur trafod ar y weledigaeth a’r strategaeth ar gyfer gweithio mewn partneriaeth gyda’r Trydydd Sector ar Ynys Môn, a’r angen i gael cynllun gweithredu i wireddu gweledigaeth a nodau’r dogfennau strategol a gynhyrchwyd h.y. Compact, Cod Cyllido, Polisi Gwirfoddol, Polisi Partneriaeth.

 

Roedd y Prif Swyddog, Medrwn Môn yn cydnabod, er gwaetha’r ffaith bod y sector wedi wynebu nifer o heriau yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda chyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a’r bartneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), bod cyfraniad y Sector yn cael effaith gadarnhaol ar y defnyddwyr gwasanaeth. Nodwyd bod angen gwneud gwaith pellach i gynnwys Medrwn Môn yn y trafodaethau, i wella cyfathrebu, ac i ymateb yn fwy effeithiol i aelodau’r cyhoedd.

 

Cyfeiriwyd at lwyddiant hybiau cymunedol ym Miwmares, Porthaethwy ayb o ran dod â phobl ynghyd a rhannu syniadau ac adnoddau. Nodwyd fod y model hybiau cymunedol yn caniatáu i unigolion wneud penderfyniadau am weithgareddau yn eu cymunedau.

 

Gweithredu:

 

Medrwn Môn, mewn ymgynghoriad â Chyngor Sir Ynys Môn i ddrafftio cynllun gweithredu i’w gyflwyno yn y cyfarfod nesaf.

6.

Lleisiau Lleol

Derbyn diweddariad gan Medrwn Môn.

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at eitem 8 yng nghofnodion cyfarfod 8 Gorffennaf 2016, sy’n nodi y byddai’r prosiect Lleisiau Lleol yn dod i ben ddiwedd Mawrth 2017.

 

Nodwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal â’r Loteri Genedlaethol am drefniadau cyllido’r Trydydd Sector yn y dyfodol. Cyflwynir cais am grant ddiwedd mis Mawrth 2017, a phetai’r cais yn llwyddiannus byddai’n sicrhau dyfodol y prosiectau canlynol:

 

  Panel Dinasyddion;

  Ymgysylltu ac Ymgynghori â’r Cyngor Sir;

  Fframwaith Plant a Phobl Ifanc ar gyfer gweithio gyda’r Cyngor Sir;

  Model ar gyfer Adeiladu Cymunedau.

 

Nodwyd hefyd bod Medrwn Môn wedi gwneud cais am gyllid i’r Ymddiriedolaeth Elusennol.

 

Mewn perthynas â’r ymgynghoriad ar Gyllideb 2017/18, gofynnodd Medrwn Môn am eglurhad ynglŷn ag effaith toriadau yn y gyllideb ar drefniadau ariannu’r Trydydd Sector yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf.

 

Yn codi o’r drafodaeth, amlygwyd bod diffyg gwirfoddolwyr yn y Trydydd Sector, a bod angen datblygu sgiliau gwirfoddoli. Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ffyrdd o annog pobl i wirfoddoli, a’r posibilrwydd o ddefnyddio sgiliau’r nifer fawr o wirfoddolwyr sy’n gysylltiedig ag Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn 2017.

 

Gweithredu:

 

Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd i drafod yr agwedd hon gyda swyddogion yr Eisteddfod Genedlaethol.

7.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 506 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Rhagfyr, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd Flaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod Ionawr i Awst 2017, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 19 Rhagfyr 2016.

 

Anfonir y Rhaglen Waith i Medrwn Môn yn fisol er mwyn rhoi diweddariad i’r Sector ar faterion sydd wedi eu hamserlennu i’w hystyried gan y Pwyllgor Gwaith a’r Pwyllgorau Sgriwtini.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

8.

Cyfarfod Nesaf

Cytuno ar leoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau, 13 Gorffennaf, 2017.

Cofnodion:

Yn dilyn trafodaeth am gynnal cyfarfodydd yn ganolog yn y dyfodol, cytunodd y Pwyllgor i gynnal y cyfarfod nesaf, sydd wedi ei drefnu ar gyfer dydd Iau, 13 Gorffennaf 2016, yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

 

Penderfynwyd cynnal bob 2 gyfarfod allan o dri yn fewnol ac 1 yn allanol. Cytunwyd i adolygu’r trefniant hwn yn y dyfodol.