Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cafwyd trafodaeth am ethol Cadeirydd y Pwyllgor Cyswllt ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

 

Cytunwyd y dylid gohirio ethol Cadeirydd tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt er mwyn cael cadarnhad am rôl bresennol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o fewn y Pwyllgor. 

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Fel yr uchod.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem ar y rhaglen.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

4.

Cofnodion - 15 Ionawr, 2016 pdf eicon PDF 168 KB

Cyflwyno cofnodion drafft y cyfarfod diwethaf o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion cyfarfod diwethaf y Pwyllgor Cyswllt Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 15 Ionawr, 2016 ac fe’u cadarnhawyd fel rhai cywir. 

 

Materion yn codi:-

 

Eitem 3 - Cofnodion - 14 Hydref, 2016

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at y pwynt cyntaf yn Eitem 3 o’r cofnodion. Yng nghyfarfod blaenorol y Pwyllgor Cyswllt, cytunwyd gydag Arweinydd y Cyngor y dylai’r Prif Swyddog gael copi o ddadansoddiad manwl y Pennaeth Adnoddau o fuddsoddiadau’r Awdurdod yn y Trydydd Sector. Nododd y Prif Swyddog nad oedd wedi derbyn y wybodaeth hyd yma. 

 

GWEITHRED:

 

Prif Weithredwr Cynorthwyol i ddilyn hyn i fyny gyda’r Pennaeth Adnoddau, sef cais Prif Swyddog Medrwn Môn am wybodaeth ar fuddsoddiad yr Awdurdod yn y Trydydd Sector. 

5.

Adolygiad o'r Côd Ymarfer Cyllido a Dyraniad Cyllidol y Sector Gwirfoddol 2015/16 pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad mewn perthynas â’r uchod, fel y’i cyflwynwyd i ’r Pwyllgor Gwaith ar 14 Mawrth, 2016.

Cofnodion:

Adolygiad o’r Cod Ymarfer Cyllido a Dyraniad y Sector Gwirfoddol 2015/6

Adroddodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn bod y Cod Ymarfer Cyllidol wedi’i gytuno arno a bod cyllid y Sector Gwirfoddol bellach wedi’i ddyrannu. Nododd fod gan y Pwyllgor gyfle yn awr i adolygu’r Cod Ymarfer. Nodwyd bod Medrwn Môn wedi anfon holiadur i’r Sector Gwirfoddol er mwyn adolygu profiadau, cynnydd a chyfathrebu.   

 

Gan gyfeirio at y gostyngiad mewn cyllid ar gyfer y Trydydd Sector, nododd y Cadeirydd, a oedd yn cynrychioli’r Samariaid ar y Pwyllgor hwn, nad oedd yr elusen wedi derbyn arian ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Roedd y broses o lenwi’r ffurflen wedi achosi rhwystrau o ganlyniad i gyfrinachedd. Nododd y byddai’n rhaid ystyried dull newydd ar gyfer ariannu’r trydydd sector yn y dyfodol.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at yr Ymddiriedolaeth Elusennol a gofynnodd am eglurder gan y Pennaeth Adnoddau am unrhyw nawdd posibl a oedd ar gael drwy’r Ymddiriedolaeth. 

 

GWEITHRED:

 

Fel y nodwyd uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

 

6.

Trafod Strategaeth y Sector Gwirfoddol a Rôl y Pwyllgor Cyswllt

Y Prif Swyddog Medrwn Môn i adrodd.

Cofnodion:

Nododd y Prif Swyddog, Medrwn Môn fod y Compact wedi’i gytuno arno, yn cynnwys yr egwyddorion a’r Cod Ymarfer Cyllido, sy’n nodi'r ymrwymiadau mewn perthynas â’r Polisi Gwirfoddoli a’r ddogfen Gweithio mewn Partneriaeth.

 

Nodwyd bod cynnydd wedi’i wneud mewn sawl maes er mwyn datblygu trefniadau ymgysylltu effeithiol ar gyfer gweithio mewn partneriaeth. Fodd bynnag, gellir cyflawni mwy ar sail fwy ffurfiol drwy strwythuro’r berthynas a datblygu un strategaeth ar gyfer cydweithio e.e. Compact, Lleisiau Lleol, Bwrdd Ymgysylltu, AHNE, Fforwm Iaith Gymraeg Ynys Môn.

 

Cytunwyd y dylai Bwrdd Medrwn Môn drafod opsiynau pellach ar gyfer adeiladu ar drefniadau’r bartneriaeth bresennol. Cytunodd y Prif Swyddog i ddrafftio strategaeth i gynnwys y dogfennau uchod a sut y gellid eu defnyddio’n ymarferol.

 

GWEITHRED:

 

Fel y nodwyd uchod

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

7.

Rôl y Sector Gwirfoddol yn Strwythur Sgriwtini'r Cyngor Sir

Y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Gwella Partneriaethau, Cymunedau  a Gwasanaethau) i adrodd.

Cofnodion:

Gofynnwyd am eglurder ynghylch pam nad oes gan y Sector Gwirfoddol rôl statudol ar y Pwyllgorau Sgriwtini. 

 

Yn dilyn ymgynghoriad â’r Pennaeth Swyddogaeth (Busnes y Cyngor), cadarnhaodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol fod rôl a phresenoldeb y Trydydd Sector yn y ddau Bwyllgor Sgriwtini drwy wahoddiad yn unig. Fodd bynnag, nodwyd bod aelodau’r Eglwys Babyddol a’r Eglwys yng Nghymru yn cael eu gwahodd fel aelodau cyfetholedig.

 

Nododd y Prif Swyddog, Medrwn Môn ei fod yn derbyn gwahoddiad rheolaidd i fynychu’r Pwyllgorau Sgriwtini gan Bennaeth y Gwasanaethau Democrataidd a’i fod yn cael copi o’r Rhaglen Waith Sgriwtini a blaen raglen Waith y Pwyllgor Gwaith, sydd o ddiddordeb i’r Trydydd Sector. Nododd hefyd, er nad oes gan gynrychiolwyr y Trydydd Sector unrhyw hawliau pleidleisio, ei fod yn gobeithio y byddai’r Pwyllgorau Sgriwtini yn gallu elwa o waith y Panel Dinasyddion. Nododd yr hoffai weld proses fwy ffurfiol yn cael ei mabwysiadu.  

 

Awgrymodd y Cynghorydd Aled Morris Jones y dylid cefnogi Medrwn Môn ac y dylai rôl y Sector Gwirfoddol yn y Bartneriaeth ac ar y Pwyllgor Sgriwtini Adfywio gael ei ffurfioli gyda hawliau pleidleisio. 

 

GWEITHRED:

 

Fel yr uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

 

8.

Diweddariad ar ddatblygiadau'r Panel Dinasyddion

Derbyn diweddariad gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Prosiect (Lleisiau Cymunedol) ddiweddariad ar y Panel Dinasyddion Lleisiau Cymunedol a’r Panel Ieuenctid. O ran cyswllt cymunedol, nodwyd bod y Rheolwr Prosiect wedi mynychu cyfarfodydd gyda Chadeiryddion ac Is-Gadeiryddion y Pwyllgor Sgriwtini yn ddiweddar. 

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Prosiect at y fframwaith a fabwysiadwyd gan y prosiect ar gyfer gweithgareddau ymgysylltiad cymunedol gan gynnwys sefydlu’r Panel Dinasyddion a’r Panel Ieuenctid.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Prosiect at Nawdd Loteri a dywedodd y byddai Medrwn Môn yn chwilio am gyllid allanol ar gyfer parhad y prosiectau ond fel y mae pethau ar hyn o bryd, byddai’r cyllid ar gyfer Llais Ni yn dod i ben ym mis Ebrill.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

9.

Paratoi am y Dyfodol o ran Deddfau Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a Chenedlaethau'r Dyfodol

Derbyn cyflwyniad mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Rhoddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion grynodeb o’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sydd mewn grym ers 1 Ebrill, 2016 ynghyd â heriau allweddol, materion gwasanaeth a gofynion y dyfodol.    

 

Cyfeiriodd at Nodau’r Ddeddf fel a ganlyn:-

 

  rhoi llais i’r unigolyn, gyda grym dros y gwasanaethau y maent yn eu derbyn

  galluogi unigolion i gyflawni drwy adeiladu ar eu hamgylchiadau, galluoedd, rhwydweithiau a chymunedau;

  ymyrraeth gynnaryn cynnwys gwasanaethau ataliol;

  cydweithio a chyd-ddylunio partneriaethau cryf.

 

Yn codi o’r drafodaeth, nodwyd y dylai’r Prif Weithredwr Cynorthwyol wahodd Llio Johnson, yr Uwch Reolydd Partneriaeth i fynychu’r cyfarfod nesaf. 

 

Gweithred:

 

Fel y nodwyd uchod.

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

10.

Lleisiau Lleol

Y Rheolwr Prosiect (Lleisiau Lleol), Medrwn Môn i adrodd.

Cofnodion:

Darparodd y Rheolwr Prosiect (Lleisiau Cymunedol) ddiweddariad i’r Pwyllgor ar yr haenau allweddol o ymgynghoriadau a ddefnyddir mewn gwaith partneriaeth rhwng Lleisiau Cymunedol a’r Cyngor Sir mewn perthynas â’r canlynol:-  

 

1.  Yr agweddAdeiladu Cymunedau’;

2.  Yr agweddcanol y ffordd’ (Ymgynghoriad Llyfrgelloedd / Ymgynghoriad Cyllideb / Ymgynghoriad Hybiau Cymunedol)

3.  Yr agweddsylfaenol’ (Clybiau Brecwast/Agwedd Gofal Ychwanegol)

 

Cyfeiriwyd at y fframwaith a’r fethodoleg a ddefnyddiwyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

11.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 504 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y cafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith ar 20 Mehefin, 2016.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng Gorffennaf 2016 a Chwefror 2017 ac fe’i nodwyd. 

 

PENDERFYNWYD nodi’r adroddiad.

12.

Cyfarfod Nesaf y Pwyllgor Cyswllt

Cytuno ar leoliad ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Iau, 13 Hydref, 2016.

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cynnal cyfarfod nesaf y Pwyllgor, sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Gwener 13 Hydref, 2016, yn Neuadd Gymunedol Gwelfor, Caergybi.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr John R Jones am ei gyfraniad gwerthfawr i’r Sector Gwirfoddol a Medrwn Môn a dymunodd ymddeoliad iach a hapus iddo.