Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Canolfan Ebeneser, Llangefni

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Mawrth, 2018.

2.

Is-Gadeirydd

Ethol Is-gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

     Gohiriwyd ethol yr Is-Gadeirydd tan gyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 150 KB

  Cyflwyno i’w cadarnhau, gofnodion drafft y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017.

 

  Cyflwyno er gwybodaeth, gofnodion y cyfarfodydd blaenorol a drefnwyd ar gyfer 13 Gorffennaf, 2017 a 11 Ionawr, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd cofnodion drafft cyfarfod Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol a gynhaliwyd ar 12 Ionawr, 2017 a chadarnhawyd eu bod yn gywir.

 

Yn codi o’r cofnodion:-

 

Eitem 6 – Lleisiau Lleol

 

Cafwyd diweddariad gan Ms Lindsey Williams, Medrwn Môn ar y prosiect Lleisiau Lleol, a ddaeth i ben ddiwedd Mawrth, 2017.  Dywedodd fod cyllid wedi'i ymestyn, o dan y Portffolio Lleisiau Lleol newydd, tan 31 Mawrth, 2018, gyda chyllid ychwanegol wedi'i ddyrannu ar gyfer y prosiect "Llais Ni" (Cyngor Ieuenctid Môn). Nodwyd y byddai'r portffolio yn parhau i fod yn rhan o brosiectau sy'n ymwneud ag adeiladu cymunedau ar ôl Mawrth 2018, a byddai'r gwaith a fabwysiadwyd yn flaenorol gan Lleisiau Lleol yn parhau drwy'r Bwrdd Gwasanaeth ac Ymgysylltu.

5.

Grwp Trydydd Sector

Derbyn adroddiad cynnydd gan y Prif Swyddog, Medrwn Môn.

Cofnodion:

Ni thrafodwyd yr eitem hon.

6.

Cynllun Gweithredu Drafft ar gyfer Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol

Cyflwyno’r Cynllun Gweithredu Drafft y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn a’r Bwrdd Iechyd (BIPBC).

Cofnodion:

Cyflwynodd Prif Swyddog Medrwn Môn fersiwn ddrafft o Gynllun Gweithredu i'r Pwyllgor o'r enw 'Gyda’n Gilydd', sef dogfen ar gyfer y bartneriaeth rhwng Cyngor Sir Ynys Môn, Medrwn Môn a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Nododd bod y Cynllun Gweithredu yn ddogfen weithredol sy’n  esblygu'n barhaus.

 

Gweithredu:

 

  Y Prif Swyddog, Medrwn Môn i drafod Y Cynllun Gweithredu drafft ymhellach gyda swyddogion o'r Cyngor;

  Cyflwyno diweddariad pellach i'r cyfarfod nesaf.

7.

Cylch Gorchwyl ar gyfer y Pwyllgor pdf eicon PDF 253 KB

I adolygu’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd 'Gylch Gorchwyly  Pwyllgor fel y gellid adolygu ei gynnwys.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog, Medrwn Môn at Eitem 2 - bod dwy sedd wag ar hyn o bryd ar gyfer aelodaeth y Trydydd Sector ar y Pwyllgor Cyswllt. Nodwyd fod gan y Sector dri aelod etholedig ar y Pwyllgor ar hyn o bryd.

 

PENDERFYNWYD: -

 

diwygio 'Cylch Gorchwyl' y Pwyllgor fel a ganlyn: -

 

  Adrannau 3-8 – newid y gair 'Bwrdd' i 'Pwyllgor';

  Adran 6 – bod y Pwyllgor yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn gyda’r amod y gellir trefnu cyfarfodydd ychwanegol os bydd angen.

  Bod y Prif Swyddog, Medrwn Môn yn hysbysebu'r ddwy swydd wag am gynrychiolwyr Trydydd Sector ar y Pwyllgor Cyswllt.

8.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 786 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 29 Ionawr, 2018.

Cofnodion:

Cyflwynwyd Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith ar gyfer y cyfnod rhwng

Chwefror a Medi 2018 er gwybodaeth ac i’w nodi.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Rhaglen Waith

yn cael ei diweddaru bob mis, a'i chyflwyno i'r Trydydd Sector er gwybodaeth.

Mae hyn yn rhoi syniad da i’r Sector o’r hyn sy’n digwydd, ynghyd â

gwybodaeth sylfaenol i gefnogi ymgysylltu / mewnbwn gyda'r Sector.

9.

Y Cyfarfod Nesaf

Nodi dyddiad y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor sydd wedi’i drefnu ar gyfer dydd Mawrth, 10 Gorffennaf, 2018 am 2.00 o’r gloch.

 

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid cynnal cyfarfod nesaf y Pwyllgor Cyswllt am 2.00 pm ar 10

Gorffennaf 2018 yn Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.