Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Siambr y Cyngor - Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Shirley Cooke 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Cadeirydd

Ethol Cadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Etholwyd Mr Islwyn Humphreys yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Ebrill 2020.

2.

Is-gadeirydd

Ethol Is-Gadeirydd ar gyfer y Pwyllgor.

Cofnodion:

Etholwyd y Cynghorydd Alun Mummery yn Is-gadeirydd y Pwyllgor Cyswllt hyd at ddiwedd Ebrill 2020.

3.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn datganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

4.

Cofnodion pdf eicon PDF 214 KB

Cyflwyno cofnodion drafft cyfarfodydd blaenorol y Pwyllgor a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

  9 Chwefror 2018

  27 Gorffennaf  2018 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd a chadarnhawyd fel rhai cywir, cofnodion y cyfarfodydd o’r Pwyllgor Cyswllt a gynhaliwyd ar y dyddiadau canlynol:-

 

   9 Chwefror 2019

   27 Gorffennaf 2019

5.

Compact Ynys Môn pdf eicon PDF 451 KB

Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes.

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes fod Compact Ynys Môn wedi cael ei ddiweddaru a’i symleiddio’n ddiweddar a bod ei enw wedi cael ei newid i Gytundeb Partneriaeth Ynys Môn.

 

Dywedodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yr hoffai weld y Cyngor yn ymrwymo i 5 neu 6 o amcanion er mwyn cryfhau’r Cytundeb Partneriaeth. Dywedodd fod angen i bwrpas y Cytundeb fod yn fwy positif gyda’r Cyngor yn mabwysiadu ymagwedd fwy cadarn gan ddefnyddio datganiadau fel “byddwn”, “byddwch”, “gyda’n gilydd, byddwn”. 

 

Gofynnodd y Sector Gwirfoddol am eglurder mewn perthynas â’i rôl o ran y Cyngor ac fel arall. Nodwyd y byddai’r Sector Gwirfoddol yn cefnogi’r Cyngor i drosglwyddo ei negeseuon i’r gymuned.

 

Nodwyd ymhellach fod Medrwn Môn wedi trafod perthynas y Pwyllgor Cyswllt gyda’r Bwrdd Ymgynghori ac Ymgysylltu a sefydlwyd gan y Cyngor. Mae Medrwn Môn wedi cytuno i gyflwyno ei gynigion i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol sydd, yn ei dro, wedi cytuno i rannu amcanion y Cyngor gyda’r Pwyllgor ymhen 3 neu 4 wythnos.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn bod y Sector Gwirfoddol yn teimlo’n analluog i ddylanwadu ar gyllidebau mewn perthynas â’r ymagwedd bartneriaethol, yn enwedig o ran y Bwrdd Iechyd. 

 

Cafwyd trafodaeth ynghylch arfer dda er mwyn sicrhau bod y Bwrdd Iechyd yn cyflawni ei rôl yn y Cytundeb Partneriaeth. Awgrymwyd y dylid sefydlu cynllun cydweithio er mwyn mynd i’r afael â’r mater hwn.  

 

PENDERFYNWYD:-

 

  Bod Medrwn Môn yn anfon ei gynigion mewn perthynas â’r Cytundeb Partneriaeth ymlaen i’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol.

  Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol:-

    yn gweithredu ar adborth gan Medrwn Môn; ac,

    yn paratoi amcanion y Cyngor mewn perthynas â’r Cytundeb

      Partneriaeth; ac

    yn anfon y Cytundeb drafft i’r Pwyllgor ymhen 3-4 wythnos ar gyfer

      ei gymeradwyo.

  Bod y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol yn cyflwyno fersiwn derfynol Cytundeb Partneriaeth Ynys Môn i’r Sector Gwirfoddol yn ei gyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2020.

6.

Polisi Gwirfoddoli pdf eicon PDF 475 KB

Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes.

 

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes fod Polisi Gwirfoddoli’r Cyngor wedi cael ei ddiweddaru mewn perthynas â diogelu a hyfforddiant ar gyfer gwirfoddolwyr. Bydd angen diweddaru’r Polisi ymhellach i gynnwys sylwadau a wnaed gan Adran Adnoddau Dynol y Cyngor yn y man.   

 

Bydd Polisi Gwirfoddoli’r Cyngor yn cael ei adolygu’n flynyddol gan y Pwyllgor Cyswllt fel rhan o’i gylch gorchwyl i weithredu’r egwyddorion yn y Cytundeb Partneriaeth.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

7.

Cod Ymarfer Ynys Môn ar gyfer Ariannu’r Trydydd Sector pdf eicon PDF 1 MB

Derbyn diweddariad ar yr uchod gan y Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes.

Cofnodion:

Dywedoddy Rheolwr Trawsnewid Strategol a Busnes bod y Côd Ymarfer a fabwysiadwyd gan y Cyngor wedi cael ei ddiweddaru’n ddiweddar gan yr

AdranGyllid. Awgrymwyd y dylai’r Cytundeb Partneriaeth a’r Côd Ymarfer gael eu cyfuno’n un ddogfen.  

 

Codwydpryderon ynghylch amseriad cyllid grant allanol ar gyfer y Sector Gwirfoddol.

DywedoddPrif Swyddog Medrwn Môn ei bod yn ofynnol dan y Côd i’r Cyngor roi tri mis o rybudd ynghylch unrhyw grantiau sydd ar gael. Fodd bynnag, nid yw’r polisi hwn yn ymwneud ag unrhyw grantiau sydd y tu allan i reolaeth y Cyngor.    

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a gyflwynwyd.

8.

Cylch Gorchwyl y Pwyllgor pdf eicon PDF 295 KB

I adolygu’r Pwyllgor.

Cofnodion:

 

Eglurodd Prif Swyddog Medrwn Môn nad yw aelodaeth y Pwyllgor Cyswllt ond yn cael ei adnewyddu pan ddaw seddi’n wag. Trafododd y Pwyllgor a ddylai newid ei aelodaeth yn fwy rheolaidd a pha mor aml y dylid cynnal cyfarfodydd.

Cytunwyd parhau â’r system bresennol o benodi aelodau newydd pan ddaw seddi’n wag, a chynnal cyfarfodyddhyd at 3 gwaith y flwyddyn’. 

 

Nodwyd bod dau gynrychiolydd newydd wedi cael eu penodi i wasanaethu ar y Pwyllgor Cyswllt, sef Mr Aled Evans o Age Cymru - Gwynedd a Môn, a Mr Iwan Jones, Swyddog Corfforaethol o BIPBC. 

 

Mynegodd y Pwyllgor bryderon ynghylch diffyg presenoldeb y Bwrdd Iechyd mewn cyfarfodydd. Cytunodd y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol fynd ar ôl mater ei swyddogaeth yn y Cytundeb Partneriaeth gyda’r Bwrdd Iechyd. Awgrymodd fod y Pwyllgor yn ystyried enwebu ail aelod o’r Bwrdd Iechyd i wasanaethu ar y Pwyllgor, o dîm sy’n cael ei arwain gan Ffion Johnstone, ac sy’n gweithio’n lleol ar Ynys Môn.

 

Dywedodd Prif Swyddog Medrwn Môn fod Ann Griffith, Dirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru sydd wedi ei nodi fel sylwedydd yn y Pwyllgor hwn, wedi mynegi awydd i fynychu cyfarfodydd.

             

PENDERFYNWYD:-

 

  Gweithredu ar y newidiadau a nodir uchod o ran Cylch Gorchwyl y Pwyllgor Cyswllt.

  Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol i ymgynghori gyda BIPBC o ran ei rôl yn y Cytundeb Partneriaeth a’r Pwyllgor Cyswllt.

  Bod Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol yn enwebu ail aelod o BIPBC i wasanaethu ar y Pwyllgor Cyswllt.

  Bod pwynt 1.7 y Cylch Gorchwyl yn cael ei ddiwygio i ddarllen ‘bod cofnodion Pwyllgor Cyswllt y Sector Gwirfoddol yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Gwaith yn y man.

  Ymestyn gwahoddiad i Ddirprwy Gomisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru i fynychu cyfarfodydd y Pwyllgor Cyswllt.  

9.

Blaenraglen Waith y Pwyllgor Gwaith pdf eicon PDF 801 KB

Cyflwyno er gwybodaeth, adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd, fel y’i cyflwynwyd i’r Pwyllgor Gwaith ar 28 Hydref 2019.

 

Cofnodion:

Cyflwynwyd er gwybodaeth – Blaen Raglen Waith y Pwyllgor Gwaith am y cyfnod Tachwedd 2019 i Fehefin 2020.

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd fod y Rhaglen Waith yn cael ei hadolygu a’i chyflwyno’n fisol i’r Pwyllgor Gwaith.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith.

10.

Cyfarfod Nesaf

Cynhelir cyfarfod nesaf y Pwyllgor am 2.00 o’r gloch y prynhawn, dydd Mercher, 22 Ebrill 2020 yn Ystafell Bwyllog 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni.

Cofnodion:

Cytunwyd y bydd y cyfarfod nesaf o’r Pwyllgor Cyswllt yn cael ei gynnal am 2.00pm ar ddydd Mawrth, 3 Mawrth 2020.