Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Mawrth, 27ain Mehefin, 2017 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Ni chafwyd yr un datganiad o ddiddordeb.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 305 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd a ganlyn :-

 

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 20 Ebrill, 2017.

·        Cofnodion y cyfarfod a gafwyda r 31 Mai, 2017.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd canlynol fel rhai cywir :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 20 Ebrill, 2017

·           Cofnodon y cyfarfod a gynhaliwyd ar 31 Mai, 2017

4.

Adroddiad Blynyddol Cymunedau Gyntaf pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Tai.

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd gynrychiolwyr o Cymunedau yn Gyntaf Môn Cyf i'r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Tai ar gyflawniadau Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf Môn ar gyfer 2016/17 a chynlluniau i’r dyfodol wedi i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ddod i ben.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Tai a Gwasanaethau Cymdeithasol) fod gan y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf dair thema allweddol: Cymunedau Ffyniannus; Cymunedau Dysgu a Chymunedau Iach. ‘Roedd y prif ffocws yn Ynys Môn o dan y themâu Ffynniannus a Dysgu, gydag ystod o weithgareddau yn canolbwyntio ar wella sgiliau a symud y rheini sydd bellaf i ffwrdd o'r farchnad lafur yn ôl i waith.  Fodd bynnag, ym mis Chwefror 2017, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cabinet ar gyfer Cymunedau a Phlant y byddai'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol erbyn mis Mawrth 2018. Bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cronfa Dreftadaeth o Ebrill 2018 fel y gall  rhai o brosiectau mwyaf effeithiol y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf barhau.   Nododd fod gan y Cyngor, fel y Bwrdd Cyflawni Arweiniol, gysylltiad agos â'r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf ac y bydd angen monitro’n rheolaidd i sicrhau cymorth ar gyfer y Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a bod y rhaglen yn parhau i gyflawni ei gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.

 

Dywedodd y Pennaeth Tai y sicrhawyd £662,200 ar gyfer gweithgareddau Cymunedau yn Gyntaf yn 2016/17.  Gwnaed defnydd llawn o’r arian hwn er mwyn darparu'r ystod ganlynol o weithgareddau: -

 

·        Cymorth Craidd ar gyfer Cyflogaeth

·        Cymorth i Fentrau Cymdeithasol

·                            Cymorth i Fentrau

·                            Cynhwysiad ariannol

·                            Cynhwysiad digidol

·                            Darpariaeth Ieuenctid

·                            Darpariaeth Sgiliau Sylfaenol

·                            Academi Alwedigaethol Gymunedol

 

Er y bydd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf yn cael ei diddymu'n raddol erbyn Mawrth 2018 dywedodd y bydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Cronfa Etifeddiaeth o £6m y flwyddyn o Ebrill 2018; bydd y gronfa’n gweithredu am gyfnod o 4 blynedd. Ni fydd y cyllid mwyach yn cael ei dargedu tuag at glystyrau daearyddol a bydd hynny’n caniatáu i gymunedau eraill ar Ynys Môn elwa ar y Gwasanaethau Cymorth Cyflogaeth a gynigir gan Cymunedau yn Gyntaf Môn.  Mae Cymunedau yn Gyntaf Môn wedi bod yn llwyddiannus dros nifer o flynyddoedd yn sicrhau cyllid allanol ychwanegol fel y dangoswyd yn Atodiad 3 o'r adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Pennaeth Tai at ystod o wasanaethau a roddir i ardaloedd difreintiedig Ynys Môn ac yn benodol at y datblygiad allweddol cyntaf, sef Pod Ieuenctid yn Stryd y Farchnad, Caergybi. Sefydlwyd y Pod i helpu pobl ifanc trwy gynnig ystod o gyfleusterau gyda'r nos ac yn ystod gwyliau'r ysgol ac fe’i defnyddir fel canolfan galw i mewn ar gyfer ymgynghori â'r gymuned a digwyddiadau eraill yn ystod y dydd.

 

Awgrymodd y byddai o fantais i aelodau'r Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio ymweld â Cymunedau yn Gyntaf Môn yng Nghaergybi i gael cipolwg ar y gweithgareddau a gynigir gan y cwmni.

 

Gan mai’r Cyngor yw’r Bwrdd Cyflawni Arweiniol, dywedodd y Pennaeth Gwasanaeth ymhellach fod raid cyflwyno cynllun manwl ar raglen Cymunedau yn Gyntaf Môn i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Mai, 2017. Bydd hefyd yn ofynnol i’r Cyngor nodi  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Pennaeth Rheoleiddio a Datblygu Economaidd mewn perthynas â'r uchod.

 

Dywedodd yr Aelod Portffolio (Cynllunio, Gwarchod y Cyhoedd a Datblygu Economaidd) mai’r  Rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid (LlLlLlA) yw fframwaith adfywio trefol Llywodraeth Cymru, a oedd yn sail ar gyfer dyrannu £100 miliwn o arian cyfalaf yn y cyfnod Ebrill 2014 - Mawrth 2017. Gwahoddwyd pob awdurdod lleol yng Nghymru i gyflwyno cynigion amlinellol ar gyfer y grant LlLlLlA a llwyddodd Caergybi i ddenu grant arian cyfalaf o £7.49m dros dair blynedd.  Roedd y rhaglen yn seiliedig ar fynd i'r afael ag anghenion a chyfleoedd o dan dair thema a oedd yn adlewyrchu blaenoriaethau polisi Llywodraeth Cymru, h.y. Cartrefi, Lle a  Phobl.  Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi’n anffurfiol fod rhaglen adfywio trefol newydd yn debygol o ddigwydd, yn dechrau ym mis Ebrill 2018, ond nid oes cyhoeddiad ffurfiol wedi'i wneud eto. 

 

Dywedodd y Rheolwr Adfywio y sefydlwyd Bwrdd Rhaglen LlLlLlA o Uwch Swyddogion y Cyngor a Llywodraeth Cymru er mwyn goruchwylio a llywio'r rhaglen yn ei chyfanrwydd.  ‘Roedd y rhaglen a’r prosiectau sy’n rhan ohoni’n cael eu cyflawni drwy dri phrif fecanwaith: -

 

·         Y Swyddfa Raglen ar gyfer LlLlLlA yn cyflawni elfennau yn uniongyrchol, sef cynlluniau prosiect ac astudiaethau, digwyddiadau, cysylltiadau cyhoeddus, gwerthuso ac ati

·         Swyddogion eraill y Cyngor yn cyflawni prosiectau cyfalaf, gan ddefnyddio arian LlLlLlA a ddyrannwyd iddynt trwy broses grantiau mewnol, fel arfer ochr yn ochr ag arian arall

·         Sefydliadau eraill yn cyflawni prosiectau cyfalaf, gan ddefnyddio arian LlLlA a ddyfarnwyd iddynt drwy broses grantiau allanol, fel arfer ochr yn ochr ag arian arall

 

Yn seiliedig ar y meini prawf gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Rhaglen LlLlLlA, nododd ei fod yn amlwg mai Caergybi oedd yr unig gais realistig o Ynys Môn.  ‘Roedd yr arian LlLlLlA yn cael ei ddyrannu dros dair blynedd o dan saith pennawd cyllideb y cytunwyd arnynt â Llywodraeth Cymru.  ‘Roedd symiau’r cyllid a ddyrannwyd i’w gweld yn yr adroddiad. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau) fod y Rhaglen wedi sicrhau gwelliannau sylweddol i dref Caergybi. Cyfeiriodd at y prosiect mawr yn Neuadd y Farchnad yng Nghaergybi a fydd yn gwella cyfleusterau yn y dref.

 

Rhoddodd y Pwyllgor sylw i’r adroddiad a chodwyd y prif faterion a ganlyn: -

 

·         Holwyd ynghylch dyrannu cyllid LlLlLlA tuag at y Rhaglen Moderneiddio Ysgolion yng Nghaergybi.  Ymatebodd y Rheolwr Adfywio fod tua £500k o arian LlLlLlA wedi ei  ddyrannu tuag at yr Ysgol Cybi newydd yng Nghaergybi, sy'n rhan o’r Rhaglen  Moderneiddio Ysgolion yn yr ardal. Bydd tair ysgol gynradd yn cael eu hymgorffori o fewn yr Ysgol Cybi newydd;

·         Holwyd a allai tref eraill ar yr Ynys elwa o raglen adfywio trefol newydd bosib yn y dyfodol. Ymatebodd y Rheolwr Adfywio bod yn rhaid i unrhyw gais a wneir yn y dyfodol fod yn realistig a chydymffurfio â’r meini prawf gan Lywodraeth Cymru. ‘Rydym yn disgwyl am y meini prawf hynny ar hyn o bryd. Nododd y bydd trefi mawr eraill yng Nghymru hefyd yn cystadlu am  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Enwebu Aelodau Sgriwtini i wasanaethu ar Banelau a Byrddau pdf eicon PDF 831 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â’r uchod.

Cofnodion:

Cyflwynwyd - adroddiad gan y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro mewn perthynas â'r uchod.

 

Cyfeiriodd y Rheolwr Sgriwtini Dros Dro at y Panelau a'r Byrddau y mae angen  cynrychiolaeth arnynt o blith Aelodau Sgriwtini.  ‘Roedd cylch gorchwyl yr holl Banelau a Byrddau ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD penodi'r aelodau canlynol ar y Panelau a'r Byrddau: -

 

·         Panel Gwella Gwasanaethau Plant - Y Cynghorydd G O Jones

·         Panel Sgriwtini Cyllid - Y Cynghorwyr Dafydd Roberts a Robin Williams

·         Panel Adolygu Cynnydd Ysgolion – y Cynghorwyr Vaughan Hughes, Eric Jones, G O Jones a Margaret M. Roberts

·         Bwrdd Trawsnewid Partneriaethau, Cymunedau a Gwella Gwasanaethau - y Cynghorydd G O Jones. Dirprwy Aelod - Y Cynghorydd R.Ll. Jones

·         Bwrdd Rhaglen Moderneiddio Ysgolion - Y Cynghorydd Robin Williams

·         Bwrdd Rhaglen Rhagoriaeth Gwasanaethau Cwsmer - y Cynghorydd Glyn Haynes

·         Panel Rhiant Corfforaethol - y Cynghorydd Margaret M. Roberts

 

GWEITHREDU: Fel y nodwyd uchod.

 

 

7.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 650 KB

 

Cyflwyno Rhaglen Waith y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Mai, 2018.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Mai 2018.

 

GWEITHREDU : Dim