Rhaglen a chofnodion

Pwyllgor Sgriwtini Partneriaeth ac Adfywio - Dydd Llun, 24ain Medi, 2018 2.00 o'r gloch

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan Aelod neu Swyddog mewn perthynas ag unrhyw eitem o fusnes. 

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 105 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfodydd a ganlyn :-

 

·           Cofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 19 Mehefin, 2018.

·           Cofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 9 Gorffennaf, 2018.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfodydd fel a ganlyn :-

 

·      Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 19 Mehefin, 2018;

·      Cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 9 Gorffennaf, 2018.

4.

Adroddiad Blynyddol 2017/18 - Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol Gogledd Cymru pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaeth Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – Adroddiad Blynyddol Bwrdd Partneriaethau Rhanbarthol Gogledd Cymru 2017/18.

 

Adroddodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) ei bod yn ofyniad dan Ran 9 Deddf Llesiant a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 bod pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn paratoi, yn cyhoeddi ac yn cyflwyno ei adroddiad blynyddol i Lywodraeth Cymru (roedd copi o’r adroddiad wedi’i atodi fel Atodiad 1). 

 

Nododd mai diben Rhan 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yw gwella canlyniadau a llesiant pobl yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran darpariaeth gwasanaethau. Amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio yw:

 

·      Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth

·      Gwella canlyniadau ac iechyd a lles.

·      Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn.

·      Gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau, sgiliau ac arbenigedd.

 

Mae’r Bwrdd yn parhau i gyfarfod yn fisol ar hyn o bryd ac ynghyd â chyfarfodydd busnes mae gweithdai a sesiynau datblygu wedi eu cynnal. Mae cynrychiolwyr o’r holl sefydliadau angenrheidiol a amlinellir yn y Ddeddf yn gwasanaethu ar y Bwrdd ynghyd ag aelodau cyfetholedig o’r Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru. Mae’r Bwrdd hefyd wedi cytuno i gynyddu nifer y cynrychiolwyr unigol a gofalwyr i ddau ac maent ar hyn o bryd yn gweithio drwy’r broses mynegiannau o ddiddordeb. Roedd aelodaeth y Pwyllgor wedi’i amlygu yn yr adroddiad.  

 

Nododd y Prif Weithredwr Cynorthwyol hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r Adolygiad Seneddol o ofal ac iechyd cymdeithasol ac yn dilyn hynny fe gyhoeddwyd dogfen o’r enw ‘Cymru Iachach’. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnig grantiau sylweddol tuag at y Gwasanaeth Iechyd, Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Trydydd Sector er mwyn annog cydweithio rhwng y sectorau. 

 

Dywedodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod meysydd blaenoriaeth wedi eu nodi o fewn yr adroddiad o ran Oedolion Hŷn ag anghenion cymhleth, Anableddau Dysgu, Anghenion Acíwt a Gwasanaethau Integredig ar gyfer Anghenion Teuluoedd a Gofalwyr.  

 

Mae gan y Bwrdd Rhanbarthol drosolwg o’r Gronfa Gofal Integredig ac mae hefyd yn gyfrifol am symud tuag at drefniadau cyllidebau ar y cyd o fewn y gwasanaethau hyn.  

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:-

 

·      Cyfeiriwyd at lwyddiant y gwaith partneriaeth gydag Ysbyty Alltwen yn Nhremadog a holwyd os oedd enghraifft debyg o waith partneriaeth yn bodoli ar Ynys Môn. Ymatebodd Pennaeth y Gwasanaethau Oedolion drwy ddweud fod y model Alltwen yn un priodol ar gyfer ardal arbennig. Mae gan y Cyngor hwn brosiectau cydweithio gyda’n partneriaid yn y gwasanaeth iechyd sy’n cynnwys allanoli gwasanaethau Gofal Cartref a datblygiad y cyfleuster Dementia yn Garreglwyd, Caergybi.    

·      Gofynnwyd am gadarnhad o ran sut mae’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn cydweithio. Ymatebodd y Prif Weithredwr Cynorthwyol (Llywodraethiant a Thrawsnewid Prosesau Busnes) mai rôl Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yw mynd i’r afael ag anghenion cymhleth pobl mewn perthynas â gofal a materion iechyd. Mae rôl y Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus yn ehangach  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Partneriaeth Diogelwch Cymunedol pdf eicon PDF 803 KB

Cyflwyno adroddiad gan Reolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol (Gwynedd ac Ynys Môn).

Cofnodion:

Cyflwynwyd – yr Adroddiad Blynyddol ar y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol ar gyfer Gwynedd a Môn

 

Adroddodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol bod gofyn i'r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol adrodd yn ffurfiol i'r pwyllgor hwn bob blwyddyn. Mae hyn yn sicrhau bod y Bartneriaeth yn cyflawni ei hymrwymiadau yn unol ag adrannau 19 a 20, Deddf Cyfiawnder Troseddol a’r Heddlu 2006.

 

Mae dyletswydd statudol ar Awdurdodau Lleol, yn unol â Deddf Trosedd ac Anrhefn 1998, a'r diwygiadau dilynol i weithio mewn partneriaeth gyda'r Heddlu, y gwasanaeth Iechyd, y gwasanaeth Prawf a'r gwasanaeth Tân ac Achub i roi sylw i'r agenda diogelwch cymunedol yn lleol. Mae gan y Bartneriaeth ddyletswydd i ymdrin â –

 

·      Trosedd ac Anhrefn

·      Camddefnyddio Sylweddau

·      Lleihau Aildroseddu

·      Cyflwyno asesiad strategol i adnabod blaenoriaethau (gwaith sydd bellach yn cael ei wneud yn rhanbarthol)

·      Rhoi cynlluniau ar waith i ymdrin â’r blaenoriaethau hyn (mae cynllun bellach yn bodoli ar sail ranbarthol a lleol)

 

Nodwyd fod y bartneriaeth yn gweithio'n unol â chynllun blynyddol, sy'n seiliedig ar gynllun rhanbarthol tair blynedd. Roedd adroddiad perfformiad diwedd blwyddyn 2017/18 a chynllun 2018/19 wedi eu hatodi gydag adroddiadau’r Pwyllgor hwn. Mae saith blaenoriaeth yn denu sylw'r Bartneriaeth. Dyma'r blaenoriaethau ar gyfer

2017/18 a 2018/19 –

 

·      Lleihau troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr (troseddau meddiangar yn unig)

·      Lleihau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

·      Cefnogi Pobl fregus i’w hatal rhag bod yn ddioddefwyr trosedd

·      Cynyddu hyder i adrodd am ddigwyddiadau o gam-drin domestig

·      Cynyddu hyder i adrodd am gam-drin rhywiol

·      Mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau yn yr ardal

·      Lleihau Aildroseddu

 

Roedd y prif negeseuon  a oedd yn codi o weithgareddau’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol ar gyfer 2017/18 wedi eu cynnwys ar dudalen 3 a 4 o’r adroddiad.

 

Nododd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol y cynyddodd troseddu sy’n seiliedig ar ddioddefwyr ar Ynys Môn 24% yn 2017/18. Ar ôl dadansoddi hyn gwelir fod tystiolaeth mai gwelliant o ran effeithiolrwydd y modd yr adroddir am droseddau yn hytrach na chynnydd mewn troseddu sydd yma; mae'r newidiadau hyn wedi cael effaith arbennig ar nifer yr achosion o Drais a Throseddau Rhywiol a gofnodwyd. Profodd Ynys Môn ostyngiad o 10% mewn Troseddu Meddiangar, gan gynnwys byrgleriaeth preswyl. Mae'r Ymddygiad Gwrthgymdeithasol gaiff ei adrodd i Heddlu Gogledd Cymru yn arbennig o dymhorol gyda nifer sylweddol uwch o ddigwyddiadau yn cael eu hadrodd yn ystod misoedd yr haf o'i gymharu â'r gaeaf. Mae Troseddau Casineb ar Ynys Môn wedi cynyddu'n sylweddol yn y misoedd diwethaf a throseddau a achosir gan hiliaeth yw'r math mwyaf cyffredin, er bod y niferoedd yn fychan iawn. Parhaodd lefelau Trais Rhywiol Risg Uchel a gofnodwyd i fod yn gymharol sefydlog, er bod cynnydd weithiau y gellir ei briodoli i adrodd hanesyddol.

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y materion canlynol:- 

 

·           Gofynnwyd am gadarnhad o ran problemau yn ymwneud â chyffuriau ac a oes problemau gyda gangiau yn cario cyffuriau i’r Ynys. Ymatebodd y Rheolwr Cyflawni Diogelwch Cymunedol fod yr heddlu yn cydweithio’n agos â phartneriaethau o fewn y ‘Grŵp Troseddau Trefnedig’ yn Ynys Môn  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5.

6.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 761 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf, 2019.