Rhaglen a chofnodion

Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.

Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.

Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau

Cyswllt: Mairwen Hughes 

Eitemau
Rhif. Eitem

1.

Ymddiheuriadau

Cofnodion:

Fel y nodwyd uchod.

2.

Datganiad o Ddiddordeb

Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes.

Cofnodion:

Dim.

3.

Cofnodion pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod arbennig a gafwyd ar 12 Rhagfyr, 2018. 

Cofnodion:

Cadarnhawyd cofnodion y cyfarfod arbennig a gynhaliwyd ar 12 Rhagfyr, 2018 fel cofnod cywir.

 

Materion yn Codi

 

Adroddiad Blynyddol GwE 2017/18

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod GwE wedi gwahodd Aelodau o’r Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion i gysgodi gwaith GwE mewn ysgolion yn ystod ymweliadau penodol.  Holwyd a oedd trefniant wedi’i wneud er mwyn cynnal ymweliad o’r fath.  Ymatebodd y Swyddog Sgriwtini fod yr Adran Addysg mewn trafodaethau ar hyn o bryd i gadarnhau’r trefniadau ar gyfer Aelodau i gysgodi gwaith GwE mewn ysgolion ac y bydd diweddariad yn cael ei roi i’r Panel SgriwtiniAdolygu Cynnydd Ysgolion ar 15 Chwefror, 2019.

 

 

4.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol pdf eicon PDF 534 KB

Cyflwyno adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion.

Cofnodion:

Cyflwynwyd – adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion mewn perthynas â’r uchod.

 

Adroddodd Arweinydd y Cyngor a’r Deilydd Portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn darparu canllawiau strategol i’r holl bartneriaid sydd yn cefnogi unigolion i gynnal eu hiechyd a’u llesiant o fewn cymunedau sy’n gwbl gyson â nod y Cyngor i gefnogi oedolion bregus a’u teuluoedd er mwyn eu cadw’n ddiogel, yn iach ac yn annibynnol. Nododd fod Rhan 9 y Ddeddf  Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i bob rhanbarth yng Nghymru sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i oruchwylio Partneriaethau ac  Integreiddiad Gwasanaethau. Sefydlwyd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru yn 2016. Mae’r Ddeddf yn nodi bod angen i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac i sicrhau fod gwasanaethau gofal a chymorth effeithiol mewn lle i ddiwallu anghenion eu poblogaeth leol yn y ffordd orau.  Mae aelodaeth y bwrdd hefyd wedi’i phennu gan ddeddfwriaeth ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r Bwrdd Iechyd a’r Awdurdodau Lleol yn ogystal â chynrychiolwyr y trydydd sector a’r sector annibynnol. Mae’r Bwrdd wedi cyfethol aelodau o Wasanaeth Ambiwlans Cymru, y Gwasanaeth Tân, yr Heddlu a Thai ar y Bwrdd. Rhaid i’r Bwrdd hefyd gael cynrychiolydd ar gyfer Gofalwyr a Defnyddwyr Gwasanaeth. Dywedwyd bod y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wedi’i gefnogi gan y Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol a’r Tîm Cydweithio Rhanbarthol sy’n cael ei letya gan Nghyngor Sir Ddinbych. 

 

Rhoddodd yr Arweinydd fewnwelediad i’r llwyddiannau hyd yma fel y nodwyd yn yr adroddiad, sef:-

 

·      Strategaeth Anabledd Dysgu

·      Strategaeth Gofalwyr

·      Gwaith Integreiddio (Cyllidebau Cyfun a Gwaith y Gronfa Gofal Integredig)

·      Atebolrwydd i’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’u llwyddiannau hyd yma

·      Ymateb Gogledd Cymru i ‘Gymru Iachach’

·      Dylanwad y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn lleol.

 

Adroddodd y Pennaeth Gwasanaethau Oedolion bod yr arweiniad statudol mewn perthynas â gweithrediad Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 angen i awdurdodau lleol wneud trefniadau er mwyn hyrwyddo cydweithrediad â’r partneriaid perthnasol ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gofalwyr a phlant. Mae Rhan 9 o'r Ddeddf hefyd yn darparu ar gyfer trefniadau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol er mwyn cyflawni eu swyddogaethau. O dan y Ddeddf, mae angen i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol er mwyn rheoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gwaith partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac er mwyn sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chymorth effeithiol yn ei le er mwyn gallu bodloni anghenion eu poblogaethau perthnasol. Adroddodd bod gwaith y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn cryfhau dros amser ac mae bod yn rhan o’r Bwrdd yn galluogi’r holl awdurdodau lleol i gael mynediad i gyllid grant sydd ar gae; gan Lywodraeth Cymru er mwyn gallu gwella darpariaethau.     

 

Ystyriodd y Pwyllgor yr adroddiad a codwyd y pwyntiau canlynol:-

 

·      Codwyd cwestiynau o ran a oes yna gydweithio rhwng y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a’r prif wahaniaethau rhwng y Byrddau. Ymatebodd y  ...  Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4.

5.

Rhaglen Waith pdf eicon PDF 160 KB

Cyflwyno, Rhaglen Waith y Pwyllgor hyd at Gorffennaf, 2019.

Cofnodion:

Cyflwynwydadroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.

 

GWEITHRED : Fel yr uchod.