Mae nifer o gyfarfodydd y cyngor yn cael eu ffrydio'n fyw.
Bydd yr holl gyfarfodydd yn cael eu huwchlwytho ar ein gwefan gweddarlledu yn dilyn y cyfarfod.
Lleoliad: Ystafell Bwyllgor 1, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni. Gwelwch cyfarwyddiadau
Cyswllt: Mrs Mairwen Hughes
Rhif. | Eitem |
---|---|
Ymddiheuriadau Cofnodion: Fel y nodwyd uchod. |
|
Datganiad o Ddiddordeb Derbyn unrhyw ddatganiad o ddiddordeb gan unrhyw Aelod neu Swyddog parthed unrhyw eitem o fusnes. Cofnodion: Datganodd y Cynghorydd Nicola Roberts ddiddordeb sy’n rhagfarnu yn eitem 4 – Canllaw Cynllunio Atodol – Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (Drafft yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus) ac nid oedd yn bresennol yn ystod y drafodaeth na’r bleidlais ar y mater.
Mewn perthynas â thrafodaethau ar eitem 4 – Canllaw Cynllunio Atodol – Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (Drafft yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus), datganodd y Cynghorwyr T Ll Hughes MBE, Vaughan Hughes a Dafydd Roberts eu bod yn aelodau o’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion.
Dywedodd y Cynghorydd R A Dew, er nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Sgriwtini, ei fod yn datgan diddordeb mewn perthynas ag eitem 4 – Canllaw Cynllunio Atodol – Cynnal a Chreu Cymunedau Nodedig a Chynaliadwy (Drafft yn dilyn Ymgynghoriad Cyhoeddus).
|
|
Cyflwyno, i’w cadarnhau, gofnodion y cyfarfod a gafwyd ar 12 Mawrth, 2019. Cofnodion: Cadarnhawyd bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Mawrth, 2019 yn gywir.
|
|
Derbyn adroddiad gan y Prif Swyddog Cynllunio. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Rheolwr Polisi Cynllunio – Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd (Gwynedd a Môn) mewn perthynas â’r uchod.
Dywedodd yr Aelod Portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd fod y Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn ym mis Gorffennaf 2017 a’i fod yn weithredol am y cyfnod hyd at 2026. Er bod y Cynllun Datblygu’n cynnwys polisïau sy’n caniatáu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol wneud penderfyniadau cyson a thryloyw ar geisiadau datblygu, nid yw’n gallu darparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar Swyddogion a darpar ymgeiswyr i lywio cynigion yn lleol. Er mwyn darparu’r wybodaeth fanwl hon, mae’r Cynghorau’n paratoi cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA) i gefnogi’r Cynllun a darparu canllawiau manylach ar amrywiaeth o bynciau a materion er mwyn cynorthwyo i ddehongli a gweithredu polisïau a chynigion y Cynllun. Rhoddodd Aelodau’r Panel Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd (sydd yn cynnwys nifer cyfartal o aelodau o Wynedd ac Ynys Môn) ystyriaeth i’r drafft cychwynnol ac, yn dilyn ymgynghori ar y CCA, bydd y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd yn penderfynu a yw’r canllaw yn addas i’w fabwysiadau yn ei gyfarfod ar 23 Mai, 2019.
Adroddodd y Prif Swyddog Cynllunio mai pwrpas yr adroddiad yw codi ymwybyddiaeth aelodau’r Panel Sgriwtini am ddatblygiad y Canllaw Cynllunio Atodol: Cynnal a chreu cymunedau nodedig a chynaliadwy er mwyn sicrhau y creffir arno cyn i’r Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd benderfynu a yw’n addas i’w fabwysiadu yn ei gyfarfod ar 23 Mai, 2019. Nodwyd fod y Pwyllgor Craffu Cymunedau (Cyngor Gwynedd) wedi trafod yr adroddiad ar 4 Ebrill, 2019. Ar ôl iddo gael ei gymeradwyo, bydd y canllaw yn ystyriaeth cynllunio perthnasol wrth ddelio gyda cheisiadau cynllunio a bydd rhaid i’r Pwyllgor Cynllunio a Gorchmynion ddilyn y canllawiau o fewn y CCA. Yn ogystal bydd Llywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio yn rhoi pwys i Ganllawiau Cynllunio Atodol sy’n gyson â chynlluniau datblygu lleol.
Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol yn ceisio sicrhau fod y Polisïau canlynol yn ymwneud â datblygu cynaliadwy yn cael eu hymgorffori yn y broses ddatblygu:-
· PS1 – Yr Iaith Gymraeg a’r Diwylliant Cymreig; · PS5 - Datblygu Cynaliadwy · PS6 – Lliniaru effeithiau Newid Hinsawdd
Pwrpas y CCA a gyflwynwyd i’r Pwyllgor hwn yn darparu canllawiau manwl ar bolisïau penodol er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu’n effeithiol ac yn gyson ar draws ardal y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Ni all canllawiau newid polisïau neu gynigion a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol ac ni ellir cyflwyno polisïau newydd trwy Ganllawiau Cynllunio Atodol.
Dywedodd y Prif Swyddog Cynllunio fod Atodiad 1 yr adroddiad yn cyfeirio at yr ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd mewn perthynas â’r CCA rhwng 3 Rhagfyr 2018 a 31 Ionawr 2019. Nodwyd y derbyniwyd 88 o sylwadau gan 8 o gynrychiolwyr/sefydliadau; cafodd y rhan fwyaf o’r sylwadau eu derbyn heblaw am y materion a gyflwynwyd a oedd yn golygu newid polisïau cynllunio neu a oedd yn cyfeirio at faterion yr oedd y CCA yn mynd i’r afael ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 4. |
|
Adroddiad Cynnydd : Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion PDF 533 KB Cyflwyno adroddiad gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion ac Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiad. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad cynnydd gan Gadeirydd y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion a’r Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant.
Dywedodd y Cadeirydd fod cynrychiolwyr y Pwyllgor wedi bod yn cysgodi gweithgareddau GwE yn ddiweddar yn Ysgol y Borth, Porthaethwy; wedi mynychu Cynhadledd ar gyfer Penaethiaid Ysgolion Gogledd Cymru yn Venue Cymru, Llandudno gyda Shirley Clarke, yr arbenigwraig addysg, yn annerch y Gynhadledd; a sesiwn hyfforddiant gan GwE ar Gwricwlwm Cymru. Nododd y Cadeirydd y bydd yr Aelodau yn adrodd i’r Pwyllgor hwn maes o law ar y gweithgareddau a drefnwyd gan GwE.
Adroddodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion yn ystod y cyfnod 7 Tachwedd, 2018 i 2 Ebrill, 2019. Mae’r Panel wedi cyfarfod â Phenaethiaid Ysgolion a Chadeiryddion Llywodraethwyr ac wedi trafod trefniadau i gysgodi swyddogion GwE mewn nifer o weithgareddau.
Cyfarfu’r Panel fel a ganlyn:-
· 22 Tachwedd, 2018 – Ysgol Gynradd Corn Hir ac Ysgol Gynradd Henblas; · 13 Rhagfyr, 2018 – Ysgol Uwchradd David Hughes a monitro Cynllun Gweithredu’r Gwasanaeth Dysgu; · 24 Ionawr, 2019 – Ysgol Gynradd Bodedern · 15 Chwefror, 2019 – Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac Ysgol Gynradd Santes Fair; · 22 Mawrth, 2019 – Ystyried trefniadau cysgodi swyddogion GwE a hunan arfarniad.
Dywedodd y Swyddog fod y Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi meithrin gwell dealltwriaeth o’r broses gydweithio rhwng yr Awdurdod Addysg a GwE ac wedi cryfhau atebolrwydd o fewn ysgolion Ynys Môn. Nodwyd nad oes yr un ysgol yn Ynys Môn yn y categori coch ac mae’r rhan fwyaf o’r ysgolion yn y categori melyn yn nhablau perfformiad newydd Llywodraeth Cymru.
Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r adroddiad a chodwyd y materion canlynol:-
· Ystyriwyd y dylid rhoi cyfle i bob Aelod o’r Cyngor dderbyn gwybodaeth am y cwricwlwm addysg newydd a’r gwasanaethau a ddarperir gan GwE. Adroddodd y Prif Weithredwr fod trefniadau wedi’u gwneud i gynrychiolwyr o GwE fynychu cyfarfod Briffio Aelodau yn y dyfodol agos i gyflwyno gwybodaeth am y cwricwlwm addysg ac i drafod y ddeddf anghenion dysgu ychwanegol newydd; · Cyfeiriwyd at doriadau ariannol o fewn ysgolion yn gyffredinol ac effaith bosib hynny ar safonau addysgol. Gofynnwyd a yw’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion wedi trafod y mater hwn. Dywedodd yr Uwch Reolwr Safonau a Chynhwysiant y bydd y sefyllfa ariannol yn heriol i ysgolion yn y dyfodol. Nododd y bydd rhaid i ysgolion ganfod ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu’r addysg orau i ddisgyblion.
Diolchodd yr Aelod Portffolio Addysg, Ieuenctid, Llyfrgelloedd a Diwylliant i’r Panel Sgriwtini Adolygu Cynnydd Ysgolion am eu gwaith a dywedodd fod gwaith y Panel wedi cyfrannu at welliannau o fewn ysgolion ar Ynys Môn a’r cydweithio gyda GwE i godi safonau.
PENDERFYNWYD :-
· Cytuno fod y Panel yn herio perfformiad ysgolion unigol yn gadarn; · Nodi fod y Panel yn canolbwyntio ar ddatblygu trefniadau cysgodi gyda GwE er mwyn caniatáu i Aelodau fynychu amryw o ddigwyddiadau monitro, cefnogi a hyfforddi mewn ysgolion; · Nodi y bydd y Panel yn parhau i fonitro gweithrediad Cynllun Monitro’r Gwasanaeth Dysgu; · Nad yw’r Panel ... Gweld y Cofnodion llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Cyflwyno adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini. Cofnodion: Cyflwynwyd – adroddiad gan y Swyddog Sgriwtini ar Raglen Waith y Pwyllgor hyd at fis Gorffennaf 2019.
PENDERFYNWYD nodi’r Rhaglen Waith hyd at fis Gorffennaf 2019.
GWEITHREDU : Fel yr uchod.
|